Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 15 Tachwedd 2022.
Diolch i'r Gweinidog am y cyfle i fod yn trafod yr adroddiad pwysig yma heddiw. Hoffwn gysylltu fy hun â sylwadau'r Gweinidog a Sam Kurtz o ran Aled Roberts. Yn sicr, dwi'n siŵr y bydd pob Aelod yma'n cytuno â mi fod ei waith wedi cael ei barchu a'i edmygu'n fawr ar draws y Senedd. Mae'r cynnydd a amlinellir yn yr adroddiad hwn yn dyst i'w eiriolaeth ragorol dros y Gymraeg, ac mae'n bwysig bod hynny yn cael ei chydnabod ar bob cyfle posibl.
Hoffwn hefyd ategu beth sydd wedi'i ddweud eisoes am waith Gwenith Price, sydd yn parhau, wrth gwrs, ar y funud, am y ffordd mae hi wedi, mewn amgylchiadau anodd iawn, parhau gyda gwaith swyddfa'r comisiynydd, parhau i herio'r Llywodraeth pan fo angen hefyd ar adegau, ond parhau gyda'r gwaith positif sydd angen o ran hyrwyddo'r Gymraeg. Dwi hefyd eisiau dymuno pob llwyddiant i Efa Gruffudd Jones wrth iddi hi fod yn paratoi ar gyfer adeiladu ar y seiliau cadarn sydd wedi'u gadael gan Aled a hefyd Gwenith. Pob hwyl iddi hi.
O ran yr adroddiad, dyma'r cyntaf o'r fath ers dechrau'r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llafur Cymru fis Tachwedd y llynedd. Fel plaid, rydyn ni'n falch iawn o weithio gyda Llywodraeth Cymru i hyrwyddo nifer o ymrwymiadau allweddol ynglŷn â gwelededd, defnydd ac hygyrchedd yr iaith, er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ym mhob rhan o'r genedl. Dwi'n cytuno'n llwyr â chi—bob tro rydych chi'n ei ddweud o, Weinidog, dwi'n ei ailadrodd o—bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae'n neges bwysig ac yn un rydyn ni angen parhau i'w chyfathrebu. Ac yn sicr i mi hefyd ein bod ni'n sicrhau bod y Gymraeg yn agored i bawb a bod pawb yn gallu cael y cyfle hwnnw. Mae yna gymaint o bethau rydych chi wedi'u hamlinellu sydd yn y cytundeb cydweithio, megis y gwersi Cymraeg ac ati, ond yn amlwg mae yna heriau hefyd rydyn ni wedi'u trafod yn aml o ran addysg Gymraeg. Yn amlwg mae'r Ddeddf yn mynd i fod yn bwysig iawn o ran sicrhau nid yn unig bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ond bod pawb efo'r cyfle i'w dysgu hi a'i defnyddio hi a'i mwynhau hi, sydd yn beth mawr.
Er bod rhywfaint o le i optimistiaeth yn yr adroddiad, mae hefyd yn amlwg nad yw cynnydd mewn meysydd eraill i gyd wedi bod mor bellgyrhaeddol ag a gobeithiwyd yn wreiddiol. Yn benodol, mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen i amcanion ac ysbryd 'Cymraeg 2050' fod wrth galon pob datganiad, polisi a gweithred, os yw'r Llywodraeth hon o ddifri ynglŷn â gwireddu'r uchelgais o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ac ar sail hon felly, Weinidog, gaf i ofyn ichi fynegi sut rydych chi yn sicrhau hyn? Yn amlwg, rydym ni wedi gweld penderfyniad gan yr Uchel Lys yn ddiweddar o ran yr ysgol uwchradd cyfrwng Saesneg newydd yng nghwm Tawe, o ran y methiant i asesu'r effaith ar addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Sut, felly, mae pethau o'r fath yn gyson gyda strategaeth 'Cymraeg 2050'?
Yn ei gwrandawiad i'w phenodi, soniodd y comisiynydd newydd am yr angen i flaenoriaethu naws gydweithredol a chefnogol wrth ddelio â sefydliadau ar safonau'r Gymraeg yn hytrach na throi at ddulliau enwi a chodi cywilydd yn y lle cyntaf. Ac er ein bod yn cydnabod, wrth gwrs, gwerth ennill calonnau a meddyliau, mae hefyd yn hanfodol nad yw'r comisiynydd yn cael ei rhwystro rhag defnyddio'r mecanweithiau rheoleiddio cadarn a ddarperir gan y Mesur i sicrhau bod safonau perthnasol yn cael eu cynnal a, lle bo angen, eu cryfhau. Mae hefyd yn werth pwysleisio bod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn 2017 i wanhau rôl y comisiynydd o ran pwerau rheoleiddio wedi’u beirniadu'n hallt ar y pryd, ac mae'n bwysig, felly, nad ydym yn gwastraffu amser yn adfywio hen ddadleuon. Rôn i'n falch o glywed y Gweinidog yn sôn, wrth gwrs, am bwysigrwydd y rôl rheoleiddio. Byddem ni'n gofyn, felly, am sicrwydd bod y comisiynydd yn mynd i gael pob cymorth gofynnol i gyflawni'r pwerau rheoleiddio sydd ar gael iddi ac na fydd hi'n cael ei chyfyngu i rôl o hyrwyddo yn unig.
Yn olaf, Weinidog, hoffwn dynnu eich sylw at achos ddiweddar yn ymwneud â staff deintyddol Bupa yn cael eu cyfarwyddo i ymatal rhag sgwrsio â chydweithwyr yn Gymraeg, yn groes i Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Fe welsoch chi, dwi'n siŵr, y datganiad gan swyddfa'r comisiynydd yr wythnos diwethaf ynglŷn â hyn. Ydych chi'n cytuno bod achosion o'r fath yn tanlinellu'r angen i ymestyn ac atgyfnerthu safonau'r Gymraeg cyn belled ag y bo modd, gan gynnwys y sector preifat? Ac a wnaiff y Gweinidog barhau i gydweithio â ni i gyflawni'r amcanion yma cyn gynted â phosib? Diolch.