Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb, rwy'n croesawu argymhellion yr adroddiad pwysig hwn. Fel y soniodd Paul Davies, mae nifer o'r argymhellion hyn yn adleisio ac yn tanlinellu llawer o'r rhai a wnaed gan nifer o adroddiadau gan y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar faterion sy'n ymwneud â thlodi a'r argyfwng costau byw, yn ogystal â galwadau a wnaed gan lawer o sefydliadau ac ymgyrchwyr gwrthdlodi.
Mae canfyddiadau'r adroddiad ynghylch maint yr argyfwng costau byw yn amlwg yng nghyd-destun ffigyrau chwyddiant heddiw a chanfyddiadau arolwg y comisiynydd plant a ryddhawyd heddiw, a ganfu fod 45 y cant o blant yn dweud eu bod yn poeni ynglŷn â chael digon i'w fwyta. Maent yn tystio i argyfwng na welwyd ei debyg o'r blaen. Efallai ein bod wedi dechrau dod yn rhy gyfarwydd â'r ystadegau brawychus, cywilyddus hyn sy'n datgelu pa mor fregus yw ein dinasyddion yn wyneb sioc economaidd, sut mae ein lefelau o dlodi sydd eisoes yn frawychus wedi golygu bod gormod o bobl wedi bod ar ymyl dibyn peryglus am gyfnod rhy hir, a'u sefyllfa ariannol ansicr yn fregus ac yn dila yn wyneb y storm economaidd sy'n eu taro mor galed. Ond mae'r penawdau, sydd mor llwm a brawychus yn yr adroddiad hwn, yn werth eu hailadrodd. Cymru yr haf hwn oedd â'r ganran uchaf o aelwydydd mewn trafferthion ariannol difrifol o gymharu ag unrhyw un o'r gwledydd datganoledig a rhanbarthau Lloegr—chwarter y bobl yn torri'n ôl ar gyfleustodau, traean yn torri'n ôl ar fwyd, niferoedd uwch yn benthyca a mynd i ddyled, a galw digynsail am gymorth argyfwng. Mae hyn i gyd yn cael effaith anghymesur ar fenywod, sy'n cael ei waethygu gan effeithiau sy'n cydblethu ar fenywod anabl a menywod o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifol ethnig.
Mae'r adroddiad hefyd yn cynnwys rhybuddion ynghylch y sefyllfa ddifrifol a chynyddol wael sy'n wynebu cartrefi Cymru a gyhoeddwyd yn adroddiad cyntaf Pwyllgor Cydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol y chweched Senedd hon ar ddyled a'r pandemig, a'n hymchwiliad i'r rhaglen Cartrefi Clyd nesaf, pan gafwyd llawer o dystiolaeth ar dlodi tanwydd. Mae'r adroddiad sydd o'n blaenau heddiw yn dweud wrthym fod talwr bil yng Nghymru, bob 40 eiliad, yn gwneud galwad ffôn i Cyngor ar Bopeth am eu bil tanwydd. Mae cyflawniad cynlluniau cymorth, y nifer fechan sy'n manteisio arnynt ac ymwybyddiaeth o gynlluniau cymorth eto'n cael eu cydnabod yma fel her a phryder. Eto ac eto, gwelwn mewn adroddiad ar ôl adroddiad, o bwyllgorau'r Senedd ac o ymchwil sefydliadau polisi a thrydydd sector, fod yna brinder data wedi'i ddadgyfuno ar effeithiau costau byw cynyddol ar grwpiau penodol mewn perthynas â dangosyddion fel tlodi, amddifadedd a dyled.
Mae argymhellion 1 i 13 i gyd yn ymwneud â'r angen am dargedu, cydlynu a chyflwyno'r cymorth costau byw sydd ar gael yn well. Mae'n rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi dadlau drosto'n gyson. Mae angen gwneud yn siŵr fod pob punt o gymorth Cymreig yn mynd i'r lle iawn ar yr adeg iawn, ac mae angen inni wybod faint o gymorth sydd ei angen ac ym mha le. Mae argymhellion 5 a 6 eto yn ailadrodd galwadau a wnaed lawer gwaith ynghylch cynllun cymorth tanwydd y gaeaf. Rhaid inni weld bod y cymorth a gaiff ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn cael ei werthuso'n briodol ac yn gyflym fel bod cynlluniau dilynol yn cael eu gwneud yn fwy effeithlon byth i gyflawni eu diben.
Mae argymhelliad 8 yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfuno cynlluniau cymorth yn seiliedig ar brawf modd i aelwydydd incwm isel drwy system fudd-daliadau Gymreig, ac mae sôn hefyd am elfen statudol i ddarpariaeth awdurdodau lleol o daliadau cymorth yn argymhelliad 10. Ar ôl dod â thrafodaeth ar gynnig deddfwriaethol i'r Senedd ychydig wythnosau yn ôl ar yr union fater hwn, cynnig a gafodd ei basio gan y Senedd, roeddwn yn falch iawn o weld bod hyn eto'n cael ei gymeradwyo gyda chytundeb trawsbleidiol. Mae'r adroddiad diweddar gan Archwilio Cymru yn dweud, am nad oes system symlach, haws ar gyfer hawlio taliadau, nad yw'r help sydd ar gael mor effeithiol ag y gallai fod, gyda phobl yn gorfod cwblhau nifer o geisiadau am daliadau gwahanol sy'n aml yn gofyn am yr un wybodaeth.
Mae'r adroddiad hwnnw hefyd wedi dangos bod pobl ym mhob rhan o Gymru yn profi tlodi ac mae'r nifer yn tyfu. Fe wyddom na fydd y newyddion o San Steffan yfory yn dda i naill ai'r un o bob wyth aelwyd yng Nghymru sy'n cael trafferth fforddio eitemau bob dydd, na'r aelwydydd ar fudd-daliadau sy'n ei chael hi'n fwyaf anodd. Bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i mewn fwy a mwy gyda thaliadau cymorth gwahanol am fod San Steffan wedi methu amddiffyn y rheini yng Nghymru sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Mae yna blant sy'n llwglyd heddiw. Mae yna bobl anabl a phobl oedrannus sy'n methu cadw eu cartrefi'n gynnes. Mae yna deuluoedd sy'n wynebu digartrefedd. Ni allant ddibynnu ar y Torïaid yn San Steffan a fyddai'n gosod polisïau cyni mwy dinistriol arnynt, ac ni allant aros ychwaith am newid Llywodraeth yn San Steffan. Fe wnaethant ethol Llywodraeth yng Nghaerdydd i'w gwasanaethu, ac fe ddylai ei gwasanaethu drwy weithredu'n gyflym ar yr argymhellion pwysig hyn. Diolch.