Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 16 Tachwedd 2022.
Rwy'n falch o'r cyfle i siarad yn y ddadl hon fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldebau ac fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anableddau dysgu. Mae Plaid Cymru yn gwbl gefnogol o fesurau i wella mynediad cyhoeddus o bob math i bobl anabl a phobl sydd ag anghenion penodol, ac rŷn ni'n falch o weld bod y cynnig hwn ynghylch sicrhau argaeledd toiledau Changing Places ledled Cymru wedi’i gyflwyno ac rydym yn falch o gefnogi'r cynnig.
Mae medru cael mynediad i gyfleusterau toiled pan fo angen yn gwbl sylfaenol i urddas ac i iechyd unigolyn. Ond, mae cael mynediad i doiled yn anodd yn aml i bobl anabl, ac os oes gennych chi anableddau cymhleth neu luosog mae cael mynediad i doiled sy'n cwrdd â'ch anghenion hyd yn oed yn fwy o her.
Fel y mae’r cynnig yn awgrymu, er bod y cyfleusterau priodol ac angenrheidiol yma i unigolion sydd angen cymorth personol i ddefnyddio’r toiled neu newid padiau ar gael mewn rhai llefydd erbyn hyn, mae’r broses o osod cyfleusterau o’r fath mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn araf ac yn anghyson, yn enwedig ar draws ardaloedd gwledig. Er enghraifft, dim ond un toiled Changing Places cofrestredig yr un sydd gan Geredigion a Phowys—sefyllfa, rwy’n siŵr, y bydd yr holl Aelodau’n cytuno, sy'n gwbl annerbyniol ac yn golygu nad oes yna fynediad cyfartal i gyfleusterau priodol i holl ddinasyddion Cymru, beth bynnag eu lleoliad neu allu corfforol.
Mencap Cymru arweiniodd yr ymgyrch Changing Places yng Nghymru nôl yn 2008. Maen nhw wedi sôn am y gwahaniaeth mae mynediad i gyfleusterau fel hyn yn gallu gwneud i bobl ag anableddau a'u teuluoedd, i fedru mwynhau amser y tu allan i'w cartrefi, boed hynny i lefydd cyhoeddus fel theatrau, sinemâu neu ganolfannau siopa, neu yn gyfleon i fwynhau parciau, cefn gwlad, mannau o harddwch neu atyniadau twristaidd. Heb y cyfleusterau yma, mae cyfleon ddylai fod ar gael i bawb ond ar gael i rai. Dywed Mencap bod y cyllid a roddwyd i greu cyfleusterau fel hyn yn Oakwood, Sain Ffagan, Llangollen, Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd, Pili Palas a chanolfan ymwelwyr Corris wedi bod yn gwbl drawsnewidiol, ac yn sicrhau bod pobl a thwristiaid anabl yn medru mwynhau rhai o atyniadau gorau Cymru. Ond mae angen dybryd am fwy er mwyn ehangu y math o brofiadau a chyfleon hamdden sydd ar gael i bobl ym mhob rhan o Gymru.
Mae'r cyfleusterau yma yn gwbl hanfodol ac, fel dywedodd Mark Ishwerood, yn hwb hefyd i'r diwydiant twristiaeth. Mae rheolwyr yr atyniadau yma yn sôn am sut maent yn derbyn nifer o alwadau gan bobl sydd am wirio bod ganddynt doiledau Changing Places cyn eu bod nhw'n ymweld. Ac os ydym am fod yn genedl gyfartal, a hefyd am arwain y ffordd o ran twristiaeth gynhwysol, yna mae darparu cyfleusterau fel hyn yn elfen ganolog i'r nod glodwiw honno ddylwn ni gyd ei gefnogi. Gallai'r ardollau ymwelwyr gefnogi y fath yma o ddatblygiad blaengar a chynhwysol.
Mae'n anodd credu bod modd i unrhyw gais cynllunio ar gyfer adeiladau newydd beidio â chynnwys toiled Changing Places. Sut mae modd cyfiawnhau peidio â darparu toiled i bawb, beth bynnag eu hanghenion neu ble bynnag y maen nhw'n byw? Os ydym yn gytûn ar hynny, yna rwy'n annog pawb i gefnogi'r cynnig.