2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2022.
1. Pa asesiad diweddar y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r gwasanaeth ysbyty i'r cartref a ddarperir drwy'r bartneriaeth rhwng Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Tywysoges Cymru? OQ58690
Mae'r gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cefnogi canlyniadau positif ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth. Mae wedi helpu i leihau nifer y dyddiau gwely a ddefnyddir yn Ysbyty Tywysoges Cymru drwy gefnogi rhyddhau amserol, ac mae wedi cefnogi pobl sy'n agored i niwed i gynyddu eu hincwm i'r eithaf drwy fynediad at fudd-daliadau perthnasol.
Weinidog, rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol hwnnw. Mynychodd Sarah Murphy a minnau ddigwyddiad dathlu fis diwethaf i nodi'r ffaith bod 10,000 o bobl wedi cael eu hatgyfeirio at y llwybr hwnnw o Ysbyty Tywysoges Cymru, drwy Ofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr. Mae'n wasanaeth cofleidiol i'r unigolyn, sy'n sicrhau bod yr addasiadau cartref yn cael eu gwneud, fod y nyrsio a gofal clinigol arall—ond hefyd cefnogaeth arall, gan gynnwys pethau fel asesiad budd-daliadau—yn cael eu gwneud pan fydd yr unigolyn yn mynd adref. Mae'n torri tir newydd. Mae wedi gosod y safon, rhaid imi ddweud, i wasanaethau ysbytai ac ymddiriedolaethau eraill a phartneriaethau ledled Cymru.
Tybed a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch yr holl bobl hynny, fel Meinir Woodgate, y rheolwr gwasanaeth; pobl fel Rena; pobl fel Christine Beadsworth, gweithiwr achos o'r ysbyty i'r cartref, a phawb sy'n cyfrannu at y bartneriaeth lwyddiannus? A wnewch chi roi gwybod pa sicrwydd y gallwn ei roi y bydd y mathau hyn o bartneriaethau yn parhau i atgyfeirio, nid 10,000 o bobl yn unig, ond 20,000 a 30,000 a 100,000 o bobl drwy Gymru benbaladr?
Diolch yn fawr, a diolch am eich diddordeb yn y rhaglen wirioneddol bwysig hon. Oherwydd ein bod yng nghanol argyfwng costau byw, dyma'r adeg pan fo angen inni roi ein breichiau o amgylch pobl a allai fod o dan lawer o bwysau. Mae gennym gyfle yn y gwasanaeth iechyd i wneud i bob cyswllt gyfrif, ac mae hynny'n rhan o'r hyn rydym yn ei wneud yma gyda'r rhaglen arbennig hon. Mae'n eithaf rhyfeddol, rwy'n credu, os edrychwch chi ar y gwasanaeth—rwy'n credu bod 628 o hawliadau budd-dal llwyddiannus wedi bod ers mis Ebrill 2021 gyda chyfartaledd o £3,800 y flwyddyn o incwm ychwanegol i bob claf. Mae hynny'n drawsnewidiol i'r teuluoedd hyn. Mae'n swm enfawr o arian, ac mae ganddynt hawl iddo. Felly, rhaid inni sicrhau bod pobl yn deall bod y gwasanaeth hwn ar gael.
Mae llawer o wasanaethau eraill ar gael. Rwy'n gwybod bod Jane Hutt wedi bod yn hyrwyddo gwasanaethau rydym yn eu hyrwyddo gyda Cyngor ar Bopeth a'r lleill i gyd, ond mae hwnnw'n incwm cyffredinol o £2,391,000. Mae hynny'n enfawr. Mae hwnnw'n arian sy'n mynd i'w pocedi hwy, ond hefyd i gymunedau lleol ar ôl hynny. Felly, hoffwn ddiolch iddynt am hynny. Yng Nghwm Taf Morgannwg yn arbennig, rydym wedi gweld 217 o gleifion yn cael eu cefnogi. Mae'n rhyfeddol. Ac mae'n ymwneud â mwy nag asesu budd-daliadau'n unig, fel y dywedwch, mae'n ymwneud ag addasu a phopeth. Felly, hoffwn ymuno â chi i ddiolch i Meinir, Rena a'r lleill am eu gwaith, ac rwyf wedi ei gwneud yn glir y byddwn yn siomedig pe bai'r gwasanaethau a'r prosiectau llwyddiannus hyn yn cael eu datgomisiynu. Mae pawb ohonom dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd. Mae pawb yn deall y pwysau, ond yn amlwg mae hwn yn faes lle mae gan y bobl hyn hawl i'r cymorth hwn, ac mae angen inni roi ychydig o help llaw iddynt gyrraedd yno.
Weinidog, rydym yn gwybod bod ysbytai'n ei chael hi'n anodd rheoli eu capasiti gwelyau, gyda gormod o bobl sy'n ddigon iach yn feddygol i'w rhyddhau ond nid yw'n bosibl gwneud hynny am amryw o resymau. Mae'r cynllun o'r ysbyty i'r cartref ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn un fenter y dylem ddysgu ohoni, ond pa gamau eraill y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i helpu pobl i symud o'r ysbyty, fel rhaglenni rhyddhau i asesu mwy uchelgeisiol i helpu nid yn unig ein hysbytai, ond yn bwysicaf oll, yr unigolion y gellid asesu eu hanghenion yn well i ffwrdd o amgylchedd yr ysbyty?
Diolch yn fawr, Altaf. Mae'n debyg fy mod yn treulio cymaint o amser ar oedi wrth drosglwyddo gofal, fel rydych wedi nodi, ag ar unrhyw beth arall. Mae tagfeydd drwy'r system, rydym yn gwybod hynny, ond mae hon yn dagfa benodol. Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gydag awdurdodau lleol—cefais un ddoe—i edrych ar yr hyn y gallwn ei gyflawni yn y maes hwn. Mae'n anodd nawr, ond mae'r gaeaf yn dod, a rhaid inni geisio cael cymaint o gapasiti â phosibl yn ein cymunedau. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd yma, ac rwy'n gobeithio y gallaf roi diweddariad i chi'n fuan iawn ar yr hyn y mae'r gwaith partneriaeth gydag awdurdodau lleol wedi gallu ei gyflawni hyd yma, a'r hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni dros y gaeaf.
Rydym yn gwybod beth yw'r broblem. Nid yw'r atebion yn hawdd oherwydd mae'n ymwneud â gweithwyr gofal, ac roeddwn wrth fy modd yn gwrando ar yr hyn oedd gan Unsain i'w ddweud yn gynharach. Mae llawer o faterion rhyng-gysylltiedig yma, ond mae oedi cyn trosglwyddo gofal yn rhan o'r hyn sy'n tagu'r system. Nid dyna'r unig beth. Mae'n bwysig iawn inni ddeall nad dyna'r unig beth, ond mae'n rhan sylweddol o'r broblem.