2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2022.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar ddarparu gwasanaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ58688
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o ansawdd uchel, sy’n ddiogel a chynaliadwy, i'w boblogaeth leol, a hynny ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf.
Diolch i chi am yr ymateb yna, Gweinidog.
Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod y galw am asesiad awtistiaeth yn parhau i fod yn uchel yng ngorllewin Cymru, gydag amseroedd aros o hyd at dair blynedd. Yn wir, rwy'n deall bod y bwrdd iechyd wedi cyfarfod â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf i nodi cyllid posibl i helpu gyda mentrau rhestrau aros. Felly, Weinidog, a oes modd ichi ddweud wrthym pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i'w helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer asesiad awtistiaeth? Ac a oes modd ichi ddweud wrthym hefyd sut mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo plant a'u teuluoedd sy'n aros am asesiad?
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n gwybod bod problem wedi bod gyda rhestrau aros awtistiaeth ers peth amser yn ardal Hywel Dda. Mae yna gynlluniau ar y gweill, wrth gwrs, ac rydym wedi cael yr adolygiad o gapasiti, sydd wedi nodi'n union beth sydd angen inni ei roi ar waith. Os nad oes ots gennych, yr hyn yr hoffwn ei wneud yw gofyn i'm cyd-Aelod Julie Morgan, sy'n gyfrifol am awtistiaeth, roi ymateb mwy manwl ichi.