3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 16 Tachwedd 2022.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr? TQ678
Ie, diolch am y cwestiwn. Mae'n drueni mawr fod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Mae tîm Cymru'n Gweithio a thîm ReAct+, ynghyd â'r Ganolfan Byd Gwaith, yn ymgysylltu â'r gweithwyr, ac rwy'n deall bod cymorth wedi'i gynnig hefyd gan yr awdurdod lleol, Rhondda Cynon Taf. Bydd ReAct+ yn darparu gwybodaeth, cyngor a chanllawiau wedi'u teilwra i'r staff sydd wedi'u heffeithio dros y dyddiau nesaf.
Diolch, Weinidog. Mae Garth Bakery wedi bod yn gyflogwr blaenllaw yng Nghwm Cynon a hefyd yn rhan bwysig o'r economi leol ers dros 36 o flynyddoedd, felly mae'r newyddion ei fod wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ergyd drom yn wir. Mae hyn yn arbennig felly i'r oddeutu 100 o bobl sydd wedi colli eu swyddi, a hynny ond chwe wythnos cyn y Nadolig. Rwy'n deall y gofid a'r pryder dwys y bydd hyn yn ei achosi iddynt, ac nid yn unig iddynt hwy ond i'w teuluoedd hefyd, yn enwedig pan ydym yn wynebu'r argyfwng costau byw, sydd wedi gweld cyllidebau cartrefi yn cael eu gwasgu wrth i bris ynni a bwyd godi i'r entrychion ac wrth i chwyddiant gyrraedd ei lefel uchaf ers dros 40 mlynedd.
Mae gennyf un neu ddau o gwestiynau i chi heddiw. Yn gyntaf, pa gymorth neu ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gyda Garth Bakery? Yn ail, a oes modd ichi amlinellu'r mesurau ymarferol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd ar fyrder i helpu gweithlu'r cwmni sydd wedi colli eu swyddi? Mae hynny'n cynnwys cymorth i ddod o hyd i waith, ond rhaglenni hefyd, fel rydych wedi sôn, i ailhyfforddi neu ailsgilio, fel bod modd archwilio a mynd ar drywydd cyfleoedd gyrfa newydd, ond hefyd o ran cymorth i gael mynediad, er enghraifft, at gyngor iechyd meddwl a llesiant ac ymyrraeth wedi'i thargedu gyda chostau byw. Yn olaf, Weinidog, gyda chyd-Aelodau, rwy'n gobeithio trefnu diwrnod agored cyngor a chymorth i weithwyr Garth Bakery yn fuan. Rwyf wedi ysgrifennu atoch yn ffurfiol ynglŷn â hyn, ond a fyddwch yn gallu sicrhau bod staff o asiantaethau Llywodraeth Cymru priodol ar gael, fel y gallant roi cymorth uniongyrchol i unrhyw un o'r cwmni sydd angen y cymorth hwnnw?
Ie, diolch am y cwestiynau. Rwy'n cydnabod yn llwyr eich pwynt ynghylch amseriad y ffaith bod y cwmni wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr a beth y mae'n ei olygu i weithwyr ar yr adeg hon o'r flwyddyn. A gwyddom fod y mwyafrif helaeth o gostau biliau tanwydd yn digwydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn ystod yr hydref, y gaeaf a dechrau'r gwanwyn, a'r cyfnod cyn troad y flwyddyn a'r Nadolig. Ond byddwn yn darparu ystod o gymorth, ac rydym eisoes yn gwneud hynny, ac yn y gorffennol, rydym wedi darparu cyfleoedd i geisio helpu'r busnes i dyfu ac ehangu. Rydym wedi ceisio eu helpu gyda chyfleoedd masnachu o fewn y DU ac wrth gwrs, roedd ganddynt gytundebau gydag Asda, Co-op ac eraill ar gyfer cyflenwi eu cynnyrch. Rydym hefyd wedi eu helpu gydag ymgysylltu â'r GIG, ac mae'r cwmni wedi gwneud dewisiadau ynglŷn â sut i weithredu a beth i geisio ei wneud. Nid wyf am ddyfalu'r rhesymau pam y maent wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond ein prif bryder yw beth fydd yn digwydd i'r busnes a'r gweithwyr, a'r cymorth iddynt. Dyna y gall Cymru'n Gweithio a ReAct+ ei wneud a dyna fyddant yn ei wneud.
Nid yw'n weithle sydd wedi bod ag undeb llafur cydnabyddedig, ond rwy'n gwybod bod rhywfaint o aelodau undebau llafur yno. Felly, byddwn yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid perthnasol i geisio darparu'r cymorth y gallwn ei roi i helpu pobl i ddychwelyd i'r gweithlu. Ar hyn o bryd, y newyddion cymharol gadarnhaol yw bod cyfleoedd i weithio o hyd. Rydym yn parhau i fod ar bwynt lle mae'r farchnad lafur yn weddol dynn ac mae cyflogwyr eraill yn chwilio am weithwyr. Felly, rwy'n credu y dylai fod llawer o optimistiaeth ynghylch pobl yn dod o hyd i waith arall. Ond byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr, yn dilyn y cwestiwn hwn, fod fy swyddogion mor gefnogol â phosibl i'r digwyddiad rydych yn ei drefnu yn yr etholaeth, gan gynnwys yn y sgyrsiau y maent eisoes yn eu cael gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau i wneud yn siŵr fod cynnig cydlynol o ystod ehangach o gymorth ar gael i'r gweithwyr yr effeithir arnynt.
A gaf fi ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno'r cwestiwn hwn? Yn amlwg, rydym yn rhannu'r un rhanbarth, ac rwyf innau hefyd wedi cael nifer o etholwyr yn codi'r pryderon yma. Hoffwn gysylltu fy hun â'i holl sylwadau a chwestiynau, ac yn sicr, mae'n amser gofidus iawn gan ei fod yn fusnes mor werthfawr, fel rydych wedi dweud, Vikki.
Ar bwynt ychydig yn wahanol, bydd colli'r ffatri hon hefyd yn arwain at heriau cyflenwi bwyd sylweddol i'r ysgolion ac archfarchnadoedd a werthai eu bara a'u cynnyrch. Roedd Garth Bakery yn cynhyrchu 300,000 o roliau bob wythnos, ac fe fydd hynny'n rhywbeth sy'n peri pryder, ac mae pobl sy'n poeni am hyn nawr wedi cysylltu â mi. A fydd Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau bach lleol i helpu i fynd i'r afael â'r prinder bwyd sy'n debygol o godi yn sgil cau'r busnes?
Nid wyf yn hollol sicr y bydd prinder bwyd o ganlyniad i'r ffaith na fydd Garth Bakery yn bodoli mwyach; mae'n ymwneud â'r her yn y sector ehangach, ac a oes cyflenwyr amgen mewn gwirionedd. Meddyliwch am yr archfarchnadoedd: os ewch i mewn i unrhyw archfarchnad, fe welwch amrywiaeth o gynnyrch ar y silffoedd ar bwyntiau prisiau ychydig yn wahanol hefyd. Nid wyf yn ymwybodol y bydd her o ran y cynnig bwyd ehangach, ond o ran cyflenwad bwyd i ysgolion, er enghraifft, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt teg am un cyflenwr yn diflannu pan nad oes gan ysgolion gyfle i aildrefnu yn y ffordd honno, a dyna pam y mae'r gwaith ochr yn ochr â'r cyngor yn arbennig o bwysig i sicrhau nad oes gennym fylchau yn y cyflenwad hwnnw. Ond mae'n bwynt y byddaf yn ei ailwirio gyda fy swyddogion, a hefyd gyda'r Gweinidog addysg a'i gysylltiadau yn yr awdurdodau lleol hefyd.
Diolch i'r Gweinidog. Y cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, i'w ofyn gan Peredur Owen Griffiths.