1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Tachwedd 2022.
5. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i fynd i'r afael â sefyllfaoedd lle y gwrthodir mynediad i berchnogion cŵn tywys? OQ58733
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn glir: mae'n anghyfreithlon gwrthod mynediad i berson anabl sydd â chi cymorth. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru yn gyfrifol am lynu wrth y Ddeddf ac rydym yn gweithio gyda nhw i helpu i sicrhau cydymffurfiaeth.
Diolch yn fawr iawn, Trefnydd, am yr ateb yna. A gaf i hefyd estyn fy niolch i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol am ei llythyr ar 10 Tachwedd ar yr union fater hwn? Bydd aelodau'n ymwybodol o waith Cŵn Tywys Cymru, sy'n ymgyrchu i roi terfyn ar atal cŵn tywys rhag dod i mewn i fusnesau. Pan gwrddais â nhw yn y Senedd ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedon nhw wrthyf i am rai sefydliadau busnes adnabyddus yn gofyn i berchnogion cŵn tywys i adael, gydag enghreifftiau diweddar penodol o leoedd fel Tesco a Premier Inn. Mae'r busnesau hyn yn gweithredu yma yng Nghymru. Rwy'n deall yr hyn a ddywedoch chi yn eich ateb cychwynnol, Trefnydd, ond a gaf i ofyn i chi beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i anfon neges gref, yng Nghymru, fod hyd yn oed un gwrthodiad yn annerbyniol? Sut gallwn anfon y neges honno i sicrhau bod gennym bolisi drysau agored ar gyfer cŵn tywys yn ein cenedl?
Diolch. Mae'n hynod siomedig clywed yr hyn rydych chi newydd ei ddweud, Jack Sargeant. Mae'r sefyllfa honno'n gwbl annerbyniol ac, fel yr wyf eisoes wedi nodi, mae'n anghyfreithlon. Mae gan bobl sydd â chŵn cymorth hawl yn ôl y gyfraith i gael mynediad i safle manwerthu—fe wnaethoch chi sôn am westy, hefyd—ac ni ddylid gwrthod mynediad i safle. Rydym yn gweithio gyda Chonsortiwm Manwerthu Cymru a'r grwpiau archfarchnadoedd er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r broblem. Rwy'n cwrdd yn rheolaidd â'r archfarchnadoedd, ac yn sicr byddaf yn hapus iawn i edrych i mewn i'r mater. Yr hyn yr ydym ni wir eisiau ei wneud—ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn angerddol am hyn—yw codi ymwybyddiaeth o'r effaith y mae gweithredoedd pobl yn ei gael ar bobl o'r fath sydd â'r cyflyrau anodd iawn hyn ac sydd wir angen eu ci tywys i'w cynorthwyo yn eu bywydau bob dydd. Rydym hefyd yn gweithio gyda'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i adolygu cydymffurfiaeth â'r canllawiau a'r rheoliadau. Byddaf, yn sicr, o fy rhan i, yn gwneud hynny gyda'r archfarchnadoedd, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn edrych ar hyn hefyd. Mae gennym hefyd y tasglu hawliau anabledd a gwaith Llywodraeth Cymru'n datblygu hawliau pobl sydd ag anableddau drwy'r tasglu hwn.
Roeddwn yn ffodus i gynnal y digwyddiad Cŵn Tywys yn y Senedd fis diwethaf. Fel rydym wedi clywed gan ein cyd-Aelod Jack Sargeant, dangosodd ymchwil y mudiad Cŵn Tywys a gyhoeddwyd fis diwethaf fod 81 y cant o berchnogion cŵn tywys a ymatebodd i'w harolwg wedi cael eu hatal rhag mynd i mewn i fusnes neu wasanaeth a hynny'n anghyfreithlon, oherwydd eu bod â chŵn tywys. Maen nhw wedi lansio'r hyn y maen nhw'n ei alw'n ymgyrch Open Doors yn erbyn gwrthodiadau mynediad anghyfreithlon i addysgu'r cyhoedd a busnesau a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o sut mae gwrthodiadau mynediad yn effeithio ar berchnogion cŵn tywys.
Ond nid dyna'r unig rwystr mae pobl sydd â chŵn tywys yn dod ar ei draws. Mae Cŵn Tywys Cymru hefyd yn dal i ymgyrchu dros strydoedd mwy diogel, gan ddweud bod llawer o gynlluniau wedi'u hariannu gydag arian teithio llesol Llywodraeth Cymru lle mae llwybrau beicio yn cael eu gosod ar droedffyrdd heb unrhyw linell glir rhwng y lôn feicio a'r llwybr troed i gerddwyr. Sut fydd Llywodraeth Cymru felly nid yn unig yn cefnogi ymgyrch Open Doors y mudiad Cŵn Tywys, ond hefyd yn ymateb i'w galwad ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno gwiriadau llawer mwy cadarn cyn y dyrennir cyllid i lwybrau teithio llesol newydd, er mwyn sicrhau bod pob llwybr newydd yn ddiogel ac y gall pawb eu defnyddio?
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'n llawn ymgyrch Open Doors Cŵn Tywys Cymru, pryd rydym yn annog pob manwerthwr i gydymffurfio'n llawn â'r gyfraith. Mae'n erchyll eich clywed yn dweud y gwrthodwyd mynediad i 81 y cant o berchnogion cŵn tywys a oedd yn rhan o'r adolygiad—mae'r ddau ohonom newydd ddefnyddio'r gair 'anghyfreithlon'.
O ran strydoedd mwy diogel, byddaf yn sicr yn gofyn i'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch y monitro a wneir gan Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â hyn a'r ffordd yr asesir cynlluniau mewn cysylltiad â theithio llesol, ac a yw'n credu ei fod yn ddigon cadarn.