– Senedd Cymru am 4:08 pm ar 22 Tachwedd 2022.
Eitem 7 sydd nesaf, sef datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: glasbrintiau cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid, adroddiad cynnydd a'r camau nesaf. Galwaf ar y Gweinidog—Jane Hutt.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae ein glasbrintiau ar gyfer cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid yn cynrychioli gweledigaeth a strategaeth ar y cyd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer cefnogi menywod, plant a phobl ifanc sy'n troseddu neu sydd mewn perygl o droseddu. Fe wnaethom ni gyhoeddi'r glasbrintiau yn 2019 mewn cydweithrediad â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM, y Weinyddiaeth Gyfiawnder, plismona yng Nghymru a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Mae'r dull partneriaeth hwn yn arbennig o bwysig gan fod cyfiawnder yn faes sydd wedi'i gadw'n ôl ar hyn o bryd, ond sydd â pherthynas agos â'r gwasanaethau datganoledig. Rwy'n parhau i gyfarfod â Gweinidogion cyfiawnder y DU i drafod y glasbrintiau a materion cyfiawnder ehangach gyda'r Cwnsler Cyffredinol, i drafod ein gwaith ar y cyd a'n gweledigaeth o ran cyfiawnder yng Nghymru yn y dyfodol.
Ond, heddiw, hoffwn eich diweddaru ar y cynnydd ynghylch y glasbrintiau. Ym mis Mai 2022, fe wnaethom ni gyhoeddi ein cynlluniau gweithredu, gan dynnu sylw at y cynnydd rydym ni'n ei wneud i ddargyfeirio menywod a phobl ifanc o droseddu. Cafodd y Cwnsler Cyffredinol a minnau ein diweddaru ar y gwaith hwn yn ddiweddar gan ddirprwy gomisiynydd heddlu a throsedd De Cymru, Emma Wools, a Dominic Daley, cyfarwyddwr ymgysylltu ac arloesi'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, yr uwch swyddogion sy'n gyfrifol am y glasbrintiau menywod ac ieuenctid yn y drefn honno. Hoffwn rannu gyda chi rai elfennau allweddol o'r gwaith sy'n mynd rhagddo, gan ganolbwyntio'n gyntaf ar y glasbrint cyfiawnder menywod.
Mae dull system gyfan y rhaglen fraenaru i fenywod yn canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal cynnar, gan gymryd agwedd gyfannol ac adsefydlol i ddargyfeirio menywod o droseddu, a chefnogi menywod i gael mynediad at wasanaethau yn y gymuned trwy gymorth un-i-un. Mae'r cymorth a'r arweiniad ymarferol a ddarperir yn hanfodol, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng costau byw. Pwysleisiodd gwerthusiad diweddar pa mor effeithiol y mae'r prosiect hwn yn gwella bywydau menywod sy'n agored i niwed yng Nghymru na fyddai, o bosibl, fel arall, wedi ymwneud bryd hynny â'r system gyfiawnder. O dan y glasbrint, mae gwasanaethau dargyfeirio bellach ar waith ar gyfer menywod ym mhob un o bedair ardal yr heddlu yng Nghymru.
Datblygiad arall yw pecyn hyfforddi newydd ar gyfer y rhai sy'n gweithio gyda menywod yn y system gyfiawnder sy'n rhoi sylw i rywedd a thrawma. Diben yr hyfforddiant hwn yw cynyddu sgiliau staff gan roi iddynt yr arbenigedd a'r hyder i ystyried rhywedd. Caiff ei gyflwyno ar hyn o bryd i'r holl asiantaethau sy'n gweithio yn y maes cyfiawnder troseddol.
Mae'r gwasanaeth Ymweld â Mam, a ariennir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Carchardai a Phrawf, yn helpu mamau Cymru i gynnal perthynas gadarnhaol â'u plant drwy gydol eu dedfryd o garchar, gan gynnig cymorth arbenigol i gadw a chryfhau cysylltiadau teuluol hanfodol. Rhwng Mehefin 2021 ac Awst 2022, mae'r rhaglen wedi cefnogi 68 teulu.
Mae ymweliadau blaenorol yr wyf wedi bod arnynt â charchar Eastwood Park a charchar Styal wedi fy ngalluogi i weld â'm llygaid fy hun y gwaith gwych a wneir gan lasbrint cyfiawnder menywod, gan gynnwys Canolfan Menywod Ymddiriedolaeth Nelson yng ngharchar Eastwood Park. Bydd hyn yn darparu un gwasanaeth cynhwysfawr i bob menyw ar y safle hyd at 12 mis cyn iddynt gael eu rhyddhau i'r gymuned, gan gysylltu ystod o wasanaethau gyda'i gilydd.
Gallaf hefyd gadarnhau bod trafodaethau'n parhau gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhanddeiliaid allweddol eraill ar y ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod. Bydd y ganolfan yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr, gan roi sylw i drawma, i fenywod yn y system cyfiawnder troseddol, ac yn ddewis arall yn lle dedfrydau trafferthus a diangen.
Dirprwy Lywydd, rydym yn gwybod bod 57 y cant o fenywod sy'n dod i gysylltiad â'r system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd yn rai sydd wedi dioddef cam-drin domestig. Mae 63 y cant o ferched a menywod ifanc sy'n treulio dedfrydau yn y gymuned hefyd wedi profi trais rhywiol neu gam-drin domestig wrth law cymar agos. Mae cysylltiadau rhwng tlodi a thrais hefyd, gyda thystiolaeth gref yn amlygu bod anghydraddoldeb incwm sylweddol yn rhagfynegydd cryf o droseddau treisgar. Mae'r ganolfan breswyl i fenywod yn beilot ar gyfer y Deyrnas Unedig i ddangos bod modd cael dewis arall yn lle carcharu.
Rwyf nawr yn troi at y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, sy'n ystyried cyfiawnder o safbwynt trawma ac sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf. O dan y glasbrint, mae rheolaeth achos well bellach ar gael i bob tîm troseddau ieuenctid yng Nghymru ar gyfer plant mewn cyswllt gwirfoddol a statudol. Mae'r dull seicolegol hwn yn cydnabod y trawma y mae pobl ifanc wedi'i brofi, ac mae'n nodi sut i'w helpu i adeiladu'r cydnerthedd sydd ei angen arnynt i ffynnu a byw bywydau di-drosedd. Yn ogystal, mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru bellach yn darparu cyllid i gefnogi'r gwasanaeth triniaeth ac ymgynghori fforensig y glasoed. Mae hyn wedi mabwysiadu model seicolegol, gyda phwyslais ar drawma, ar gyfer timau troseddau ieuenctid ledled Cymru, gan wella'r cymorth sy'n cael ei roi i bobl ifanc sy'n agored i niwed.
Mae gwaith yn mynd rhagddo ar fframwaith cyfiawnder atal troseddu ymysg ieuenctid i gefnogi plant sydd mewn perygl o fynd i'r system cyfiawnder troseddol. Mae hyn yn adeiladu ar fuddsoddiad sy'n bodoli eisoes, megis hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol, a ariennir gan grant plant a chymunedau Llywodraeth Cymru, ac mae'r grant yn ariannu prosiectau ar ddargyfeirio, atal a chefnogi pobl ifanc, er mwyn hwyluso newid yn eu hymddygiad.
Ym mis Ionawr 2021, fe wnaethom ni amlinellu ein gweledigaeth i blant gael llety mewn cartrefi bach sy'n agos at eu cymunedau, a chael mynediad at wasanaethau a chefnogaeth gofleidiol arbenigol sy'n diwallu eu hanghenion. Bydd bwrdd rhaglenni cartrefi bach, dan arweiniad Llywodraeth Cymru ac sy'n cynnwys y Weinyddiaeth Gyfiawnder ac Adran Addysg Llywodraeth y DU, yn sbarduno'r gwaith uchelgeisiol hwn.
Dim ond cipolwg byr yw hwn o'n cyflawniadau, sydd wedi'u nodi'n llawn yn y cynlluniau gweithredu. Ar 26 Hydref fe wnaethom ni hefyd gyhoeddi gwerthusiad, sy'n rhoi ymdeimlad grymus o'r effaith y mae'r glasbrintiau'n ei wneud yn ymarferol. Ddydd Iau, byddaf yn siarad yng nghynhadledd glasbrint cyfiawnder menywod, gan roi cyfle pellach i rannu canlyniadau'r rhaglen. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed gan fenywod gan gynnwys Danielle John, sydd wedi cael cefnogaeth sy'n newid bywydau gan y glasbrintiau ac sydd wedi cynnig arbenigedd amhrisiadwy i'n gwaith, gan gynnwys trwy rannu ei phrofiad byw ei hun.
Mae'r glasbrintiau'n cael eu cynnal fel model enghreifftiol ar gyfer darparu polisïau allweddol, trawsbynciol mewn partneriaeth, sydd bellach yn cael ei efelychu mewn mannau eraill. Mae ein strategaeth genedlaethol, VAWDASV, a gyhoeddwyd ym mis Mai, yn cael ei darparu trwy'r un dull glasbrint, gan roi pwyslais sylweddol ar brofiad a dylanwad goroeswyr.
Rwy'n croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar fenywod yn y system cyfiawnder troseddol. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y pwyllgor, a fydd, rwy'n gwybod, yn adlewyrchu'r heriau y mae menywod yn y system gyfiawnder yn dal i'w hwynebu. Mae menywod yn dal i gael eu dedfrydu i ddedfrydau diangen a thrafferthus o dan glo, sy'n gallu cael effaith ddofn ar eu plant a chreu problemau sylweddol mewn meysydd fel iechyd a thai. Rwy'n falch bod y glasbrintiau wedi helpu i liniaru rhai o'r materion hyn, ond dim ond newid radical i'r ffordd y mae menywod yn cael eu trin ar draws y system fydd wir yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol yr heriau hyn. Dyna pam rydym yn parhau i weithio ar y ganolfan breswyl i fenywod, ac ar hysbysu dedfrydwyr am effaith carcharu.
Mae'r gefnogaeth a roddir i fenywod, plant a phobl ifanc drwy'r glasbrint bellach yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Mae'r argyfwng costau byw yn rhoi pwysau ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru, ac ar adegau fel hyn mae'n hanfodol sicrhau bod menywod a phobl ifanc yn cael cymorth i gael mynediad i'r gwasanaethau maen nhw eu hangen.
I gloi, Dirprwy Lywydd, hoffwn grybwyll yn fyr y camau nesaf pwysig ar ein gweledigaeth am gyfiawnder, a gafodd ei nodi ym mis Mai yn ein cyhoeddiad 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru'. Mae ein gweledigaeth yn canolbwyntio ar atal, gan gydnabod mai dim ond wrth ddarparu cyfiawnder cymdeithasol y gallwn ni fynd i'r afael yn wirioneddol â'r rhesymau sylfaenol dros bwysau ar y system gyfiawnder. Mae arnom ni eisiau siarad am y weledigaeth gyffredin a gredwn ni sy'n bodoli ar gyfer agwedd Gymreig unigryw tuag at gyfiawnder, a byddaf yn rhoi gwybod i'r Aelodau wrth i'r trafodaethau hyn esblygu.
Hoffwn hefyd gydnabod cyhoeddiad diweddar 'The Welsh Criminal Justice System: On the Jagged Edge' gan awduron yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, Robert Jones a Richard Wyn Jones. Bydd y llyfr hwn yn rhoi cyfraniad defnyddiol wrth i ni geisio bwrw ymlaen â'r weledigaeth gyffredin hon.
Wrth i gyfiawnder barhau ar hyn o bryd yn fater sydd wedi'i gadw'n ôl, byddwn yn parhau gyda'n dull cydweithredol a chynhyrchiol o leihau trosedd ac aildroseddu, er mwyn creu Cymru well i bawb o dan y system bresennol, ochr yn ochr â gwaith i ddatblygu'r ddadl dros ddatganoli cyfiawnder yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU glasbrintiau cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid ym mis Mai 2019, i wella partneriaethau, fel y dengys y Gweinidog, rhwng gwasanaethau datganoledig ac anatganoledig, a ddatblygwyd ar y cyd â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EM a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â'r datganiad gan Weinidog cyfiawnder Llywodraeth y DU ar y pryd:
'Mae’n bwysig fod gennym, yng nghyd-destun y fframwaith datganoli presennol, ddull gweithredu lleol penodol ar gyfer cyflawni’r gwaith yng Nghymru—dull sy’n darparu cymorth wedi’i deilwra i droseddwyr er mwyn hybu eu hadsefydliad a’u cadw oddi wrth droseddu am byth.
'Bydd y glasbrintiau hyn yn adeiladu ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn barod i gefnogi troseddwyr yng Nghymru a helpu i dorri’r cylch troseddu.'
Dyluniwyd y glasbrintiau hyn i nodi dyheadau allweddol Llywodraeth Cymru ac arwain egwyddorion ar gyfer menywod a phobl ifanc sydd yn y system cyfiawnder troseddol neu mewn peryg o fynd i mewn iddo, yn canolbwyntio ar ymyrraeth ac atal cynnar, ac argymell dull cyfannol ac adsefydlol. I ba raddau y mae'r Gweinidog yn cydnabod felly bod hyn yn cyd-fynd â strategaeth carchardai Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU, Papur Gwyn i adsefydlu troseddwyr a lleihau troseddau; strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU i ddargyfeirio troseddwyr bregus o ddedfrydau byr o garchar; a chynllun Turnaround Llywodraeth y DU i ddal ac atal troseddu ieuenctid yn gynt nag erioed, i helpu i atal y plant a'r bobl ifanc hyn rhag troseddu pellach, mwy difrifol?
Gwnaeth y bartneriaeth gomisiynu, a sefydlwyd rhwng comisiynwyr yr heddlu a throsedd, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi yng Nghymru a Llywodraeth Cymru, alluogi asesiad gwerthusadwyedd fis diwethaf ar gyfer glasbrintiau cyfiawnder menywod a chyfiawnder ieuenctid Cymru. Pa gynllun gweithredu sydd gennych chi felly, neu ydych chi'n bwriadu ei gael, i gyflawni ei argymhellion penodol i werthuso'r glasbrint cyfiawnder ieuenctid sy'n canolbwyntio ar weithio gyda'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder i ymgymryd ag ymarfer sylfaenol systematig a sefydlu'r mecanwaith sydd ei angen fel bod modd monitro tueddiadau mewn data dros amser? Mae hyn yn arbennig o berthnasol lle mae argymhellion ar gyfer gwerthuso strategaethu atal yn cynnwys defnyddio data ynghylch yr amser a gymer hi i gyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau iechyd meddwl i ddangos cyflenwad gwasanaeth o'i gymharu â'r galw. Rwy'n parhau i dderbyn gwaith achos rheolaidd ynghylch plant niwroamrywiol y gwrthodwyd asesiad iddynt neu a gawsant gam-ddiagnosis.
Pa ystyriaeth bellach ydych chi wedi ei rhoi i'r argymhellion yn adroddiad Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant y Cynulliad yn 2010, 'Cyfiawnder Ieuenctid: Profiad Plant o Gymru yn yr Ystad Ddiogel', pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor, gan gynnwys bod Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Llywodraeth y DU sut bod modd datblygu lleoliadau ystadau diogel newydd yng Nghymru—yn amlwg dim ond ar gyfer y plant hynny na ellir rhoi sylw iddyn nhw fel arall—defnyddio uned ddiogel Hillside yng Nghastell-nedd fel model, ac yn cynnwys datblygu'r ddarpariaeth mewn lleoliad priodol yng ngogledd Cymru?
Pa gynllun gweithredu sydd gennych chi, neu ydych chi'n bwriadu ei lunio, i gyflawni argymhellion penodol yr asesiad gwerthusadwyedd i werthuso glasbrint cyfiawnder menywod, sy'n galw, er enghraifft, am ehangu sylfaen dystiolaeth droseddu'r menywod? Mae'n dweud:
'Mae sylfaenu ac olrhain cynnydd defnyddwyr gwasanaeth trwy flaenoriaethau'r Glasbrintiau yn hanfodol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn argymell datblygu fframwaith perfformiad a monitro aml-asiantaeth ag adnoddau digonol cyn unrhyw werthusiad.'
O ganlyniad i strategaeth troseddwyr benywaidd Llywodraeth y DU, fe ysgrifennoch chi at yr Aelodau yn datgan y buoch yn gweithio'n agos gyda Gweinyddiaeth Gyfiawnder y DU ac y byddai un o'r canolfannau preswyl peilot i fenywod, a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fel dewis arall yn lle carcharu, gyda'ch cyfranogiad, ger Abertawe yn y de. Sut byddai hyn wedi helpu troseddwyr benywaidd bregus yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru i gael mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt yn nes at adref? Ymhellach, ym mis Medi, cafodd cynlluniau ar gyfer y ganolfan hon eu gwrthod gan Gyngor Abertawe. Felly, beth yw'r sefyllfa sydd ohoni, lle bellach gall carcharorion benywaidd o Loegr gael eu rhyddhau o garchardai Cymru i gael adferiad mewn canolfannau yn Lloegr ond ni all carcharorion benywaidd yng Nghymru gael eu rhyddhau i ganolfannau cyfatebol yng Nghymru?
Yn olaf, ymwelodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd â Charchar Eastwood Park Ei Fawrhydi yn Swydd Gaerloyw yn ddiweddar, lle daw 148 o'r 340 o garcharorion o Gymru. Ar yr ymweliad, cafodd Aelodau o'r Senedd wybod, wrth gael eu rhyddhau o'r carchar, bod naw o bob 10 carcharor o Gymru'n aildroseddu, o'i gymharu ag un o bob 10 o'r rheiny o Loegr. Felly, sut ydych chi'n cyfrif am hyn, ble mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfrifol am swyddogaethau cyfiawnder troseddol, gan gynnwys carchardai, ond mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am dai, iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg pan fydd y menywod hyn yn dychwelyd i Gymru?
Diolch yn fawr, Mark Isherwood. Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â sut rydym ni'n gweithio gyda'n gilydd, y ddwy Lywodraeth, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. O ran datblygu'r glasbrintiau hyn, mae'r glasbrintiau cyfiawnder i fenywod a chyfiawnder ieuenctid, mae'r ffordd yr ydym ni'n datblygu mewn gwirionedd yn taflu goleuni ar ddatblygiad a chynnydd yng Nghymru, a gall hynny hefyd fod yn ddefnyddiol yng ngweddill y DU, yn fy marn i. Rydym ni wedi gwneud cynnydd mawr hyd yn hyn, oherwydd mae hyn yn ymwneud â chydweithio â'n partneriaid cyfiawnder, ac mae'n ymwneud â'r nod allweddol, sef gwella canlyniadau i fenywod a phobl ifanc sydd mewn cysylltiad â'r system gyfiawnder.
Mae'n amlwg, os ydym ni'n grymuso menywod a phobl ifanc i fyw bywydau iach a di-drosedd—. Mae pwyslais ar atal a dargyfeirio wrth i ni ddatblygu'r glasbrintiau. Fel y dywedoch chi, fe'u cyhoeddwyd yn ôl yn 2019, ac maent yn cael eu darparu mewn partneriaeth nid yn unig gyda HMPPS, y gwasanaeth carchardai a phrawf, ond hefyd y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn â'r Swyddfa Gartref a'r comisiynwyr heddlu a throsedd, ond hefyd, yn wir, pawb sy'n rhan o ddarparu gwasanaethau. Bydd hynny'n cynnwys y gwasanaethau datganoledig o ran llywodraeth leol, iechyd, tai ac addysg.
Rwy'n credu ei bod hi yn bwysig cydnabod mai'r hyn rydym ni'n ei wneud yng Nghymru—ac rydym ni'n mynd i ganolbwyntio arno yn y gynhadledd y soniais amdani, ddydd Iau—yw'r arloesedd rydym ni'n llwyddo i'w gyflwyno. Yn amlwg, mae'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi bod yn edrych ar hyn yn ofalus iawn o ran tystiolaeth. Dyna i chi'r cynllun braenaru arloesol i fenywod, gyda'r dull system gyfan yma. Dyna'r gwasanaeth ymyrraeth gynnar 18 i 25 sy'n cael ei ddarparu yn ne Cymru a Gwent, sy'n cydnabod effaith yr ymyriadau hynny. Mae'r ffaith, mewn gwirionedd, ein bod ni hefyd wedi cael gwerthusiad annibynnol o'r gwasanaeth—fe wnaethoch chi ofyn am werthuso—gan ddangos sut mae'r gwasanaeth mewn gwirionedd yn cefnogi menywod i fynd i'r afael ag anghenion ac agweddau agored i niwed. A dyna effaith gadarnhaol y gwasanaeth o ganlyniad i'r ymyrraeth honno.
Mae'n bwysig, pan edrychwn ni ar y glasbrint cyfiawnder ieuenctid, ei fod mewn gwirionedd yn rhoi plant yn gyntaf, sef yn rhoi pwyslais ar hawliau plant. Mae hyn yn golygu gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y plentyn yn hytrach na ffordd sy'n canolbwyntio ar wasanaeth. Mae'n ymwneud â diwallu anghenion plant yn y system gyfiawnder, neu rai plant sydd mewn peryg o ddod i mewn i'r system honno. Rwy'n credu y dylem ni edrych ar rai o'r canlyniadau allweddol hynny, fel y gwasanaeth triniaeth ac ymgynghori fforensig y glasoed, gan ddarparu model gwirioneddol gynhwysfawr lle mae pwyslais ar seicoleg a thrawma, fel y soniais, i dimau troseddau ieuenctid yng Nghymru.
Erbyn hyn mae gennym ni wobr ymarfer effeithiol, sydd wedi codi lefel yr ymarfer ledled Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y prosiect cartrefi bach a'r ffaith ein bod yn cydweithio i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni weld plant yn systemau lles a chyfiawnder Cymru wedi eu cydleoli'n llawn yn yr un adeilad neu safle. Roedden ni'n gytûn pan gwrddais â'r Gweinidog ar y pryd yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder i edrych ar y ffordd ymlaen pan fyddwn ni'n symud ymlaen mewn gwirionedd. Yn amlwg, bu gan Hillside swyddogaeth bwysig iawn, ein canolfan blant, ac mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a minnau wedi ymweld yn rheolaidd. Rydym ni wedi cyfrannu mwy o arian at hynny, ond rydym ni nawr yn edrych ar fwrdd prosiect cysgodol cartrefi bach, gan edrych ar y ffordd y gallwn ni gael y cartrefi bach cyfun hyn wedi'u cydleoli'n llawn yn yr un adeilad neu safle. Wrth gwrs, mae'r tai bychain yma yn golygu y byddwn ni'n gallu wedyn rhoi'r ddarpariaeth yna ar draws Cymru, ac nid fel mae hi ar hyn o bryd, dim ond yn ne Cymru.
Fe hoffwn i ond rhoi diweddariad o ran canolfan breswyl y menywod; fe wnaethoch chi holi am hynny. Mae hyn yn ymwneud â darparu dull mwy cyfannol ystyriol o drawma o ddarparu gwasanaethau i fenywod. Mae'n gynllun peilot; rydym yn ceisio edrych ar y peilot fel dewis arall yn lle carcharu. Mae'n hanfodol ein bod yn edrych ar hyn fel cyfle yng Nghymru i ddarparu'r prosiect peilot hwnnw, i edrych ar ganlyniadau hynny pan fyddwn ni'n ei sefydlu. Bydd yn bwysig iawn, fel peilot, y gellir wedyn ei efelychu. Wrth gwrs, Mark, rydym ni wedi trafod hyn mewn cwestiynau gennych chi o'r blaen. Oherwydd fe hoffwn i weld y peilot hwnnw'n cael ei ailadrodd mewn rhannau eraill o Gymru, wrth gwrs, ond mae angen i ni sefydlu canolfan breswyl y menywod.
Yn y cyfamser, mae gennym ni ddatblygiadau da o ran y glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd o ran llety a mentrau cefnogi i fenywod yn y system gyfiawnder. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad yr adroddiad a gomisiynwyd—ymchwil annibynnol o Brifysgol Glyndŵr Wrecsam mewn cydweithrediad â Llamau i gael dealltwriaeth well o anghenion llety menywod o Gymru a'r rhwystrau maen nhw'n eu hwynebu ar wahanol adegau yn y daith gyfiawnder troseddol. Rydym ni'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwnnw wedi'i rannu gyda ni yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at wneud fy rhan yn ymweld â'r ganolfan newydd ONE Woman's Centre yng Ngharchar Eastwood Park. Ond hefyd, bydd canolfan arall sy'n cael ei rhedeg gan Ymddiriedolaeth Nelson, sy'n rhedeg yr un yng Ngharchar Eastwood Park, yng Nghaerdydd hefyd, gan ddarparu'r gwasanaeth canolfan dydd hollbwysig hwnnw i fenywod, sy'n gallu galluogi menywod i gael mynediad at bwy sydd wedi cael dedfrydau mewn gwirionedd ond nid dedfrydau o garchar, sy'n gallu byw yn y gymuned wedyn ac elwa o'r holl wasanaethau cymorth sy'n cael eu darparu.
Felly, rydym ni'n gwneud cynnydd; mae mwy i ddod, ond rwy'n credu yn enwedig o ran troseddwyr ifanc a'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, mae'r dull hwn o hawliau plant wedi cael ei gydnabod yn eang y tu allan i Gymru. Mae nifer y troseddau ymysg ieuenctid yn gostwng, ac rwy'n credu mai'r ymyrraeth gynnar a gwell rheolaeth achosion sy'n cael cymaint o effaith. Ond mae hefyd yn ymwneud â gwasanaethau datganoledig yn ymgysylltu'n llawn, sydd yn fy marn i yn cyflwyno achos da iawn dros ddatganoli cyfiawnder ieuenctid i Gymru.
Diolch, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich datganiad, ac rŷn ni wedi clywed am ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac rwy'n aelod ohono—. Fe ges i brofiad anhygoel, a dweud y gwir, anhygoel o werthfawr ar yr ymweliad yna i HMP Eastwood Park. Achos dyna lle roedden ni'n medru deall yn iawn, mewn gwirionedd, goblygiadau y modd y mae menywod Cymru yn cael eu hanfanteisio gan y system gyfiawnder droseddol drwy gael eu carcharu a chael eu carcharu yn Lloegr; y camwahaniaethu amlwg sy'n digwydd iddyn nhw yn sgil eu rhywedd, yn tanseilio rhaglenni adferiad, a'r modd y mae dedfrydau byrion cwbl anaddas a dibwrpas yn creu difrod a niwed i fywydau ac i deuluoedd rhai o bobl fwyaf bregus ein cymdeithas, sydd wedi eu camfanteisio ac yn aml eu cam-drin fel y sonioch chi.
Fe glywson ni gan y llywodraethydd yno mai 42 o ddiwrnodau oedd dedfryd carcharon benywaidd Eastwood Park ar gyfartaledd—digon hir i fenyw o Gymru golli'i thŷ, ei theulu, ei rhaglen o driniaethau iechyd, ond dim yn ddigon hir i fenyw o Gymru fedru elwa o raglenni a fyddai'n gallu ei chefnogi hi a'i chryfhau hi, ei helpu hi i ddod yn rhydd o ymddygiadau niweidiol, ei helpu i leddfu problemau iechyd, iechyd meddwl, a chael cyfle i ddelio gyda thrawma a thrais y mae hi wedi eu dioddef.
Gweinidog, gwnaeth hynny i mi sylweddoli mewn gwirionedd sut mae'r ymyl ddanheddog honno o rymoedd a chyfrifoldebau datganoledig anunion, ffiniol ond cyfun sy'n llywodraethu'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru yn un mor finiog i fenywod, a ddangoswyd, wrth gwrs, mor glir gan y llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Athro Richard Wyn Jones a Dr Robert Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, yr oeddech yn ei gydnabod fel cyfraniad defnyddiol. Mae'r cwestiynau y mae eu llyfr yn eu gofyn am ddichonoldeb llunio polisïau cydgysylltiedig mewn tirwedd ddeddfwriaethol mor gymhleth, gyda dwy Lywodraeth yn rheoli gwahanol feysydd a liferau ac atebolrwydd, yn hanfodol, yn wir, i'w hystyried wrth werthuso a datblygu strategaethau fel y glasbrint ac, yn wir, datganoli cyfiawnder i Gymru.
Mae'r asesiad gwerthuso diweddar y cyfeirioch chi ato yn eich datganiad yn tanlinellu pwynt yr awduron, rwy'n credu, ynghylch diffyg data disylwedd. Roeddwn i mewn seminar yn ystod yr egwyl lle roedden nhw'n dweud wrtha i eu bod yn gorfod defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth er mwyn cael peth o'r data oedd ei angen arnyn nhw i wneud eu dadansoddiad. Mae hyn yn benodol yn wir o ran canlyniadau menywod o Gymru yn y system cyfiawnder troseddol. Felly, beth sy'n cael ei wneud i fynd i'r afael â hyn?
Yn ei dystiolaeth ysgrifenedig i ymchwiliad ein pwyllgor, dywedodd Dr Robert Jones, ers cyhoeddi'r glasbrint ar gyfer troseddwyd benywaidd yn 2019, er enghraifft, bod Llywodraeth y DU, wrth geisio cyflawni ei blaenoriaethau polisi ei hun, wedi datgelu cyfres o fentrau cyfiawnder troseddol a diwygiadau a fydd, yn ôl ei rhagamcanion ei hun, yn tanseilio'r addewidion a nodir yn y glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad y glasbrint i leihau nifer y menywod yn system cyfiawnder troseddol Cymru. Felly, Gweinidog, a ydych chi'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, a pha sgyrsiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Llywodraeth y DU am effaith ei blaenoriaethau polisi ar nodau'r glasbrint a rennir o ran troseddu gan fenywod yn benodol?
Roedd hefyd yn hynod bryderus ddoe, yn sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar yr ymchwiliad hwn, i glywed prif weithredwr y Gymdeithas Ynadon yn rhannu gyda ni nad oedd 50 y cant o'i aelodau, mewn arolwg yr oedden nhw wedi'i gynnal, yn gyfarwydd â'r glasbrint a'i nodau. Clywsom nad oedd ynadon, hyd yn oed ar lefelau uwch, sydd, wedi'r cyfan, fel dedfrydwyr yn elfen allweddol yn y strategaeth hon, yn teimlo y buont yn rhan o'r glasbrint. Gweinidog, a allech chi esbonio hyn, ac a allech chi ddweud wrthym ni sut rydych chi'n bwriadu sicrhau bod lleisiau'r holl randdeiliaid yn cael eu clywed a sut mae nodau'r glasbrint yn cael eu cyfleu iddynt a'u hymgorffori ym mhob agwedd ar yr asiantaethau sy'n ymwneud â'i weithredu a'i werthuso?
Ac un allweddol i mi, ac rwy'n credu fy mod i, mae'n debyg, yn siarad ar ran rhai o fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor hwnnw: yn dilyn y sgyrsiau a gefais yng ngharchar Eastwood Park, gofynnwyd i mi, 'A fydd yr hyn yr ydym ni wedi ei ddweud wrthych chi y prynhawn yma yn gwneud gwahaniaeth? A fydd pethau'n newid?' A allwch chi ddweud wrthym ni sut mae unrhyw gynnydd yn cael ei gyfleu i'r menywod sy'n byw ar yr ymyl ddanheddog, finiog honno? Diolch.
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn edrych ymlaen yn fawr at ganlyniad eich ymchwiliad a'r argymhellion a gyflwynir i Lywodraeth Cymru, ond hefyd oherwydd y bydd yn adroddiad a rennir yn llawer ehangach, nid yn unig gyda Llywodraeth Cymru, ond hefyd gyda Llywodraeth y DU, o ran holl bartneriaid Llywodraeth y DU, a'r system gyfiawnder troseddol o ran dedfrydwyr. Dyma hefyd lle mae fy ymgysylltiad â'r Cwnsler Cyffredinol mor bwysig, wrth i ni edrych ar yr ymyl ddanheddog hon, yr ydym ni'n ei chydnabod yn llwyr, a dyna pam roedd 'Sicrhau Cyfiawnder i Gymru' yn bapur mor bwysig i'n helpu i'n harwain ymlaen ac, yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n gweithio ag ef ac yn ei godi gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ar wahân.
Fe hoffwn i droi at y sylw hwnnw y gwnaethoch chi—a fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth—oherwydd rwy'n gwybod eich bod chi'n mynd i garchar Eastwood Park ac, yn wir, i garchar Styal, y credaf fod aelodau o'r pwyllgor yn mynd iddynt. Pan es i i'r ddau garchar yna, allwch chi ddim anghofio beth ddywedodd y menywod wrthon ni. Y sioc pam maen nhw yno yn y lle cyntaf—ac fe wnes i sôn am yr ystadegau yn gynharach ynglŷn â'r trais a'r cam-drin domestig; y trawma roedden nhw wedi ei wynebu yn eu bywydau—ac yna'r sefyllfa roedden nhw ynddi o ran y ddarpariaeth o ran darpariaeth adsefydlu ac amgylchiadau i symud ymlaen.
Y peth pwysig—a dyma pam mae'r glasbrint ar gyfer troseddwyr benywaidd—. Mae a wnelo hyn â chyfiawnder menywod. Mae'n rhaid i mi ddweud bod chwe egwyddor arweiniol i'r glasbrint cyfiawnder menywod, a'r un cyntaf yw cynnwys menywod â phrofiad byw ac ymrwymiad i gyd-gynhyrchu. Felly, mae'n rhaid i ni ddangos bod hynny'n digwydd. Mae fy natganiad heddiw yn rhan o'r craffu hwnnw, ac mae arna i eisiau fod yn rhannu hyn. Rwyf yn ymweld â charchar Eastwood Park ym mis Ionawr gyda'r Cwnsler Cyffredinol, ac felly byddaf yn gallu siarad yn uniongyrchol â—efallai bod rhai o'r menywod y gwnaethoch chi eu cyfarfod wedi gadael y carchar nawr, ond mae'n bwysig ein bod ni'n cael y trafodaethau hynny. Ond hefyd bod yr egwyddorion eraill yn cael eu harwain gan dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth ein bod ni'n dod at ein gilydd a'r mynediad at ddata yn hanfodol bwysig. Mae hyn yn fater mawr i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae arnom ni eisiau'r data hwnnw. Mewn gwirionedd mae gennym ni gytundeb gyda nhw y dylem ni sefydlu ffiniau ar gyfer y data sydd ei angen arnom ni. Ni ddylai fod wedi bod yn rhaid i'r Dr Robert Jones gyflwyno ceisiadau rhyddid gwybodaeth i gael yr wybodaeth honno. Y data hwnnw nawr, rydym ni wedi cael cydnabyddiaeth bod angen darparu hynny.
Mae'r canolbwyntio ar y person, ar drawma ac ar rywedd yn hanfodol—mae'r rhain i gyd yn egwyddorion arweiniol. Ond y peth hollbwysig, mewn gwirionedd, o ran darparu cyfiawnder, yw integreiddio gwasanaethau datganoledig a heb eu datganoli yn well. Ac os edrychwch chi arni, ie, mae darparu gwasanaethau i ferched yn y ddalfa yn gyfrifoldeb ar y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae'r llinell gyfrifoldeb ddeddfwriaethol yn newid o wasanaethau Seisnig i rai Cymreig pan fyddan nhw wedi gadael y carchar a phan fyddan nhw yn y cymunedau yng Nghymru. Ac felly, byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am iechyd, addysg a chamddefnyddio sylweddau.
Mae yna lawer o bethau sydd wedi eu datblygu, a byddwch wedi clywed amdanyn nhw o'ch ymweliadau ac o'ch ymchwiliad. Mae cydlynwyr llwybr llety pob uned gyflenwi ar gyfer y gwasanaeth prawf ar draws Cymru'n hynod bwysig o ran y llwybr i sicrhau llety. Rwyf wedi sôn am y gwasanaeth Ymweld â Mam. Rwyf wedi sôn am drais yn y cartref. Mae Cynghorydd annibynnol Cymru Ddiogelach ar drais domestig a thrais rhywiol—swydd yw honno yng ngharchardai Eastwood Park a Styal, ac mae hynny'n helpu menywod i ailsefydlu'n ôl yng Nghymru. Ond hefyd, mae'r cyfeiriadau yn dod drwy'r llwybr hwnnw o ran tîm rheolwyr ailsefydlu troseddwyr a'r ONE Women's Centre. Mae Pobl, sy'n darparu'r cyswllt carchardai yn y de—byddwch chi'n ymwybodol o'r gwaith hwnnw gyda menywod Cymru, i edrych ar bob agwedd ar anghenion llety. Ac rwyf wedi sôn am yr ymchwil a wnaed gyda Llamau a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam hefyd, i edrych ar yr anghenion llety ehangach hyn. Rwy'n gobeithio y cawn ni yr ymateb hwnnw yn ôl mewn pryd ar gyfer canlyniad eich ymchwiliad hefyd.
Ond rwy'n credu ei bod hi yn bwysig bod gennym ni'r trydydd sector yn ymwneud yn fawr—Cymru Ddiogelach, Ymddiriedolaeth Nelson ac, yn wir, o ran y rhaglen fraenaru i fenywod, llawer o sefydliadau eraill—Cymorth i Ferched Casnewydd, ar lefel leol—. Y ffaith ein bod, hefyd, yn edrych ar anghenion lleiafrifoedd ethnig hefyd—. Mae gwaith penodol yn cael ei wneud, gyda £2.5 miliwn ar gyfer cyfeirwyr benywaidd i'r gwasanaeth braenaru. Felly, rwy'n gobeithio bod hyn yn rhoi rhywfaint o hyder i chi ein bod yn symud ymlaen gyda'r ymyl ddanheddog honno, gyda'r agweddau datganoledig a'r rhai sydd heb eu datganoli, gydag ymrwymiad allweddol i weithio aml-asiantaeth a buddsoddi. Daw'r buddsoddiad hwnnw gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â Llywodraeth y DU. Daw hefyd gan ein comisiynwyr heddlu a throsedd a'r trydydd sector.
Gyda'r amser byr iawn sy'n weddill, Gweinidog, roedd arna i eisiau dweud diolch am gyflwyno hyn heddiw. Fe fyddwn i'n dweud, ar y cyfan, y bu'r ymateb rwyf wedi ei glywed, beth bynnag, i'r glasbrint cyfiawnder menywod yn gadarnhaol, yn ogystal â phrosiect Ymweld â Mam. Ond dim ond eisiau adeiladu oeddwn i, a dweud y gwir, ar beth mae fy nghyd-Aelod Sioned Williams wedi'i ddweud. Pan wnaethom ni ymweld â charchar Eastwood Park yn ddiweddar, cawsom wybod bod cant y cant o'r menywod yno yn ddioddefwyr cyn iddyn nhw gael eu dal yn y system cyfiawnder troseddol; mae 60 y cant ohonyn nhw, ar hyn o bryd, yn fenywod o Gymru.
Felly, dim ond tri pheth oedd arna i eisiau eu codi yn gyflym iawn. Cawsom wybod gan y menywod nad oes ganddyn nhw fynediad at gynrychiolydd etholedig. Does ganddyn nhw ddim ffordd o e-bostio rhywun; allwch chi ond anfon e-byst atyn nhw. Felly, os gellir ymchwilio i hynny ar frys, credaf y byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth aruthrol iddyn nhw. Nid oes ganddyn nhw fynediad chwaith i Buvidal; Mae'n rhaid iddyn nhw gael methadon bob dydd, mae'n eu gwneud nhw'n sâl iawn ac mae'n llawer anoddach iddyn nhw gadw oddi ar y cyffuriau. Maen nhw'n cael gwybod nad ydyn nhw'n gallu cael hynny, yn wahanol i'r carcharorion Seisnig sydd yno, am eu bod yn Gymry. Dydyn nhw chwaith ddim yn gallu cael mynediad i unedau preswyl yn syth ar ôl iddyn nhw ddod allan o'r carchar, fel mae menywod yn Lloegr yn ei wneud, sydd wedi eu hatal rhag aildroseddu.
Yn olaf, mae'n debyg mai tai a llety yw'r prif bryder sydd ganddyn nhw. Siaradais ag un fenyw oedd i fod i gael ei rhyddhau o garchar Eastwood Park ar 21 Rhagfyr. Fy ymateb cychwynnol oedd, 'O.' Ac fe ddywedodd hi, fel, 'ie, byddech chi'n meddwl y byddwn i'n hapus am fynd adref adeg y Nadolig.' Ond, meddai, 'does gen i ddim tŷ i fynd iddo. Mae'n rhaid i mi deithio o'r fan yma i Abertawe, i swyddfeydd y cyngor, dau ddiwrnod cyn y Nadolig gan erfyn arnyn nhw am lety.' Dim ond pedwar o'r 22 awdurdod lleol sy'n derbyn cyllid—[Anhyglywadwy]—bellach; mae'n rhaid i'r lleill gofrestru ar ei gyfer cyn gynted â phosib. Felly, pe gellid ymchwilio i hynny, byddai hynny'n wych. Diolch.
Diolch yn fawr. Rwy'n siŵr y byddaf yn cael y cwestiynau hyn yn sgil argymhellion gan y pwyllgor. Yn amlwg, dylai fod mynediad i'w cynrychiolwyr etholedig o ble bynnag yw eu cartref, eu tref enedigol. Rwy'n siŵr, fel Aelodau etholaethol, fod llawer ohonoch chi wedi cynrychioli—. Ond mae angen i'r menywod wybod pwy ydyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hynny'n wybodaeth—mae hynny'n rhywbeth y gallwn ni adrodd yn ôl yn ei gylch syth—o ran eu sefyllfaoedd.
Rwy'n credu bod y gefnogaeth a'r mentrau gofal iechyd yn hanfodol bwysig, ac rydym ni'n edrych ar hynny. Mae cytundeb ar gyfer adnodd penodol i fenywod gyda'r tîm cydlynydd iechyd a chyfiawnder newydd. Bydd hynny hefyd yn cysylltu gyda byrddau iechyd lleol. Mae cytundeb partneriaeth eisoes ar gyfer iechyd carchardai.
Hefyd, dim ond i wneud yn siŵr bod pobl yn deall: rwy'n sôn am yr ymyl ddanheddog yna eto, o ran y cyfrifoldebau rhwng llywodraeth leol a rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a'n bod ni'n edrych ar y materion hynny o ran mynediad i iechyd. Yn wir, rwyf wedi sôn am addysg iechyd, camddefnyddio sylweddau. Rwy'n deall y bu triniaethau camddefnyddio sylweddau fel Buvidal ar gael i gleifion, ond mae angen i ni nodi os nad yw hyn yn digwydd. Mae ar gael y tu allan i'r carchar cyn iddo gael ei ragnodi yn y carchar, felly mae angen i ni sicrhau bod yna gydnabyddiaeth o anghenion menywod Cymreig mewn carchardai. Ond mae eich adborth o'ch ymweliad â charchar Eastwood Park yn werthfawr iawn, ac edrychaf ymlaen at ymweld fy hun maes o law.
Ac yn olaf, Jenny Rathbone.
Diolch. Mae dros 15 mlynedd ers i adroddiad Corston argymell na ddylai'r rhan fwyaf o fenywod fod yn mynd i'r carchar, a bod angen dedfrydau cymunedol i'r bobl yma. Felly, mae angen i ni fod yn ymchwilio i hyn ar frys. Yn amlwg, byddai'n well gen i pe bai gennym ni system gyfiawnder troseddol ddatganoledig. Fel y mae adroddiad 'Justice at the Jagged Edge in Wales' yn ei gwneud yn glir, dyma'r unig Senedd a Llywodraeth nad oes ganddi farnwriaeth ochr yn ochr â hi, ac, am bob math o resymau, mae hynny'n syniad gwirioneddol wael, mewn gwirionedd.
Felly, mae gwir angen i ni unioni hynny. Rwy'n croesawu'n fawr y gwaith sy'n cael ei wneud i atal menywod rhag mynd i'r carchar ac i roi cefnogaeth gynnar iddyn nhw i atal hynny a sicrhau bod hynny ddim yn digwydd. Fe wnaethoch chi sôn am y niferoedd sydd wedi cwblhau'r pecyn hyfforddi rhywedd a thrawma ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y system gyfiawnder, a dim ond meddwl oeddwn i tybed a ydych chi mewn sefyllfa i ddweud wrthym ni faint sydd wedi cwblhau'r hyfforddiant hwnnw o Styal ac Eastwood Park, oherwydd un o'r materion a gododd yn Styal oedd bod prinder difrifol o staff, a olygai fod hyd yn oed y pethau mwyaf sylfaenol yn cael eu gohirio weithiau, fel y cynadleddau fideo sydd gan fenywod gyda'u plant. Felly, mae'n wir—mae'r system wedi torri'n llwyr, ac mae angen i ni ei drwsio mor gyflym â phosib.
O ran merched ar ddedfrydau byr, peth hollol ddibwrpas, mae'r drws tro yn gweithio'n wych gyda dedfrydau byr; maen nhw'n dod yn ôl i mewn. Felly, fe hoffwn i wybod ychydig mwy am eich sgyrsiau gyda'r heddlu, os yn bosibl, ar y gwahaniaethau—a chyda'r ynadon—ynghylch pam, er enghraifft, fod Gwent yn anfon 88 y cant o'r bobl y mae'n eu dedfrydu ar ddedfrydau byr, pan mai yn ne Cymru dim ond 55 y cant yw'r ganran. Mae hynny'n wahaniaeth sylweddol mewn ardaloedd cyfagos. Felly, pam mae hynny, a sut allwn ni gwtogi hynny?
Diolch, Jenny.
Ac—
Diolch, Jenny.
A gaf i ddweud y bydda i'n ymchwilio i'r sylw yna? Mae'n rhywbeth rwy'n siŵr a gaiff ei grybwyll. Does a wnelo hynny ddim â Llywodraeth Cymru. Mae'n ymwneud â chyfiawnder troseddol; mae'n ymwneud â chyfiawnder a chyfiawnder a chyfiawnder lleol i ferched yng Nghymru, ac fe wna i ymchwilio i hynny o ran gwahaniaeth daearyddol. Ond hefyd fe ddylen ni fod yn gweithredu ar adroddiad Jean Corston. Mae'n rhaid i ni gael dewis arall yn hytrach na charchar i fenywod, mae arnom ni eisiau lleihau dedfrydau o garchar, ac mae arnom ni eisiau sicrhau bod ein strategaeth VAWDASV mewn gwirionedd yn helpu i atal menywod rhag cymryd rhan mewn gwirionedd neu gael eu tynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol. Diolch i chi am eich cefnogaeth i ddatganoli cyfiawnder i Gymru.
Diolch i'r Gweinidog.