Defnydd Dyddiol o Ddŵr Mewn Cartrefi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 1:34, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. Mae dyletswydd ar y cwmnïau dŵr i gynhyrchu cynlluniau rheoli adnoddau dŵr bob pum mlynedd ac mae’n rhaid i’r rhain gadw at egwyddorion Llywodraeth Cymru, sy’n darparu fframwaith lefel uchel i’r cwmnïau ei ddilyn wrth ddatblygu eu cynlluniau. Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i leihau defnydd cyfartalog y pen eu cwsmeriaid domestig i 110 litr yr unigolyn y dydd erbyn 2050, ac maent yn bwriadu gwneud hyn drwy gyfuniad o addysg ac ymgyrchoedd newid ymddygiad ynghyd â mwy o fesuryddion cartref ac atgyweirio gollyngiadau. Ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda hwy ar hynny, a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â Hafren Dyfrdwy—y ddau gwmni sy'n gweithredu yng Nghymru.