1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2022.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru'n gweithio i leihau'r defnydd dyddiol o ddŵr mewn cartrefi? OQ58731
Diolch, a Lywydd, hoffwn ymddiheuro ar ran Julie James am fethu bod yma y prynhawn yma.
Gwnaethom gyhoeddi ein datganiad strategol ar flaenoriaethau ac amcanion ym mis Gorffennaf. Mae'n gosod mandad clir i Ofwat gymell defnydd effeithlon o adnoddau dŵr drwy annog cwmnïau i leihau eu defnydd o ddŵr.
Diolch, Weinidog. Mae gwyddoniaeth hinsawdd yn dweud wrthym y byddwn yn cael hafau hirach, poethach a sychach gyda'r tebygolrwydd o brinder dŵr mwy difrifol. Byddai lleihau’r defnydd dyddiol o ddŵr nid yn unig yn lliniaru rhywfaint o’r heriau rydym wedi’u hwynebu ac y byddwn yn parhau i’w hwynebu yn ystod yr haf, ond gall hefyd fynd i’r afael â thlodi dŵr yn ystod yr argyfwng costau byw sydd ohoni. Er enghraifft, mae rhannau o Gymru ar lefelau sychder yn barod a hithau ond yn fis Tachwedd. Mewn gwledydd eraill, mae targedau eisoes wedi’u gosod ar gyfer defnydd dŵr, gyda Brwsel wedi gosod targed o 96 litr yr unigolyn y dydd, a cheir atebion technolegol hefyd, megis dyfeisiau fflysio sy'n arbed dŵr a dyfeisiau ar gyfer tapiau y gwn fod Dŵr Cymru eisoes yn eu darparu i gwsmeriaid, ac roedd fy ngrŵp, Porthcawl U3A, yn awyddus iawn i mi eich holi yn eu cylch. Felly, Weinidog, o ystyried bod rhannau o Gymru yn debygol iawn o barhau i wynebu sychder yn yr haf ac wrth i filiau barhau i godi, pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u rhoi i godi ein statws effeithlonrwydd dŵr, ac o bosibl, i gyflwyno targed sy’n ddigon uchelgeisiol i fod yn ystyrlon mewn argyfwng hinsawdd ac argyfwng costau byw?
Wel, diolch. Mae’r Aelod yn codi mater gwirioneddol bwysig. Fel y dywed, mae ein system ddŵr dan straen parhaus oherwydd newid hinsawdd a achoswyd gan bobl, ac mae'n mynd i waethygu. Roedd y negeseuon a ddaeth allan o COP yr wythnos diwethaf yn yr Aifft ynglŷn â chyflwr yr wyddoniaeth a lefel difrifoldeb y bygythiad i ni yn dorcalonnus. Felly, mae’n hanfodol ein bod yn arbed ein dŵr ac yn ei drin fel yr adnodd prin ag ydyw. Rwyf wedi croesawu ymgyrch Cyfeillion y Ddaear i dynnu sylw at hyn.
Mae nifer o bethau’n digwydd. Ceir mentrau unigol gan gwmnïau dŵr. Felly, mae gan Dŵr Cymru, er enghraifft, set o awgrymiadau y mae’n eu hyrwyddo, sy'n annog pobl i gymryd camau bach fel y gall pobl wneud gwahaniaeth, fel cael cawod yn lle bath, peidio â gadael y tap i redeg pan fyddwch yn glanhau eich dannedd—mae'r rhain, gyda'i gilydd, yn gwneud cyfraniad ystyrlon. Mae Ofwat hefyd wedi herio’r cwmnïau dŵr i leihau gollyngiadau o leiaf 15 y cant dros y pum mlynedd nesaf ac mae’r ddau gwmni dŵr yng Nghymru wedi ymrwymo i wneud hyn.
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gynigion i gyflwyno cynllun labelu effeithlonrwydd dŵr i labelu cynhyrchion sy’n defnyddio dŵr fel tapiau, cawodydd, toiledau a pheiriannau golchi llestri, a bydd hyn yn galluogi defnyddwyr i gymharu effeithlonrwydd dŵr cymharol y peiriannau hyn, fel y gallant ar gyfer offer nwy a thrydan. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno targedau, ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni barhau i'w adolygu, yn dibynnu ar sut mae'r amgylchedd yn parhau i newid.
Weinidog, y llynedd, cwsmeriaid Dŵr Cymru a ddefnyddiodd fwyaf o ddŵr yr unigolyn y dydd o gymharu â phob rhanbarth arall yn Lloegr. Roedd ein defnydd dyddiol, 176 litr, yn sylweddol uwch nag ardaloedd fel Bryste, er enghraifft, a ddefnyddiodd 161 litr y dydd. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Dŵr Cymru ynglŷn â'r rhesymau dros y defnydd uwch o ddŵr yn y cartref? Wrth inni geisio bod yn fwy cyfrifol gyda’n hadnoddau naturiol, mae’n amlwg fod angen inni roi camau ar waith i fynd i’r afael â hyn.
Wel, diolch am dynnu sylw at y mater pwysig hwn. Mae dyletswydd ar y cwmnïau dŵr i gynhyrchu cynlluniau rheoli adnoddau dŵr bob pum mlynedd ac mae’n rhaid i’r rhain gadw at egwyddorion Llywodraeth Cymru, sy’n darparu fframwaith lefel uchel i’r cwmnïau ei ddilyn wrth ddatblygu eu cynlluniau. Mae Dŵr Cymru wedi ymrwymo i leihau defnydd cyfartalog y pen eu cwsmeriaid domestig i 110 litr yr unigolyn y dydd erbyn 2050, ac maent yn bwriadu gwneud hyn drwy gyfuniad o addysg ac ymgyrchoedd newid ymddygiad ynghyd â mwy o fesuryddion cartref ac atgyweirio gollyngiadau. Ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda hwy ar hynny, a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd â Hafren Dyfrdwy—y ddau gwmni sy'n gweithredu yng Nghymru.