Defnydd Dyddiol o Ddŵr Mewn Cartrefi

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 1:33, 23 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, y llynedd, cwsmeriaid Dŵr Cymru a ddefnyddiodd fwyaf o ddŵr yr unigolyn y dydd o gymharu â phob rhanbarth arall yn Lloegr. Roedd ein defnydd dyddiol, 176 litr, yn sylweddol uwch nag ardaloedd fel Bryste, er enghraifft, a ddefnyddiodd 161 litr y dydd. Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gyda Dŵr Cymru ynglŷn â'r rhesymau dros y defnydd uwch o ddŵr yn y cartref? Wrth inni geisio bod yn fwy cyfrifol gyda’n hadnoddau naturiol, mae’n amlwg fod angen inni roi camau ar waith i fynd i’r afael â hyn.