Part of the debate – Senedd Cymru am 6:44 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch i Cefin am gyflwyno'r ddadl fer yma. Pwynt pwysig mae Cefin wedi ei wneud yn barod: mae busnesau sydd ddim yn cael eu lleoli yn y gymuned yn golygu bod y cyfoeth sydd yn cael ei greu yn gwaedu allan o'r gymuned honno. Mae adeiladu cyfoeth cymunedol yn ceisio ailstrwythuro system yr economi fel bod cyfoeth yn cael ei ddal yn y gymuned, ei rannu a'i ddemocrateiddio. Gall mentrau cymdeithasol helpu hefyd i ailstrwythuro a thrawsnewid economi Cymru yn sylweddol. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod mentrau cymdeithasol yn fwy tebygol o fod yn gyflogwyr gwaith teg, a bod 76 y cant o fentrau cymdeithasol Cymru yn talu'r cyflog byw. Gall mentrau cymdeithasol fod mewn sawl ffurf, fel rydym ni wedi clywed, gan gynnwys mentrau cydweithredol, sefydliadau cydfuddiannol, cwmnïau budd cymunedol, busnesau sy'n eiddo i'r gymuned ac elusennau masnachu a mwy. Y gwahaniaeth allweddol gyda busnesau confensiynol yw'r graddau y mae'r cymhelliant elw yn dominyddu. Mae'n wir bod mentrau cymdeithasol yn anelu at wneud elw, ond maen nhw'n sefydliadau sy'n cael eu harwain gan werthoedd, sy'n golygu eu bod yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r heriau economaidd sydd yn wynebu Cymru heddiw.