2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru ar 23 Tachwedd 2022.
3. Beth mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i gefnogi dysgwyr ôl-16 oed yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg? OQ58748
Mae ystod o fesurau cymorth ychwanegol ar gael i ddysgwyr ôl-16 sy'n derbyn y lwfans cynhaliaeth addysg—mesurau sy'n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru drwy law eu coleg neu eu hysgol. Mae'r rhain yn cynnwys teithio am ddim, neu gyfraniad at y gost, prydau am ddim, nwyddau mislif am ddim, a mynediad at gyllid caledi lle bo ar gael.
Mae'n destun balchder i ni yng Nghymru ein bod ni wedi parhau â'r lwfans cynhaliaeth addysg, sydd ddim yn wir mewn rhai mannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ond un peth sydd ddim wedi digwydd, wrth gwrs, fel mae'r Gweinidog yn ymwybodol, yw dŷn ni ddim wedi codi'r lwfans yn unol â chwyddiant ers iddo fe gael ei gyflwyno yn 2004. Felly, mae wedi colli gwerth real yn ystod y cyfnod yna—bron i ddau ddegawd erbyn hyn—ac, wrth gwrs, mae hynny wedi cynyddu nawr gyda chwyddiant yn cynyddu yn aruthrol yn ystod y cyfnod diwethaf yma gyda'r crisis costau byw.
Mae Sefydliad Bevan yn amcangyfrif mai tua £45 y dylai'r lwfans fod nawr pe bai e wedi cadw yn unol â chwyddiant. Mi fyddai'r cynnydd yna yn gwneud cymaint o wahaniaeth i'r 18,000 o fyfyrwyr ar draws Cymru sydd yn derbyn y lwfans. Dwi'n gwybod bod arian yn brin, Weinidog. Pymtheng miliwn—tua—fyddai e'n costio, ond byddai e'n drawsnewidiol o ran ei effaith ar fyfyrwyr sydd ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig sydd gyda ni yn ein gwlad.
Wel, fel mae'r Aelod yn gwybod, ac rwy'n gwybod ei fod e'n cydnabod hyn hefyd, rydyn ni'n gwneud popeth gallwn ni i sicrhau bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu darparu i gefnogi'r rheini sydd eu hangen nhw fwyaf yn ein system addysg ni. O ran yr ymrwymiad i gynnal EMA, mae hynny yn ein rhaglen lywodraethu ni. Rydym ni yn falch ein bod ni wedi parhau â hynny, fel mae'r Alban wedi gwneud hefyd, fel mae Gogledd Iwerddon wedi gwneud, ond ddim Lloegr. Mae'r lefel sydd gyda ni yma, o ran tâl, yr un lefel ag sydd gan y Llywodraeth yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon hefyd. Beth rydym ni wedi ceisio gwneud yw sicrhau bod cyrhaeddiad yr EMA yn cynyddu. Felly, rydym ni wedi diwygio'r system fel ein bod ni'n gallu ehangu'r cyfnod o daliadau backdated sydd ar gael i ddysgwyr unigol, ac rwyf wedi dwyn hynny i sylw colegau fel eu bod nhw'n mynd ati i hysbysu pobl o hynny, a hefyd, lle mae amgylchiadau arbennig gan ddysgwyr unigol, fod y rheini'n cael eu cymryd mewn i ystyriaeth wrth gynnig y taliadau hwy yna. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, mewn maes arall, wedi ehangu prydau bwyd am ddim yn ystod gwyliau colegau ac, fel gwnes i sôn wrth Jenny Rathbone jest nawr, wedi ehangu'r arian sydd ar gael yn y financial contingency fund. Mae'r rhain ymhlith rhai o'r ymyraethau rydym ni'n eu gwneud i gefnogi dysgwyr unigol sydd angen y mwyaf o gefnogaeth mewn addysg bellach.
O ran y costau mae'r Aelod yn sôn amdanynt, fel mae'n digwydd, oherwydd chwyddiant, ers adroddiad Sefydliad Bevan, mae'r ffigwr, efallai, nawr yn agosach i ryw £54 er mwyn cynnal ei werth o ran chwyddiant. Felly, mae'r ffigwr o £15 miliwn hyd yn oed yn fwy erbyn hyn, ac rwy'n gwybod bydd e'n deall, heb gyllid ychwanegol, sydd ddim wedi dod i law, yr unig ffordd i dalu am hyn yw wrth edrych ar rai o'r ymyriadau blaengar eraill rydym ni yn eu gwneud fel Llywodraeth yn y rhaglen lywodraethu yn gyffredinol, yn y cytundeb cydweithio. Felly, mae'r heriau yma yn rhai real, ond byddwn ni'n gwneud popeth gallwn ni o fewn y gyllideb sydd gyda ni.
Rwy'n ddiolchgar fy mod yn gallu dilyn cyfeiriad cwestiynau'r Aelod mewn perthynas â'r lwfans cynhaliaeth addysg. Cafodd 18,650 o fyfyrwyr gymorth y lwfans cynhaliaeth addysg yn y flwyddyn 2020-21. Fel rhywun a oedd yn gymwys i gael y lwfans hefyd, rwy'n gwybod bod deall sut y gall myfyrwyr gael mynediad ato a pha fyfyrwyr sy'n gymwys yn gymhleth, ac yn wir, wrth siarad ag adran ymchwil y Senedd ar gyfer llunio'r cwestiwn atodol hwn, mae'n gymhleth canfod nifer cywir y rhai sy'n gymwys i gael lwfans cynhaliaeth addysg ac sy'n manteisio arno, a'r rheini, felly, nad ydynt yn manteisio arno. Felly, a gaf fi ofyn beth y mae'r Gweinidog a'i Lywodraeth yn ei wneud i sicrhau bod pawb sy'n gymwys i gael lwfans cynhaliaeth addysg yn gallu cael y cymorth?
Fel roeddwn i'n dweud wrth Adam Price yn gynharach—mewn ymateb i Adam Price—er nad ydym wedi gallu cynyddu gwerth y peth, rydym wedi gallu sicrhau bod y cynnig presennol cystal ag y gall fod. Felly, rydym wedi ehangu'r garfan gymwys i gynnwys rhai o'r bobl ifanc fwyaf bregus yng Nghymru, gan gynnwys rhai yr effeithiwyd arnynt gan Brexit, aelodau o deuluoedd y rhai sydd â statws mewnfudo gwarchodedig, er enghraifft, ac yn fwy diweddar, yr ehangu i gynnwys pobl ifanc sy'n ffoi o'r rhyfel yn Wcráin. Felly, rydym yn edrych bob amser ar ffyrdd y gallwn wneud yn siŵr fod cyrhaeddiad y lwfans cynhaliaeth addysg, ar ei lefel bresennol o leiaf, yn cael ei ymestyn. Fel roeddwn i'n dweud, rydym yn parhau i ganiatáu i ddysgwyr elwa o gyfnod estynedig o daliadau lwfans cynhaliaeth addysg wedi'u hôl-ddyddio. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi hysbysiad i bob ysgol a choleg yn eu hatgoffa o'r ffordd y mae hynny'n gweithio, ac yn tynnu sylw at y disgresiwn yn y cynllun ar gyfer dysgwyr mewn amgylchiadau penodol—cyfrifoldebau gofalu, er enghraifft—i sicrhau nad ydynt dan anfantais o ran eu gallu i gael lwfans cynhaliaeth addysg. Gall pob unigolyn ifanc wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg ar unrhyw adeg yn y flwyddyn academaidd. Weithiau nid yw hynny'n hysbys; nid yw pobl yn ymwybodol o hynny. A lle mae eu hamgylchiadau teuluol yn newid, a allai arwain at ostyngiad mewn incwm, rydym yn annog pobl ifanc i wneud cais am lwfans cynhaliaeth addysg gydag asesiad incwm o'r flwyddyn gyfredol. Felly, byddwn yn parhau i wneud popeth yn ein gallu fel Llywodraeth, ac rwy'n gwybod bod colegau'n gwneud beth bynnag a allant i dynnu sylw at y cynllun presennol i wneud yn siŵr fod y nifer sy'n manteisio arno mor fawr ag y gall fod.