2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Laura Anne Jones.
Diolch, Lywydd. Ychydig wythnosau yn ôl, cyhoeddodd y Gweinidog gynllun peilot yr Undebau a Byd Gwaith—polisi a fyddai'n golygu bod undebau llafur yn mynd i mewn i'n hysgolion, ac yn cael cyswllt uniongyrchol gyda'n dysgwyr. Lywydd, nid oes gan y Ceidwadwyr Cymreig unrhyw broblem gyda phlant yn cael eu dysgu am y gweithle ac mewn gwirionedd, byddai'n annog gyrfaoedd a phrofiad sy'n gysylltiedig â gwaith, ond nid yw'n ymddangos yn deg nac yn briodol fod undebau llafur gwleidyddol sy'n rhoi symiau mawr o arian i'r Blaid Lafur yn cael eu caniatáu i ddod i'n hysgolion lle mae'r gallu ganddynt i ddylanwadu. Yn y pen draw, mae amhleidgarwch gwleidyddol yn helpu ysgolion i ennyn hyder ein cymdeithas amrywiol ac aml-farn. Lywydd, a wnaiff y Gweinidog ddweud wrth rieni ar hyd a lled Cymru sut mae caniatáu i rai sy'n rhoi arian i'r Blaid Lafur ddod i'n hystafelloedd dosbarth yn cefnogi'r gofyniad am amhleidgarwch yn ein hysgolion?
Wel, rwy'n meddwl bod yr Aelod wedi methu'r pwynt braidd. Yr hyn y mae'r cwricwlwm wedi'i lunio i'w wneud yw sicrhau bod ein pobl ifanc yn cael addysg gyflawn a'u bod yn ddinasyddion moesegol a gwybodus pan fyddant yn gadael ein system addysg, gan ddeall yn llawn yr ystod o hawliau a chyfrifoldebau democrataidd sydd ganddynt; pwysigrwydd gweithredu cymdeithasol; eu grym fel unigolion, ynghyd â hanes democrataidd a diwydiannol eu cymunedau a'u gwlad. Ac mae'r cynllun peilot y cyfeiriwch ato yn un sy'n weithredol mewn 35 o ysgolion ar hyn o bryd a'i fwriad yw arfogi athrawon i allu cyflwyno'r rhan honno o'r cwricwlwm. Rwy'n ddiolchgar i TUC Cymru am y gwaith a wnaethant ar gynorthwyo athrawon i wneud hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi hefyd yn cytuno pa mor bwysig yw gwneud yn siŵr ein bod yn darparu adnoddau a dysgu proffesiynol i athrawon allu cyflwyno pob rhan o'r cwricwlwm, ac nid yw'r rhan hon yn wahanol i unrhyw ran arall.
Yn bendant, Weinidog. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych chi'n ceisio ei wneud, ond gadewch inni ystyried Unite, sydd wedi'u rhestru fel cyfranwyr i allu cyfrannu ar lefel bersonol ar gyfer ein dysgwyr. Mae Unite wedi rhoi miliynau o bunnoedd i Blaid Lafur y DU—£33,000 i'r Blaid Lafur yng Nghymru yn uniongyrchol ers 2020. Mae'r Gweinidog ei hun yn aelod o Unite ac wedi cael bron i £2,000 tuag at dreuliau ei ymgyrch etholiadol ei hun. Gellid dadlau bod hyn yn bwrw amheuaeth ddifrifol ar gymhellion Unite ac eraill i fod yn rhan o'r prosiect hwn. Lywydd, a bod yn gwbl onest, mae'r cynllun cyfan yn drewi o ffrindgarwch. Onid yw'r Gweinidog yn gweld gwrthdaro buddiannau yma neu onid yw'n poeni?
Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod fy ateb blaenorol. Pwrpas y cynllun hwn yw gwneud yn siŵr fod pobl ifanc yn gallu manteisio ar amrywiaeth lawn y cwricwlwm. Yn ogystal â'r amcanion ehangach y cyfeiriais atynt yn gynharach, rydym yn glir yn ein hymrwymiad i'n pobl ifanc i'w paratoi ar gyfer byd gwaith, drwy brofiadau sy'n gysylltiedig â gyrfaoedd. Rydym hefyd am sicrhau eu bod yn deall byd busnes yn ehangach. Mae'n gwricwlwm llawn, mae'n gwricwlwm cyfoethog, ac mae'n hollol briodol fod pobl ifanc yn cael mynediad at bob rhan ohono, wrth iddynt weithio drwy eu taith ysgol. Gwelsom fod deall hawliau democrataidd pobl, aelodaeth o undebau, hawliau yn y gweithle, cyfrifoldebau yn y gweithle, yn rhywbeth cadarnhaol ym mywydau pobl. Ac yn union fel deall y llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt, rydym am i bobl ifanc ddeall y cyfleoedd sydd ganddynt i ymuno ag undeb llafur, i gymryd rhan yn hynny fel rhan o'r broses ddemocrataidd, i ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau. Dyna ddiben y cynllun peilot. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd yn llwyddiannus, ac os ydyw, rwy'n edrych ymlaen at allu ei gyflwyno.
Lywydd, mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfleoedd gwych i ddod â busnesau lleol i mewn. Fodd bynnag, mae'n fy mhryderu'n fawr fod y Gweinidog yn dal i beryglu amhleidgarwch ysgolion. Mae angen i ffocws cyntaf y Llywodraeth hon fod ar gael y pethau sylfaenol yn iawn yma yng Nghymru yn gyntaf. Cymru sydd â chanlyniadau gwaethaf y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr yn y DU; nid yw athrawon yn teimlo eu bod yn cael digon o gefnogaeth i ddatblygu'r cwricwlwm newydd; nid oes gan ddisgyblion ac athrawon syniad o hyd sut ffurf fydd ar arholiadau; ac mae athrawon yn wynebu trais yn yr ystafell ddosbarth yn ddyddiol. Gallwn barhau. Weinidog, oni fyddai'n well i chi dreulio'ch amser yn canolbwyntio ar gael y pethau sylfaenol yn iawn gyntaf yn y byd addysg yng Nghymru cyn gwastraffu arian ar geisio cyflyru ein plant?
Nid wyf yn siŵr pa bwynt y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud; yr hyn a glywais i oedd rhestr o bethau'n beirniadu ein system ysgolion. Rwy'n credu y byddai'n well iddi dreulio ei hamser, os caf ddweud, yn dod o hyd i ffyrdd o graffu arnaf mewn ffordd sy'n cyflwyno dewis arall cadarnhaol. Os nad yw'n credu bod yr hyn a wnawn o fudd i'r system ysgolion, efallai yr hoffai gynnig safbwynt ei hun—beirniadaeth a golwg ar y byd, neu un polisi—ond ni chlywaf unrhyw beth o un wythnos i'r llall o'r rhan honno o'r Siambr ond agwedd negyddol a thanseilio'r gwaith y mae athrawon yn ei wneud yn ein hysgolion. Rwy'n gobeithio—. Roedd yna adeg pan oedd hi'n cefnogi'r cwricwlwm a rhaglen ddiwygio'r Llywodraeth; hoffwn ofyn iddi feddwl nôl. Mae'n bwysig iawn i'n pobl ifanc ein bod yn gallu sicrhau bod y math o gefnogaeth drawsbleidiol y mae ein diwygiadau wedi gallu ei chynnig yn parhau i wneud hynny—mae hynny er eu lles gorau. A byddwn yn parhau fel Llywodraeth i sicrhau ein bod yn blaenoriaethu ysgolion, yn blaenoriaethu ein diwygiadau addysg, i wneud yn siŵr fod pob plentyn yng Nghymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Llefarydd Plaid Cymru, Heledd Fychan.
Diolch, Lywydd. Hoffwn i ymateb i'r pwynt hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn beth cadarnhaol fod pobl ifanc yn gwybod eu hawliau yn y gweithle, ac nid wyf yn rhannu'r pryderon. Rydym i gyd fel gwleidyddion yn mynd i ysgolion, ac yn gallu siarad am ein gwerthoedd a'n gwahaniaethau fel pleidiau gwleidyddol, ac mae hyn yn rhan o'r broses addysg honno.
Ar ôl degawd o lymder, mae ysgolion wedi gwneud yr holl arbedion y gallant eu gwneud, ac mae prif athrawon yn rhybuddio y bydd yr unig bethau sydd ar ôl i'w torri yn cael effaith uniongyrchol a sylweddol ar blant a phobl ifanc. Mae arolwg newydd NAHT Cymru yn dangos bod y mwyafrif o ysgolion yn dweud y bydd yn rhaid iddynt ddiswyddo athrawon neu ddod â chytundebau i ben oherwydd argyfwng ariannu. Dywedodd tua 73 y cant y bydd yn rhaid iddyn nhw ddiswyddo cynorthwywyr dosbarth neu leihau eu horiau, gyda bron i hanner yr ysgolion yn dweud y byddant yn cael eu gorfodi i gwtogi ar gymorth megis cwnsela, therapi a chymorth iechyd meddwl. Ymhellach, dywedodd 56 y cant y bydd yn rhaid iddynt leihau gwariant ar ymyriadau ychwanegol wedi'u targedu ar gyfer disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol, gan gynnwys anghenion dysgu ychwanegol. Sut bydd y Gweinidog yn sicrhau nad yw’r sefyllfa ariannol bresennol yn effeithio’n andwyol ar ddysgwyr, nac ychwaith y gweithlu yn ein hysgolion?
Wel, fel mae'r Aelod yn ei wybod, roedd gennym ni gyfle yn natganiad yr hydref yr wythnos diwethaf i weld, ar draws y Deyrnas Gyfunol, fod cyllidebau ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i'r her o ran chwyddiant sydd wedi digwydd i gyllidebau yma yng Nghymru, fel ar draws y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol. Nid hynny welsom ni. Fe welsom ni rhyw gynnydd yn yr hyn sydd i'w ddisgwyl, ond dyw e ddim yn mynd yn agos at ateb yr her y mae ysgolion, a gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach, yn ei hwynebu. Dyw e'n sicr ddim yn gwneud i fyny am impact chwyddiant ar gyllidebau.
Dwi wedi gweld yr hyn mae'r arolygiad gan yr NAHT yn ei ddweud; dwi wedi trafod hynny gyda nhw mewn cyfarfod, a chyfarfod ar y cyd gydag undebau eraill. Rŷn ni fel Llywodraeth yn mynd i flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus. Rŷn ni'n mynd i flaenoriaethu addysg, fel rŷn ni wastad wedi gwneud. Ond mae'r sefyllfa yn un heriol iawn o ran cyllidebau. Rŷn ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i'w cefnogi nhw yn eu trafodaethau gydag ysgolion i wneud y gorau o'r hyn sydd ganddyn nhw o ran arian wrth gefn ar hyn o bryd. Mae hynny, ar hyn o bryd, ar lefel uchel, uchel iawn. Ond dyw hynny ddim yn ateb cynaliadwy. Wrth gwrs, unwaith mae'r ffynhonnell honno wedi ei gwario, mae wedi ei gwario. Ond rŷn ni'n cefnogi awdurdodau i weithio gydag ysgolion ar hyn o bryd i weld pa ddefnydd gorau y gellir ei wneud er mwyn osgoi'r gwaethaf o'r hyn y mae'r Aelod yn sôn amdano.
Diolch, Weinidog, ac yn amlwg wrth i'r trafodaethau yna barhau, fe fyddem ni'n ddiolchgar o'r diweddariadau, fel rydych chi'n eu rhoi, o ran y cymorth angenrheidiol sydd ei angen fel nad yw dysgwyr, nac ychwaith staff, yn cael eu heffeithio'n andwyol, cyn belled â bo modd.
Neithiwr, cynhaliodd Rhieni dros Addysg Gymraeg gyfarfod yn Rhondda Cynon Taf. Tynnwyd sylw at achos Jenna a David o Gilfach Goch, sy'n wynebu gorfod talu am gludiant i'w mab fynychu Ysgol Llanhari yn dilyn newid polisi gan gyngor sir Pen-y-Bont ar Ogwr i beidio parhau i dalu am gludiant am ddim i'w hysgol uwchradd Gymraeg agosaf, sydd dros y ffin yn Rhondda Cynon Taf. Mae'r cyngor yn parhau i dalu i gludo disgyblion o'r un ardal i ysgol cyfrwng Saesneg yn Rhondda Cynon Taf, sef Ysgol Gymunedol Tonyrefail. Barn Rhieni dros Addysg Gymraeg yw bod hyn yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, ac yn amddifadu cymunedau fel Gilfach Goch o addysg Gymraeg hygyrch.
Pa gamau sydd yn cael eu cymryd gan y Llywodraeth i unioni hyn, a sicrhau bod plant, megis mab Jenna a David, yn derbyn cludiant am ddim i'w hysgol Gymraeg agosaf?
Wel, diolch i'r Aelod am godi'r pwynt hwnnw. O ran y pwynt ehangach, mae'r pwynt mae hi'n ei wneud yn y cyd-destun hwn, fel yn y cwestiwn blaenorol, yn un teilwng o ran pa mor bwysig yw cludiant ar gyfer cael mynediad at addysg yn gyffredinol. Ond oherwydd y dosbarthiad daearyddol, mae'n aml yn benodol o bwysig yng nghyd-destun addysg cyfrwng Cymraeg, fel mae ei chwestiwn hi yn awgrymu.
Mae elfen o hyblygrwydd neu ddisgresiwn, os hoffech chi, ynghlwm yn y Mesur, sydd yn caniatáu i awdurdodau wneud penderfyniadau amrywiol yn y cyd-destun hwn. Beth sydd yn glir i ni yw bod yn rhaid sicrhau, gorau gallwn ni, fod y diwygiadau sy'n digwydd i'r Mesur yn mynd i'r afael â hyn. Yn y cyfamser, beth rwy'n bwriadu ei wneud yw cael trafodaethau â phob awdurdod lleol yng Nghymru ynglŷn â'u hymrwymiadau nhw yn eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. A lle mae polisi gan awdurdodau—mae hyn yn digwydd mewn mwy nac un man—sydd yn cael yr effaith mae hi'n sôn amdano fe, ar y ffiniau rhwng awdurdodau, byddaf yn trafod hynny'n benodol gydag awdurdodau a byddaf yn hapus i roi diweddariad i'r Aelod ar ddiwedd y broses honno.