5. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 23 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:38, 23 Tachwedd 2022

I gloi, Dirprwy Lywydd, roedd cyd-destun y gwaith o lunio’r gyllideb hon, a chraffu arni, yn anodd. Fel pwyllgor, rydym yn deall bod pob corff cyhoeddus yn wynebu heriau sylweddol o ran darparu gwasanaethau o fewn eu cyllidebau. O ganlyniad, mae'n bwysicach nag erioed o’r blaen bod cynigion y Comisiwn yn gymesur ac yn dryloyw, a bod modd eu cyfiawnhau. Er bod cyllideb y Comisiwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn cyflawni hyn yn ein barn ni, rydym hefyd yn nodi'r ymrwymiad a wnaed i adolygu’r cynigion yng ngoleuni datganiad yr hydref wythnos diwethaf. Edrychwn ymlaen i weithio gyda’r comisiynydd wrth iddo geisio sicrhau hynny. Diolch yn fawr.