Part of the debate – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 23 Tachwedd 2022.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ac a gaf fi ddiolch i'r comisiynydd am ei ddatganiad? Hoffwn egluro, er fy mod yn ymateb i hyn yn fy rôl fel Gweinidog cyllid yr wrthblaid, rwyf hefyd, wrth gwrs, yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid. Croesawaf ddull cyffredinol y comisiynydd o bennu'r gyllideb hon. Credaf ei fod wedi bod yn adeiladol, ac wedi ymgysylltu’n dda â’r Pwyllgor Cyllid a’r Aelodau yn ystod y broses, a diolch iddo am hynny.
Lywydd, rwy’n sylweddoli bod yr amgylchiadau ariannol cenedlaethol presennol yn anodd, a bydd hyn, fel yr amlinellodd y Comisiynydd, yn cael effaith ar gyllideb y Comisiwn. Ond credaf y gallai rhywfaint o hyblygrwydd fod wedi’i gynnwys ym mhroses y Comisiwn o osod y gyllideb i ganiatáu iddo ystyried a rhoi cyfrif am ddatganiad yr hydref yn ei gyllideb arfaethedig, fel y gallem ni, fel Aelodau, graffu ar gyllideb lawn a rhoi ein barn ynglŷn â lle gellid gwneud arbedion effeithlonrwydd. Ar hyn o bryd, rydym yn pleidleisio ar y gyllideb gan ddibynnu ar y llythyr a ddarparwyd gan y Comisiynydd i'r Pwyllgor Cyllid. Mae hyn yn anarferol, ond rwy'n cydnabod yr amserlenni sydd ar waith. Ond rwy'n croesawu'r ymrwymiad.
Gan symud at y gyllideb, rwy’n cydnabod bod y Comisiwn, yn debyg iawn i gyrff cyhoeddus, yn wynebu pwysau o ganlyniad i chwyddiant. Ar y cyfan, credaf ei fod wedi gwneud yn dda i gyfyngu'r cynnydd y mae’n gofyn amdano. Mae costau ynni'n effeithio'n sylweddol ar y gyllideb, fel y gwyddom, ond wrth geisio gwneud arbedion effeithlonrwydd, tybed a ellir gwneud mwy i leihau costau ynni ymhellach, a pha gynlluniau pellach sydd gan y Comisiwn i ymchwilio i hyn. Deallaf fod y Comisiwn wedi cymryd camau i ostwng thermostatau ar draws yr ystad—teimlais hynny yn fy swyddfa heddiw; mae hynny'n ffaith. Ond a ddylem, er enghraifft, ystyried eu gostwng ymhellach o bosibl, gan eu cadw ar lefelau cyfforddus, neu ddiffodd y gwres mewn ystafelloedd nad ydynt yn cael eu defnyddio? Beth am bethau fel paneli solar ar ein hystad? Yn yr adroddiad ar y gyllideb, ceir cyfeiriad at ystad y Senedd yn ymuno â rhwydwaith gwresogi ardal Caerdydd o 2024. A oes lle i ymuno ag ef yn gynt? Ac a yw'r Comisiwn wedi dadansoddi faint o arian y bydd hyn yn ei arbed, ac os felly, a roddwyd cyfrif am hyn yn ei ragamcanion cyllidebol ar gyfer y dyfodol?
Mae cwestiwn hefyd ynglŷn â sut y caiff yr ystad ei defnyddio. Mae llawer o weithwyr yn dal i weithio gartref am o leiaf rywfaint o'r wythnos, ac felly mae'n iawn i'r Comisiwn ystyried sut y gellir defnyddio'r ystad yn fwy effeithlon. Unwaith eto, hoffwn ofyn i’r Comisiynydd a oes arbedion ychwanegol y gellir dod o hyd iddynt drwy ddefnyddio rhywfaint o eiddo Llywodraeth Cymru yn y gogledd mewn gwahanol ffyrdd. A yw hyn wedi'i ystyried a'i gynnwys? Neu a yw’r Comisiwn wedi edrych ar leoliadau eraill posibl ar gyfer ei swyddfeydd a fyddai’n fwy costeffeithiol nag opsiwn Llywodraeth Cymru? Rwy'n deall bod y contract darlledu ar fin cael ei ystyried ar gyfer ei adnewyddu, ond er hynny, mae'r gyllideb ragamcanol ar gyfer hyn yn agos i'r un peth â blynyddoedd blaenorol. A gaf fi ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith hwn, gan y gallai ganiatáu inni ddod o hyd i arbedion ychwanegol?
Mae'n rhaid imi sôn am ddiwygio'r Senedd, lle mae'r gyllideb yn cynyddu £571,000 i wneud y gwaith paratoi. Rwy'n deall y rhesymeg, ond o ystyried y cyd-destun ariannol y buom yn sôn amdano, mae hwn yn swm sylweddol o arian, y gellir dadlau y gellid ei ddefnyddio’n well mewn mannau eraill, megis i gefnogi aelodau staff neu ei ddefnyddio ar gyfer costau ynni. Ar gyfer beth y mae'r Comisiwn yn rhagweld y bydd y gyllideb hon yn cael ei defnyddio? Ac a yw wedi edrych ar leihau rhywfaint o'r gwaith hwn cymaint ag sy'n ymarferol bosibl fel y gellir dargyfeirio'r arian i'r mannau lle mae ei angen fwyaf?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, yn ogystal â gwneud arbedion effeithlonrwydd, gallai’r Comisiwn edrych ar gynyddu ei incwm. Ar hyn o bryd, mae cyllideb o £200,000 ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu, ond dim ond oddeutu £20,000 y flwyddyn y mae siop y Senedd yn ei gynhyrchu. Pe bai’r strategaethau ymgysylltu ac allgymorth yn gweithio’n dda, oni fyddai gwerthiant yn cynyddu? Yn amlwg, mae angen ystyried sut mae hyn oll yn gweithio. Felly, pa ystyriaeth y mae’r Comisiwn wedi’i rhoi i arallgyfeirio ei ffrydiau incwm, fel y gall ychwanegu at ei gyllideb a bod yn llai dibynnol ar gyllid allanol? Diolch, Ddirprwy Lywydd.