Part of the debate – Senedd Cymru am 5:30 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol trydydd Bil Llywodraeth Cymru yn ystod y chweched Senedd. Yn ein hadroddiad, daethom i un casgliad, a gwnaethom naw argymhelliad. I ddechrau, hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ysgrifennu atom gyda gwybodaeth bellach i gynorthwyo ein gwaith craffu ar y Bil, yn lle'r sesiwn dystiolaeth a gafodd ei chanslo ym mis Medi.