Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Llywydd, mae'r safonau meddygol cyffredinol, a gytunwyd gyda meddygon teulu yng Nghymru, yn gwella mynediad ac yn sicrhau cysondeb ledled y wlad. Mae cyflawniad wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gydag 89 y cant o'r holl bractisiau bellach yn cyflawni'r holl safonau. Bydd cytundeb ar gyfer contract y flwyddyn nesaf yn gweld mwy o welliannau o ran mynediad at y tîm gofal sylfaenol cyfan.