1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2022.
1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fynediad cleifion at eu meddyg teulu? OQ58800
Llywydd, mae'r safonau meddygol cyffredinol, a gytunwyd gyda meddygon teulu yng Nghymru, yn gwella mynediad ac yn sicrhau cysondeb ledled y wlad. Mae cyflawniad wedi cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gydag 89 y cant o'r holl bractisiau bellach yn cyflawni'r holl safonau. Bydd cytundeb ar gyfer contract y flwyddyn nesaf yn gweld mwy o welliannau o ran mynediad at y tîm gofal sylfaenol cyfan.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Prif Weinidog, am eich ateb. Rwyf wedi cael gohebiaeth gynyddol gan etholwyr ym Mhorthcawl yn pryderu am anhawster cael apwyntiad gyda'u meddyg teulu lleol. Ac er fy mod yn deall bod canolfan feddygol Porthcawl yn gweithio mor galed â phosibl i ateb y galw gan gleifion, maen nhw wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:
'Mae gwaith diagnostig a monitro a wneir yn hanesyddol mewn ysbytai yn cael ei drosglwyddo i feddygon teulu, ac fel proffesiwn, ni all meddygon teulu ymdopi â'r gofynion hyn o bob cyfeiriad.'
Mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi tynnu sylw at bryderon fod yna 18 yn llai o bractisiau ledled Cymru ers 2020, ac mae Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru) yn nodi, er bod Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged is o hyfforddi 160 o feddygon teulu newydd bob blwyddyn, ei bod ymhell o gyrraedd y targed o 200 y mae'r BMA yn dweud sydd ei angen yma yng Nghymru. Mae hyn oll yn rhoi pwysau enfawr ar ganolfannau meddygol fel Porthcawl, ac mae'n sefyllfa a allai waethygu yn y blynyddoedd i ddod, gan ein bod ni'n gwybod bod meddygon teulu yng Nghymru, ar gyfartaledd, yn hŷn na'u cydweithwyr mewn rhannau eraill o'r DU. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod darpariaeth meddygon teulu yn ateb galw lleol mewn tref fel Porthcawl, ac a fyddwch yn ymrwymo eich Llywodraeth i gyrraedd targed y BMA o 200 o feddygon teulu newydd y flwyddyn?
Wel, Llywydd, ar yr ail bwynt, mae 200 o leoedd ar gael yng Nghymru ar gyfer hyfforddeion meddygon teulu. Nid ydym bob amser yn cyrraedd 200, ond rydym ni'n denu mwy na'r 160 yn gyson, sef y ffigur sylfaenol ar gyfer hyfforddiant meddygon teulu. Yr ateb tymor hir, fodd bynnag, yw symud i ffwrdd o ganolbwyntio dim ond ar feddygon teulu eu hunain. Mae meddygon teulu yn arweinwyr tîm clinigol ehangach sy'n gweithio ochr yn ochr â nhw. Ac mae'r hanes dros y degawd diwethaf yng Nghymru wedi bod yn gam llwyddiannus i recriwtio mwy o glinigwyr rheng flaen mewn ffisiotherapi, mewn fferylliaeth, drwy barafeddygon sy'n ymarfer gofal sylfaenol, ac, wrth gwrs, nyrsys practis uwch hefyd. Ac mae iechyd hirdymor gofal sylfaenol yn dibynnu ar beidio ystyried apwyntiad gyda'r meddyg fel yr unig ffordd y gellir darparu gofal sylfaenol.
Rwy'n siŵr bod canolfan feddygol Porthcawl yn gweithio'n galed iawn yn wir. Byddant yn falch o wybod ein bod ni, yn y trafodaethau gyda Phwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru wedi bod yn lleihau faint o adroddiadau ailadroddus y gofynnir i feddygon teulu eu cyflawni weithiau, fel arfer at ddibenion monitro cyflyrau clinigol pwysig. Ond gallwn wneud hynny mewn ffyrdd gwell a mwy clyfar, a rhyddhau clinigwyr i wneud y pethau mai dim ond nhw sy'n gallu eu gwneud.
Mae unedau gofal sylfaenol brys yn un o'r atebion sydd wedi cael eu cyflwyno er mwyn trio lleihau y pwysau ar feddygfeydd. Ond, yn Ynys Môn, dŷn ni'n gweld bod naw o'r 10 syrjeri sydd gennym ni ar yr ynys wedi gwneud 278 referral i'r uned newydd yn Ysbyty Penrhos Stanley, tra bod yr un feddygfa sy'n cael ei rheoli yn uniongyrchol gan y bwrdd iechyd, Hwb Iechyd Cybi, ei hun wedi gwneud dros ddwywaith y nifer yna o referrals—562. Ydy'r Prif Weinidog yn cytuno â fi fod hynny'n brawf bod angen cyflymu'r broses o ddatblygu canolfan iechyd amlddisgyblaethol newydd ar gyfer cymuned Caergybi a'r ardal?
Dwi wedi gweld tystiolaeth dros y misoedd, Llywydd, am y sefyllfa yng Nghaergybi, a dwi'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn gweithio gyda phobl leol ar yr ynys i drial cyflymu'r broses o recriwtio pobl newydd ac i gael beth sy'n mynd ymlaen a beth sydd ar gael yng Nghaergybi i fod yn rhan o'r gwasanaeth sydd ar gael yna dros yr ynys i gyd. Mae rhai problemau, rŷn ni'n gwybod, wrth recriwtio'r staff, ond mae pobl leol yn gweithio'n galed gyda'i gilydd i drial gwella'r sefyllfa bresennol.
Mae mynediad i feddygfeydd yn amrywio'n enfawr. Mae rhai meddygfeydd ardderchog yn fy etholaeth i, gan gynnwys Clydach a Glyn Mefus, ac nid fy meddygfa i yw'r naill na'r llall. Mae dros 90 y cant o'r cwynion yn fy etholaeth i ynghylch mynediad i feddygfeydd yn ymwneud ag un feddygfa. Pan nad yw pobl yn gallu gweld meddyg teulu, maen nhw naill ai'n mynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys neu'n aros tan fydd eu cyflwr yn dirywio ac yna'n cael eu gorfodi i fynd i'r adran ddamweiniau ac achosion brys. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod yr holl feddygfeydd yn cyflawni o leiaf y perfformiad canolrifol cyfredol?
Diolch i Mike Hedges am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae'n tynnu sylw at un o ffeithiau sylfaenol gofal sylfaenol, sef bod meddygon teulu yn gontractwyr annibynnol. Mae ganddyn nhw gontract gyda'r bwrdd, ac nid ydynt yn cael eu rheoli'n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru na'r gwasanaeth iechyd lleol. Fodd bynnag, y newyddion da i etholwyr Mike Hedges yw, oherwydd casgliad llwyddiannus y trafodaethau ar gyfer contract y flwyddyn nesaf, mae'r safonau mynediad yn symud o fod yn bethau y gall meddygon teulu gytuno â nhw, i fod yn bethau y mae'n rhaid iddyn nhw eu cyflawni. Mae bellach yn rhan sylfaenol o'r contract newydd, a bydd hynny'n golygu, rwy'n credu, bod y lleiafrif hwnnw o bractisiau—. Cofiwch, mae 89 y cant o bractisiau yn cyflawni'r safonau hynny eisoes, ac mae hynny'n welliant o 65 y cant, Llywydd, ym mis Mawrth 2020, felly mae gwthiad mawr gofal sylfaenol yng Nghymru wedi bod i'r cyfeiriad cywir, diolch i ymdrechion enfawr y staff. Y lleiafrif bach hwnnw—y 10 y cant—sydd ar ôl i gyflawni'r safonau hynny, bydd y pethau hynny nawr yn haws i'w gorfodi oherwydd bydd y contract ei hun yn gofyn iddyn nhw gael eu cyflawni.
Yn eich ymateb cyntaf i'r cwestiwn hwn, Prif Weinidog, cyfeirioch chi at y gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gallu chwarae rhan wrth leddfu'r pwysau ar feddygon teulu eu hunain. Efallai bydd diddordeb gennych wybod fy mod wythnos diwethaf wedi ymweld â Jonathan Lloyd Jones yn fferyllfa Caerau. Mae'n fferyllfa ym mhen uchaf ardal ddifreintiedig iawn—y mater hwnnw o'r ddeddf gofal gwrthgyfartal i bob pwrpas—ond yr hyn y maen nhw'n ei wneud yno yw gweithio gyda'r contract fferylliaeth gymunedol newydd yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud i mi eistedd i mewn—gyda chaniatâd unigolion—wrth iddyn nhw roi diagnosis o fân anhwylderau a rhagnodi, gan gymryd y pwysau oddi ar y meddygon teulu, ond roedden nhw'n cydgysylltu'n uniongyrchol â'r meddygon teulu, ac yn rhannu gwybodaeth hefyd, gyda chaniatâd y cleifion. Am ffordd dda ymlaen yw hynny. Felly, a gaf i ofyn iddo am ei sicrwydd y byddwn yn parhau i edrych ar y ffyrdd arloesol hyn nid yn unig i dynnu pwysau oddi ar feddygon teulu, ond hefyd i hybu iechyd a llesiant y rhai hynny yn rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig?
Llywydd, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Rwy'n credu bod hybu fferylliaeth gymunedol wedi bod yn rhywbeth y cytunwyd arno ar draws y Siambr yma, dros gyfnod datganoli i gyd. Rydym wastad wedi credu ei fod yn adnodd y gellid manteisio mwy arno, a dros y blynyddoedd, rydym wedi gweld fferyllwyr cymunedol yng Nghymru yn ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau y maen nhw'n eu darparu yn sylweddol, gan gytuno i'w contractau gael eu moderneiddio, i wneud yn siŵr bod y gwasanaethau y gall y gweithlu hyfforddedig iawn hwnnw eu darparu fel rhan o'r teulu gofal sylfaenol, ar gael ledled Cymru. Ac rwy'n credu ei bod hi'n deyrnged wirioneddol i'r bobl sy'n gweithio yn y sector eu bod nhw wedi bod mor barod i chwarae eu rhan wrth foderneiddio'r gwasanaeth yng Nghymru. Byddwn i'n dweud hyn, Llywydd, ein bod yn parhau i fod ag ychydig dros 700 o fferyllwyr cymunedol, yng Nghymru. Maen nhw ar y stryd fawr ym mhob rhan o Gymru, ond yn Lloegr bu dirywiad sylweddol yn nifer y fferyllfeydd, a hynny oherwydd bod y rheoliadau a basiwyd yn y Siambr hon wedi amddiffyn lleoliad stryd fawr fferyllfeydd cymunedol, gan ganiatáu enghreifftiau fel yr un a amlygwyd gan Huw Irranca-Davies i ffynnu ac ehangu.
Nid yw'n ymwneud â fferyllwyr cymunedol yn unig chwaith, Llywydd, gan ystyried y cwestiwn gwreiddiol. Roeddwn i'n ymweld â phractis meddyg teulu yn ystod yr wythnosau diwethaf ac roedden nhw'n dathlu'r ffaith eu bod newydd recriwtio fferyllydd i ddod i weithio'n uniongyrchol yn y feddygfa ac roedden nhw'n egluro i mi nifer yr ymwelwyr dychwel y byddant nawr yn gallu eu gweld yn glinigol briodol ac yn gyflym oherwydd yr adnodd ychwanegol hwnnw. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwynt a wnaed, yn y gymuned ac yn uniongyrchol o fewn gofal sylfaenol, bod cyfraniad fferylliaeth yn hanfodol i'r ffordd yr ydym yn llunio'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol.