Cost Gynyddol Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:41, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys Gorllewin Casnewydd, yn profi'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cofnodi. Mae'r economi wedi mynd i gyfnod cynnar dirwasgiad o ganlyniad i gyfnod o 12 mlynedd o gamreoli economaidd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd hynny'n ychwanegu diweithdra cynyddol i'r heriau y mae trigolion Gorllewin Casnewydd yn eu hwynebu eisoes.