1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2022.
2. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y gost gynyddol o fyw ar bobl Gorllewin Casnewydd? OQ58804
Llywydd, mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys Gorllewin Casnewydd, yn profi'r gostyngiad mwyaf mewn safonau byw ers dechrau cofnodi. Mae'r economi wedi mynd i gyfnod cynnar dirwasgiad o ganlyniad i gyfnod o 12 mlynedd o gamreoli economaidd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd hynny'n ychwanegu diweithdra cynyddol i'r heriau y mae trigolion Gorllewin Casnewydd yn eu hwynebu eisoes.
Diolch, Prif Weinidog. Yn ystod y cyfnod hynod o anodd hwn, mae'n hanfodol bod gan bobl gymaint o arian yn eu pocedi â phosibl. Mae costau byw o ddydd i ddydd ynghyd â threuliau annisgwyl yn golygu y gall chwistrelliadau o arian parod fod yn achubiaeth enfawr. Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cynnig grantiau, ond yn anffodus, mewn llawer o achosion, nid yw pobl yn ymwybodol o ba gefnogaeth y mae ganddyn nhw hawl iddi neu maen nhw'n cael eu rhwystro gan brosesau gwneud cais cymhleth. Yn ddelfrydol, gellid gwneud taliadau yn awtomatig i'r rhai sy'n gymwys. Ar hyn o bryd, Casnewydd yw un o'r cynghorau sy'n treialu taliadau awtomatig i'r rhai sy'n gymwys ar gyfer y cynllun tanwydd gaeaf o dan gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Felly, pan fydd cyllidebau Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn dynn, mae gweithio mewn ffordd gall yn hanfodol. Mae angen i ni roi'r arian sydd gennym ni yn gyflym ac yn effeithlon i'r bobl sydd ei angen fwyaf. Felly, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, gan weithio gyda llywodraeth leol, i sicrhau bod hyn yn digwydd a bod y taliadau hanfodol hyn yn cael eu hawtomeiddio ledled Cymru, yn lle bod rhaid gwneud ceisiadau?
Diolch i Jayne Bryant am hynna. Mae hi'n hollol iawn i nodi bod miliynau a miliynau o bunnau sydd ar gael i deuluoedd ledled Cymru heb eu hawlio bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ein his-bwyllgor costau byw newydd, wedi bod yn hyrwyddo'r syniad y dylai pob cyswllt gyfrif wrth sicrhau bod pobl yn cael eu cynghori, eu hannog a'u helpu i hawlio'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Bob dydd yng Nghymru, mae miloedd o gyfarfyddiadau rhwng gweithwyr yn y sector cyhoeddus a dinasyddion Cymru, mae sefydliadau'r trydydd sector yn cyfarfod â phobl bob dydd, ac mae busnesau preifat, er enghraifft y rhai yn y sector cynhwysiant ariannol, yn gwneud yr un peth. Credaf fod pob un o'r cyfarfyddiadau hynny yn y gaeaf eithriadol o anodd hwn yn gyfle i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y cymorth sydd ar gael iddyn nhw. Nid yw'n anodd o gwbl, Llywydd—mae cyfrifianellau syml iawn y gall pobl eu defnyddio'n rhwydd. Mae gan Cyngor ar Bopeth un y gallwch chi ei defnyddio ar-lein. Mae un ar lwyfan Llywodraeth y DU sy'n rhwydd iawn yn wir i'w defnyddio, ac os defnyddiwn ni y mantra 'mae pob cyswllt yn cyfrif' yna rwy'n credu bod mwy y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y cymorth sydd yno a heb ei hawlio yn mynd i bocedi pobl, ac o ganlyniad yn mynd i mewn i economi Cymru hefyd mewn cyfnod anodd.
Mae Jayne Bryant yn gwneud pwynt pwysig hefyd, Llywydd, am awtomatigrwydd. Erbyn hyn mae gan hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru system pan fo rhywun yn gwneud cais am un o'r budd-daliadau sydd ar gael trwy awdurdodau lleol, does dim angen i'r unigolyn hwnnw hawlio ar wahân am yr holl bethau eraill y gallai'r awdurdod lleol eu darparu. Felly, os ydych yn hawlio budd-dal y dreth gyngor, bydd system yr awdurdodau lleol yn gwirio a oes gennych hawl i ginio ysgol am ddim. Ni ofynnir i chi lenwi set arall o ffurflenni—set arall o rwystrau. Nawr, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod yr hanner arall, yr 11 awdurdod arall, yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Mae arweinyddiaeth bwerus gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd. Ac mae'r dystiolaeth yn glir iawn, os yw'r system honno gennych chi pryd rydych chi'n gwneud cais unwaith a bod un cais yn agor y drws i'r holl gymorth y mae gennych hawl iddo, mae hynny'n sicrhau bod y cymorth hwnnw'n cyrraedd mwy o bobl a hynny'n gyflymach. Hoffwn yn fawr weld hynny ledled Cymru.
Prif Weinidog, o'r wythnos diwethaf ymlaen, dechreuodd miliynau o bensiynwyr ar draws y DU gael £300 cychwynnol wrth i daliadau costau byw pensiynwr y Llywodraeth Geidwadol ddechrau cael eu dosbarthu. Bydd y taliadau hyn yn cael eu gwneud i dros 11 miliwn o bensiynwyr sy'n cael y taliadau tanwydd gaeaf, gan gynnwys tua 15,600 o bensiynwyr yng Ngorllewin Casnewydd. Yn ogystal â'r cynnydd o £300 yn y taliadau tanwydd gaeaf, bydd y warant pris ynni yn helpu i gadw biliau ynni'r cartref mor isel â phosibl, gan arbed £900 i'r aelwyd nodweddiadol y gaeaf hwn. Mae aelwydydd hefyd yn elwa ar grant o £400 a ddidynnir yn awtomatig o'u biliau ynni, felly a ydych yn cytuno, Prif Weinidog, y bydd y mesurau hyn i helpu pensiynwyr fel rhan o becyn cymorth ehangach i fynd i'r afael â biliau ynni cynyddol yn rhoi cefnogaeth y mae gwir ei hangen i bobl sy'n byw yng Ngorllewin Casnewydd y gaeaf hwn ac yn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed sy'n wynebu prisiau cynyddol? Diolch.
Wel, Llywydd, rwy'n croesawu unrhyw gymorth sydd ar gael ar gyfer pensiynwyr ac i bobl eraill sy'n dibynnu ar y wladwriaeth am eu hincwm. Ac rwy'n gobeithio bod y taliadau hynny'n cyrraedd pobl mor gyflym â phosibl, oherwydd rydym ni'n gwybod, o'r holl grwpiau yn ein cymdeithas, fod pensiynwyr ymhlith y rhai sy'n pryderu fwyaf ynghylch gwneud pethau a fyddai'n arwain at filiau na allant eu talu. Mewn ateb i gwestiwn gwreiddiol Jayne Bryant ynghylch y miliynau o bunnau sydd heb ei hawlio, sef mai'r person yng Nghymru sydd leiaf tebygol o hawlio'r cymorth y mae ganddo hawl iddo yw menyw sengl dros 75 oed, ac mae'r rhesymau dros hynny yn gymhleth, ond mae'n dangos bod rhaid ymdrechu'n benodol i wneud yn siŵr bod y boblogaeth bensiynwyr yng Nghymru yn cael pob cymorth sydd ar gael. Pan fydd mwy o gymorth ar gael iddyn nhw, wedyn, wrth gwrs, rwy'n croesawu hynny.