Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Prif Weinidog, mae Cyngor Caerdydd wedi cyfeirio at ôl-groniad cynnal a chadw o £55 miliwn fel ffactor ysgogol y tu ôl i synau diweddar ynghylch gwerthu Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae'r methiant systematig i ddarparu gwaith cynnal a chadw parhaus digonol bellach yn golygu bod y lleoliad, sy'n cynnal achlysuron diwylliannol a dinesig, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Rhys, sy'n ychwanegu at fri Caerdydd fel prifddinas yn mynd i newid dwylo a mynd i gwmni sydd wedi datgan ei ddymuniad i roi'r gorau i gynnal y mathau hyn o ddigwyddiadau. Mae'r posibilrwydd hwn o werthu Neuadd Dewi Sant yn amlygu problemau blaenllaw ynghylch pa mor gyfrifol y dylai'r awdurdod lleol fod wrth reoli asedau cymunedol ac adeiladau cymunedol, a pha mor atebol y dylen nhw fod pan fethon nhw â'u cynnal a gofalu amdanyn nhw'n iawn.
Prif Weinidog, byddwn yn dadlau ei bod yn annhebygol iawn bod gwerth £55 miliwn o waith cynnal a chadw wedi cronni dros y tair blynedd diwethaf ers dechrau'r pandemig COVID, ac nid wyf yn credu y dylid defnyddio hwn fel y rheswm y tu ôl i'r ôl-groniad. Mae gwerth 55 miliwn o bunnau o waith cynnal a chadw yn digwydd dros ddegawdau o esgeulustod, ac felly rwy'n credu pe bai Cyngor Caerdydd wedi ymddwyn yn gyfrifol gan wneud gwaith cynnal a chadw wedi'i drefnu'n briodol, na fydden nhw'n ceisio gwerthu Neuadd Dewi Sant. Gyda hyn mewn golwg, Prif Weinidog, pa asesiad y mae'r Llywodraeth hon wedi'i wneud ochr yn ochr ag awdurdodau lleol i ddeall a yw'r rhai sy'n gyfrifol am gynnal asedau diwylliannol a chymunedol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i'w cynnal yn iawn? Diolch.