Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Llywydd, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd yr Aelod yn gwneud y pwyntiau hynny i'r awdurdod priodol, sef Cyngor Caerdydd ei hun yn yr achos hwn. Mae e'n iawn—Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol amdani ac mae'n atebol i'w boblogaeth leol, ac fe gafodd Cyngor Caerdydd gefnogaeth sylweddol gan y bobl yma yng Nghaerdydd ym mis Mai eleni. Dim ond i ychwanegu hyn, Llywydd, yr oedd arweinydd y cyngor yn glir iawn yn ei sgwrs â mi heddiw nad oes awgrym yn yr un o'r trafodaethau y mae'n eu cynnal y byddai'r cyngor yn peidio â bod yn berchen ar rydd-ddaliad Neuadd Dewi Sant.