Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna Prif Weinidog, a'r hyn yr ydym ni wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf yw Llywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto yn arwain mewn cyfnod ariannol anodd i fuddsoddi yng Nghymru. Ac, yn wir, yn eu datganiad yn yr hydref, datgelwyd y byddwn yn cael £1.2 biliwn mewn cyllid canlyniadol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin, sydd wedi bod o fudd i ardaloedd yn fy ardal i yn sir Ddinbych. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r Rhyl yn etholaeth Dyffryn Clwyd, sydd ag un o ardaloedd tlotaf Cymru gyfan, gyda chyfraddau uchel o ddiweithdra ac ychydig iawn o gyfleoedd i bobl—[Torri ar draws.]