1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 29 Tachwedd 2022.
6. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd y chwistrelliad o £1.2 biliwn i Gymru o ddatganiad yr hydref Llywodraeth y DU o fudd i bobl sir Ddinbych? OQ58777
Llywydd, pan gyhoeddir y gyllideb ddrafft ar 13 Rhagfyr, bydd yn rhaid iddi gydbwyso'r £600 miliwn, sydd ar gael y flwyddyn nesaf nawr, â'r gostyngiad o £1 biliwn sy'n weddill ym mhŵer prynu'r gyllideb honno. Y gostyngiad hwnnw yn sgil yr un chwyddiant sy'n achosi cymaint o niwed i ddinasyddion sir Ddinbych.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna Prif Weinidog, a'r hyn yr ydym ni wedi'i weld dros yr wythnosau diwethaf yw Llywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto yn arwain mewn cyfnod ariannol anodd i fuddsoddi yng Nghymru. Ac, yn wir, yn eu datganiad yn yr hydref, datgelwyd y byddwn yn cael £1.2 biliwn mewn cyllid canlyniadol, ac mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin, sydd wedi bod o fudd i ardaloedd yn fy ardal i yn sir Ddinbych. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae'r Rhyl yn etholaeth Dyffryn Clwyd, sydd ag un o ardaloedd tlotaf Cymru gyfan, gyda chyfraddau uchel o ddiweithdra ac ychydig iawn o gyfleoedd i bobl—[Torri ar draws.]
A wnewch chi ganiatáu i'r Aelod barhau â'i gwestiwn, aelodau meinciau cefn Llafur?
Ie. Diolch, Llywydd. Ychydig iawn o gyfleoedd i bobl ddod o hyd i yrfaoedd cynaliadwy sy'n talu'n dda yn yr ardal leol, rhywbeth y gellid ei ddatrys yn rhannol pe bai gennym Lywodraeth yng Nghymru oedd yn gweithio i Gymru gyfan ac yn gweithio mewn partneriaeth â San Steffan. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog amlinellu heddiw sut y bydd yn gweithio orau gyda Rishi Sunak a Llywodraeth y DU wrth sicrhau bod fy etholaeth i yn teimlo budd y chwistrelliad hwn o arian parod, yn hytrach na dim ond beirniadu o'r cyrion?
Wel, Llywydd, mae'n un o'r cwestiynau hynny lle nad ydych chi'n gwybod lle i ddechrau, mewn gwirionedd. Yn gyntaf oll, gadewch i ni gywiro'r gwall yn syth. Rwy'n gweld bod yr Aelod yn brysur yn trydar bod Cymru am gael £1.2 biliwn i ariannu ysgolion ac ysbytai. Wel, wrth gwrs, nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae 44 y cant o'r holl symiau canlyniadol sy'n dod i Gymru o ganlyniad i newidiadau i'r cymorth yn y cyfraddau busnes a gyhoeddwyd yn Lloegr. Felly, mae hanner yr arian wedi mynd cyn i ni ddechrau ar unrhyw ysgol neu unrhyw ysbyty, a hyd yn oed pan fydd yr arian hwnnw yno, mae'n dal i adael cyllideb sydd mewn termau real, y flwyddyn nesaf, £1 biliwn yn llai nag yr oedd pan wnaeth y Llywodraeth Geidwadol honno osod y gyllideb ym mis Tachwedd y llynedd. Dyna'r gwir sy'n wynebu trigolion sir Ddinbych.
Prin y gwyddwn i beth i'w feddwl pan glywais yr Aelod yn cyfeirio at y gronfa ffyniant bro a'r gronfa ffyniant gyffredin. A wnaeth ef sylwi bod ei Lywodraeth wedi cymryd £400 miliwn arall allan o'r gronfa ffyniant gyffredin yn natganiad yr hydref? Roeddem ni eisoes yn gwybod nad oedd y sicrwydd llwyr na fyddai Cymru'n waeth ei byd o ganlyniad i golli arian Amcan 1 yn mynd i fod yn wir o gwbl. Roedd hynny eisoes yn glir o'r arian blaenorol yr oedd Llywodraeth y DU wedi'i amlinellu. Nawr mae gennym ni £400 miliwn yn llai hyd yn oed na hynny, a does gennym ni ddim hyd yn oed gyhoeddiad ar y cyllid i Gymru o gwbl. Mae unrhyw awgrym fod y ffordd y mae pobl yn etholaeth yr Aelod i ddod o hyd i gyfleoedd newydd yn eu bywydau trwy ddilyn yr hyn sydd wedi bod yn digwydd yn San Steffan mor bell o realiti'r sefyllfa fel bod angen dos sylweddol iawn o realiti ar gwestiwn yr Aelod y prynhawn yma.