3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:55, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Nid pwrpas yr adolygiad ymarfer plant yw cynnal ymchwiliad, ond ystyried ein gwasanaethau ni a'n cynorthwyo ni i ddysgu beth allwn ni ei wneud i wella yr hyn y gallwn ni ei wneud i amddiffyn plant. Rwy'n ddiolchgar i'r panel adolygu am sicrhau eu bod yn ystyried meysydd dysgu a nodwyd mewn adolygiadau eraill ledled Cymru a Lloegr wrth gynnal yr adolygiad ymarfer plant hwn. Mae hi'n iawn i ni barhau i ystyried dysgu o ddigwyddiadau trasig eraill wrth lunio'r dull gweithredu sy'n ofynnol i wneud gwelliannau i sicrhau diogelwch plant yng Nghymru.

Fodd bynnag, y ffaith drist a chyson amdani yw bod adolygiadau o'r fath yn rhannu, mewn llawer o achosion, themâu tebyg, yn enwedig ynghylch yr heriau o ran rhannu gwybodaeth a data rhwng asiantaethau, a materion ynghylch systemau a phrosesau, a phryderon ynglŷn ag arweinyddiaeth a diwylliant. Fe fyddem ni i gyd yn dymuno gweld byd lle na allai digwyddiadau fel rhain fyth ddigwydd ac mai hwn fyddai'r achos olaf o'i fath. Mae'r ffaith nad ydym ni'n gallu gwybod pob amser pwy yw'r unigolion a allai weithredu fel y rhai a gafwyd yn euog o lofruddiaeth Logan yn awgrymu na fydd hwn yr olaf. Serch hynny, ni ddylai hynny ein hatal ni rhag gwneud popeth sydd yn ein gallu i leihau'r perygl i'r fath raddau ag y gallwn ni a chynnig y cymorth sydd ei angen ar blant yn sefyllfa Logan ac y maen nhw'n ei haeddu.

Mae'r adolygiad yn dangos yn eglur fod cyfle i wella ymarfer. Mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y pedair thema dysgu allweddol a nodwyd yn yr adolygiad y mae'n rhaid eu hystyried gyda'r un gofal a brys â'r 10 argymhelliad lleol a'r pum argymhelliad cenedlaethol a nodwyd. Disgrifir y themâu dysgu a nodwyd yn yr adroddiad fel rhai cyfundrefnol ac nid achosion ynysig o wall unigol neu arfer gwael mohonyn nhw. Mae hi'n eglur o'r adolygiad nad yw'r argymhellion yn cael eu neilltuo i un asiantaeth unigol. Mae diogelu plant yn gofyn am ddull amlasiantaeth ac, o'r herwydd, mae'n rhaid i'r holl gamau sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r themâu dysgu hyn a gweithredu'r argymhellion gael eu cyflwyno gyda'i gilydd, ar sail cyfrifoldeb a rennir.

Mae Deddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn nodi'r dyletswyddau statudol sydd ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol yng Nghymru. Tra bod yn rhaid i'r asiantaethau hyn, wrth gwrs, gadw at ddeddfwriaeth o'r fath bob amser, byddaf yn ceisio cryfhau'r dulliau fel bod asiantaethau yng Nghymru yn cydweithio â'i gilydd yn fwy agos i ddarparu ein gwasanaethau hanfodol. Mae cyfrifoldeb gan bob un ohonom ni i weithredu'r hyn a ddysgwyd a nodir yn yr adolygiad ymarfer plant hwn a gweithio gyda'n gilydd i gyflawni'r camau sydd eu hangen i greu newid yn y systemau y mae ein gweithwyr proffesiynol yn gweithio ynddyn nhw a'u cefnogi i gyflawni eu gwaith. Rwy'n disgwyl i'r holl asiantaethau perthnasol ystyried yr adolygiad ymarfer plant yn ei gyfanrwydd, a chymryd camau ar unwaith i ystyried sut mae pob thema ac argymhelliad yn berthnasol iddyn nhw, a nodi sut y gellir gweithredu'r themâu a'r argymhellion dysgu o fewn y meysydd y maen nhw'n gyfrifol amdanynt. Byddaf yn cysylltu ag uwch arweinwyr asiantaethau sydd â chyfrifoldeb wrth fwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad i ganfod eu cwrs gweithredu arfaethedig o ran eu hymateb i'r adolygiad ymarfer plant.

Mae gan Lywodraeth Cymru swyddogaeth strategol allweddol o ran amddiffyn plant, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed, ac rwy'n derbyn fy swyddogaeth i yn llwyr yn hynny o beth, fel Gweinidog. Yng ngoleuni'r adolygiad hwn ac yn dilyn adroddiad yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol a gwaith sydd eisoes ar y gweill o ran ein rhaglen i drawsnewid gwasanaethau plant a meysydd eraill, byddaf yn cyflymu gwaith ar fframwaith ymarfer cenedlaethol i helpu i lywio'r broses o wneud penderfyniadau gyda gwasanaethau plant. Bydd y fframwaith yn sylfaen allweddol ar gyfer ein dulliau o weithio yng Nghymru er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau i'n plant mwyaf agored i niwed. Fe fydd yn ein helpu ni i fod â mwy o gyffredinrwydd a gweithio mewn ffordd fwy di-dor ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol er mwyn cefnogi plant i aros gyda'u teuluoedd, a rhoi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw wrth i ni newid i addasu gwasanaethau ar gyfer pobl, ac nid addasu pobl ar gyfer gwasanaethau.

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru wedi cytuno i gynnal adolygiad cyflym o strwythurau a phrosesau sydd ar waith i lywio penderfyniadau ynghylch sut mae plentyn yn cael ei ychwanegu at neu ei dynnu oddi ar y gofrestr amddiffyn plant, ac fe fyddaf i'n gweithredu ar eu canfyddiadau nhw, yn ôl yr angen. Rwy'n ymwybodol o'r galwadau am ymchwiliad annibynnol i wasanaethau plant yng Nghymru. Gan fy mod wedi darllen yr adolygiad ymarfer plant erbyn hyn, rwyf i'n parhau i fod wedi fy argyhoeddi mai nawr yw'r amser i weithredu ac nid i adolygu ymhellach. Lluniwyd canfyddiadau ac argymhellion yr adolygiad ymarfer plant gydag ystyriaeth o adolygiadau eraill yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n rhaid i ni flaenoriaethu gwneud yr hyn a allwn ni nawr a pheidio ag aros am adroddiad arall i ddweud yr hyn yr ydym ni'n gwybod yn barod y mae'n rhaid i ni ei wneud.

I wella'r dull amlasiantaeth a amlinellais i heddiw, rwy'n dymuno atgoffa'r Aelodau ein bod ni ar gamau olaf datblygu'r adolygiad diogelu unedig sengl, a ddatblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid ledled Cymru. Datblygwyd yr adolygiad diogelu unedig sengl i leihau'r angen am nifer o adolygiadau oherwydd un digwyddiad unigol, gan alluogi cwblhau adolygiadau yn gyflymach, megis adolygiadau ymarfer plant ac oedolion, i nodi a gweithredu'r holl ddysgu ar fwy o gyflymder a hynny ym mhob cwr o Gymru. Fe fydd y canllawiau statudol drafft i gefnogi'r adolygiad diogelu unedig sengl yn destun ymarfer ymgynghori cyhoeddus, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dechrau'r flwyddyn newydd.

Er nad yw hi'n arfer arferol i ymateb i adolygiadau ymarfer plant, roeddwn i a fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o'r farn ei bod hi'n gwbl briodol cydnabod cyhoeddiad yr adolygiad hwn, ac fe hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ymddiheuro yn bersonol i Mr Ben Mwangi a'i deulu am y methiannau a gyfrannodd at farwolaeth drasig Logan mor ifanc. Diolch.