3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Davies Gareth Davies Conservative 3:01, 29 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Rwy'n diolch yn fawr iawn am eich datganiad chi'r prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, a diolch i chi am ddod i'w gyflwyno ar lawr y Senedd y prynhawn yma. Cyn i mi ddechrau prif neges fy ymateb i'ch datganiad chi, fe hoffwn i fynegi ar goedd y prynhawn yma fy nghydymdeimlad diffuant â Ben Mwangi, a theulu a ffrindiau Logan a'i holl rwydwaith cymdeithasol, sydd i gyd wedi cael eu heffeithio gan y llofruddiaeth ofnadwy a thrist iawn hon. Yn dad i fachgen ifanc o oedran tebyg, mae meddwl am y boen a'r dioddefaint y byddai ef wedi ei ddioddef yn fy nychryn i'r byw. Pa bynnag brosesau Llywodraeth ac awdurdod lleol y byddwn ni'n eu rhoi ar waith, ni wnaiff hynny fyth â lleihau'r anfadwaith hwn na ffieidd-dra'r bobl a gyflawnodd hyn dros gyfnod maith o gam-drin, esgeulustod ac, yn wir, llofruddiaeth hefyd. Ac rwy'n falch o weld bod y lefel briodol o gyfiawnder wedi ei rhoi iddyn nhw a'u bod nhw, yn wir, yn cael eu cadw hyd y mynno Ei Mawrhydi—hyd y mynno Ei Fawrhydi, fe ddylwn i ddweud.

Gallwn ni i gyd gytuno bod yr hyn a ddigwyddodd i Logan Mwangi yn drasiedi, na ddylai fyth fod wedi digwydd ac yn rhywbeth y dylem ni geisio sicrhau na fydd fyth yn digwydd eto. Roedd modd atal marwolaeth Logan pe byddai methiannau'r cyngor wedi cael eu nodi ar gam cynharach a phe cymerwyd camau eraill wedyn. Mae'r adroddiad ar achos Logan yn dangos bod cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi'r bai ar COVID am rai o'i ddiffygion ei hun, ochr yn ochr â gweithwyr cymdeithasol yn methu â dilyn canllawiau'r Llywodraeth oherwydd nad oedden nhw'n ddigon eglur nac ymatebol i sicrhau diogelu priodol ar gyfer plant agored i niwed, yn ystod pandemig COVID. Felly, a yw'r Dirprwy Weinidog yn derbyn, pe byddai'r cyfarpar diogelu personol cywir wedi bod ar gael iddyn nhw, yna fe fyddai staff gofal cymdeithasol wedi gallu asesu Logan 24 awr yn unig cyn ei farwolaeth? Ac a yw'r Dirprwy Weinidog yn nodi'r diffyg arweinyddiaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol ym Mhen-y-bont ar Ogwr i weld drwy'r celwyddau'r oedd y drwgweithredwr yn eu palu—mai COVID oedd y rheswm na ellid gweld Logan, i dynnu sylw oddi wrth sylwedd yr hyn a oedd yn digwydd mewn gwirionedd?

Fe wnaeth COVID effeithio ar bob gwasanaeth y mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr a Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu, ond mae'r methiant i uwchgyfeirio sefyllfa Logan, er gwaethaf y dystiolaeth sylweddol fod angen cefnogaeth arno, yn dangos bod prinder staff mewn adrannau yn profi'r pryderon fod y cyngor yn rhy ddibynnol ar weithwyr asiantaeth. Felly, a yw'r Dirprwy Weinidog yn cydnabod yr orddibyniaeth ar staff asiantaeth yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, a pha drafodaethau a gawsoch chi, neu a fyddwch chi'n eu cael yn y dyfodol gyda'r awdurdod i recriwtio gweithwyr llawn amser i'r adran gwasanaethau cymdeithasol?

Ac, yn ogystal â hynny, mae'r diffyg rhannu gwybodaeth wedi tynnu sylw at ddiwylliant o reolaeth dra awdurdodol, a oedd yn golygu nad oedd staff iau yn gallu herio penderfyniadau a wnaed gan staff uwch, fel mewn llawer o broffesiynau, fel profodd yr achos hwn. Ni ddylai staff fyth deimlo'n ofnus ac fe ddylen nhw deimlo eu bod nhw'n rhan o dîm a phob un yn cydweithio yn y broses honno o wneud penderfyniadau. Ac yn ogystal â hynny, bod yn rhaid i Gyngor Pen-y-bont ar Ogwr ddysgu gwersi sylweddol o argymhelliad yr adroddiad, mae hi'n amlwg bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddeddfu adolygiad ledled Cymru o wasanaethau plant i sicrhau na fydd hyn fyth yn digwydd eto. Mae angen arweinyddiaeth a Llywodraeth Cymru a'r Prif Weinidog sy'n gyfrifol am hynny, ac fe ddylen nhw sicrhau nad Cymru yw'r unig genedl ar ôl yn y DU heb adolygiad plant ledled y wlad.

Felly, a wnewch chi ailystyried eich penderfyniad chi i beidio â chynnal adolygiad ledled Cymru o wasanaethau plant, a rhoi gwarantau cadarn i bob plentyn, rhiant a gofalwr ar draws y 22 awdurdod fod y Llywodraeth hon yng Nghymru ar eu hochr nhw ac yn rhoi'r cyfle gorau i ni ddiogelu pob plentyn ledled Cymru, oherwydd mae'n anffodus bod Llywodraeth Cymru yn atal adolygiad o'r fath pan mai Cymru sydd â'r gyfradd uchaf yn y DU o blant yn derbyn gofal? Fe hoffwn i, yn olaf, annog y Llywodraeth i newid cyfeiriad cyn i ni beryglu trychineb arall eto fel un Logan Mwangi. Diolch i chi.