Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Mae coffáu cyhoeddus yn ganolog i'r ffordd rydym ni'n cynrychioli ein hanes, yn hyrwyddo ein gwerthoedd ac yn dathlu ein cymunedau. Ond weithiau, gall fod yn bwnc dadleuol, ac fe fydd yn ddiddordeb cyhoeddus sylweddol bob amser. Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod am gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar 'Coffáu cyhoeddus yng Nghymru: canllawiau i gyrff cyhoeddus'.