4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 3:52, 29 Tachwedd 2022

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch, Dirprwy Weinidog, am y datganiad heddiw. Hoffwn ategu'r pwyntiau rydych chi wedi sôn amdanyn nhw yn barod am y bobl sydd ddim yn cael eu coffáu hyd yma. Yn sicr mae yna lefydd sydd heb eu coffáu hefyd. Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar y cyd-destun ehangach i sicrhau bod unrhyw beth sydd gennym ni yn adlewyrchu'r Gymru gyfoes. Wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi bod yn croesawu'r cerflun diweddaraf yn ein prifddinas, sef yr un o Betty Campbell. Mae'n anhygoel gweld sut mae hwnna'n gallu ysgogi plant ysgol ac ati i ddeall beth sy'n digwydd heddiw ac i drafod heddiw ynghyd â dathlu beth oedd Betty ei hun wedi'i gyflawni. Hoffwn hefyd ategu sylwadau Tom Giffard am eich Cymraeg chi ar ddechrau'r datganiad hefyd. Mae'n braf iawn clywed mwy o Aelodau yn ceisio'r Gymraeg yma.

Fel rydych chi'n gwybod, Dirprwy Weinidog, mi oeddwn i'n arfer gweithio i Amgueddfa Cymru, ac yn aml yn pasio'r llun o Thomas Picton. Jest llun ar y wal oedd o i fi. Ond pan ddaeth Black Lives Matter fel ymgyrch, des i i ddeall wedyn, oherwydd fy mraint fel person gwyn, doeddwn i ddim yn ymwybodol o hanes problematig y llun. A beth dwi'n meddwl sydd wedi cael ei groesawu ydy'r drafodaeth yna, ein bod ni yn dod i ddeall beth mae hynny'n ei olygu, a beth mae o'n ei olygu i bobl sydd efo profiadau gwahanol iawn i ni. Yn sicr, un o'r pethau dwi'n meddwl dwi'n falch iawn o weld yn sgil y gwaith hwn ydy ei fod o ddim yn rhywbeth sydd wedi bod yn hollol reactive. Mae yna waith dros ddwy flynedd a mwy wedi bod er mwyn creu y pwynt rydyn ni wedi'i gyrraedd heddiw, fel ein bod ni rŵan efo rhywbeth fydd yn ddefnyddiol, gobeithio, i gyrff cyhoeddus sydd yn derbyn arian cyhoeddus, a'u bod nhw felly yn cymryd o ddifri safbwyntiau pawb yn y gymdeithas.

Dwi hefyd yn meddwl ei bod hi'n bwysig inni gydnabod fel Senedd bod pawb ddim yn hapus efo hyn. Os ydych chi'n edrych ar rai o'r sylwadau sydd wedi eu cyfeirio at Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ers iddyn nhw ddechrau'r gwaith o ran Thomas Picton, dydy pawb ddim yn gytûn efo'r ffaith bod yna unrhyw fath o drafod ar hyn, bod yna ailddehongli, chwaith. Ac mae'n gallu bod yn garfan cryf ar y cyfryngau cymdeithasol. Dwi ddim yn awgrymu bod unrhyw un yn eu dilyn nhw, ond os ydych chi eisiau gwneud eich hun yn flin, mae Save Our Statues ar Twitter yn dangos yn glir eu bod nhw ddim yn cytuno efo'r math yma o safbwynt, efo'r ailddehonglu, o gwbl. Dwi'n gwybod eich bod chi wedi sôn ynglŷn â sut mae hyn yn mynd i helpu sefydliadau i ystyried sut maen nhw'n mynd ati efo'r gwaith, ond dwi'n meddwl bod yn rhaid inni fod yn onest bod y gwaith yma'n mynd i fod yn ddadleuol weithiau, a bod hynny'n iawn, a bod ein sefydliadau cyhoeddus ni'n mynd i gael cefnogaeth y Llywodraeth, a fy nghefnogaeth i, yn sicr, a Phlaid Cymru, o ran ymwneud â'r gwaith hwn, a'i bod hi'n iawn ein bod ni'n cael trafodaethau anodd, oherwydd dydy hanes ddim wastad yn hawdd.

Dwi'n cytuno ein bod ni ddim eisiau anghofio'n hanes, ond mae cael trafodaethau fel hyn—. Os ydyn ni o ddifrif eisiau bod yn Gymru wrth-hiliol a'n bod ni o ddifrif eisiau gweld hynny, mi fydd yna angytuno, a dydyn ni ddim wastad yn mynd i allu gwrando ar leisiau'r mwyafrif os mai lleisiau gwyn ydy'r lleisiau hynny. Ac yn sicr, o ran gweld ymatebion fel hyn, dwi'n meddwl mai un o'r pethau fydd yn bwysig iawn o ran yr ymgynghoriad yw ein bod ni'n gweld pwy sy'n ymateb ac, os oes gwrthwynebiad, o ba safbwynt mae'r gwrthwynebiad yna'n dod. Mae fy nghyn-brifysgol yn Iwerddon yn edrych ar y funud o ran ailenwi'r llyfrgell sydd yna oherwydd cysylltiadau problematig efo'r gorffennol, ac yn sicr mae yna anogaeth gan bobl fel yr ymgyrch Save Our Statues i bobl bentyrru o ran rhoi ymatebion i'r ymgynghoriad hwnnw fel bod safbwyntiau pobl gwyn yn cael eu rhoi drosodd yn glir. Mae'n rhaid inni fod yn sicr ein bod ni'n gwrando ar y rhai hynny sydd ddim wedi bod yn cael rhan yn y ddeialog hyd yma ac sydd wedi bod yn bwysig o ran y gwaith hwn. 

Dwi hefyd yn croesawu'r ffaith bod hon yn ffordd wahanol iawn i Lywodraeth Prydain o ran edrych ar y mater, ein bod ni yn rhoi'r anogaeth hynny i awdurdodau lleol a'n cyrff cyhoeddus ni i fynd ati efo'r gwaith gwrth-hiliol hwn. Yr hyn yr hoffwn ofyn ydy: rydych chi wedi dweud bod hwn ddim yn orfodol, sydd yn amlwg yn beth da, ein bod ni'n annog, ond beth sy'n digwydd os nad ydy pobl yn dilyn unrhyw fath o ganllawiau a ddim yn mynd ati i ymgysylltu? Hefyd, y mater o ran arian i gefnogi'r gwaith hwn. Yn aml, mewn amgueddfeydd lleol ac ati, bach iawn ydy'r nifer o staff sydd efallai yn gweithio yn y maes ymgysylltu ac ati. Pa gefnogaeth fydd yn cael ei roi iddyn nhw fel eu bod nhw, fel y mae Amgueddfa Cymru wedi dangos, hefyd yn gallu gwneud y gwaith ymgysylltu sydd ei angen efo'r math yma o bethau?

Dwi'n edrych ymlaen at weld beth ddaw nôl o'r ymgynghoriad, ond yn sicr yn croesawu'r symudiad hwn tuag at sicrhau ein bod ni yn taclo hanes problematig, ein bod ni'n gweithio yn sicr gyda'n gilydd er mwyn creu Cymru wrth-hiliol, a sicrhau bod hanes pawb yn cael ei adlewyrchu a'i gofio.