7. Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:28 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 4:28, 29 Tachwedd 2022

Dwi wedi codi'r angen am sefydlu grŵp ymgynghorol sawl gwaith bellach, ac roeddwn i'n falch fod y grŵp ymgynghorol newydd wedi cyfarfod nôl ym mis Gorffennaf. Dwi hefyd wedi codi'r angen i sefydlu cynllun ariannu nifer o weithiau bellach. Felly, dwi'n falch fod y grŵp ymgynghorol wedi nodi'r cynllun ariannu pysgodfeydd fel blaenoriaeth, ac rydym ni wedi aros yn rhy hir yn barod am y datganiad yma heddiw, ond mae cael datganiad a chynllun i'w groesawu. Ond mae arnaf ofn nad ydy'r rheoliadau sydd yn cael eu cynnig, o leiaf ar yr wyneb, o'n blaen ni heddiw yn cyrraedd y disgwyliadau, ac ddim yn cyrraedd yr hyn roedd gennym yn flaenorol o dan y cynllun European maritime and fisheries fund, na'r cynllun pysgodfeydd a physgod cregyn cyfatebol sydd yn Lloegr.