Part of the debate – Senedd Cymru am 4:29 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Disgrifir rheoliadau heddiw ynghylch cyllid ar gyfer pysgodfeydd fel rhai i gymryd lle'r EMFF sef cronfa’r môr a physgodfeydd Ewrop a oedd yn rhaglen ariannu wedi'i thargedu. Felly, a yw'r Gweinidog wedi ei argyhoeddi bod cynllun môr a physgodfeydd Cymru yn gwneud yr un ymyriadau wedi'u targedu i gefnogi busnesau pysgota, bwyd môr a dyframaethu yng Nghymru? Rydym eisoes bron i flwyddyn y tu ôl i'r gwledydd eraill a rhannau cyfansoddol y DU o ran cyflwyno cynllun ariannu newydd, sydd wedi rhoi pysgotwyr Cymru dan anfantais o'u cymharu â busnesau mewn mannau eraill, ac mae pryderon nad yw'r cynllun cyllido yma yn adlewyrchu'r mesurau ymyrraeth wedi'i dargedu angenrheidiol sydd eu hangen er mwyn cyflawni ein dyletswyddau statudol. Yr hyn sy'n arbennig o bryderus i'r sector yw bod y cynlluniau hyn dim ond yn cynnig arian refeniw, sy'n cyfyngu'n ddifrifol ar allu pysgotwyr i ddatblygu eu busnesau ac, yn wir, i ganiatáu i'r sector gyrraedd sero net. Mae'n siomedig hefyd deall y bydd yr arian yn cael ei dalu'n ôl-weithredol i bysgotwyr, sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn ariannol. A yw'n realistig disgwyl i ymgeiswyr wneud taliadau, er enghraifft, cael y trefniadau ariannol ar waith i ariannu prosiect yn llawn hyd yr hawliad terfynol, cyn y gellir adennill y ganran gyfradd ymyrraeth berthnasol?
Mae'r memorandwm esboniadol yn dweud wrthym nad oes ymgynghoriad wedi'i gynnal ac mae'n cyfeirio yn hytrach at 'Brexit a'n Moroedd'. Siawns na ddylid fod wedi ymgynghori â nhw am gyhoeddiad mor bwysig i'r sector hwn. Cafodd 'Brexit a'n Moroedd' ei gyhoeddi yn 2019. Ers hynny, rydym wedi cael COVID, cytundeb masnach amheus, etholiad cyffredinol Cymru, tri Phrif Weinidog a phedwar Canghellor. Mae'r byd yn lle gwahanol heddiw. Dylai pysgotwyr yng Nghymru fod yn ganolog wrth ddatblygu polisi mor bwysig.
Roedd yr EMFF blaenorol yn feichus ac yn anodd eu llywio, a arweiniodd at ddefnydd isel gan bysgotwyr yng Nghymru. Dyma gyfle i symleiddio'r broses, fodd bynnag, mae'n ymddangos i mi fod y cyfle hwn wedi'i golli, sy'n siom arall. A all y Gweinidog ein sicrhau felly, wrth i hyn fynd yn ei flaen, y bydd gwersi'n cael eu dysgu i wneud y broses ymgeisio'n haws? A pha lefel o gefnogaeth fyddwch chi'n ei roi ar waith i helpu, cynghori a chynorthwyo ymgeiswyr?
Yn wahanol i gynllun yr EMFF, mae Llywodraeth Cymru wedi ehangu cynllun morol a physgodfeydd Cymru i gynnwys morol, pysgodfeydd a dyframaethu. Faint, felly, o'r gyllideb gyffredinol sy'n cael ei dyrannu i bob sector, a sut fydd symiau o'r fath yn cael eu gwerthuso a'u mesur? Sut creffir ar symud arian heb ei ymrwymo o un sector i'r llall a sut bydd yn cael ei gymeradwyo?
Yn olaf, o ystyried y cytundeb diweddar a chyhoeddi'r datganiad ar y cyd ar gyfer pysgodfeydd, a all y Gweinidog gadarnhau y bydd cynllun morol a physgodfeydd Cymru yn cyflawni amcanion strategol Cymru ar gyfer pysgotwyr a dyframaethu? Oherwydd y materion hyn, rydym ar hyn o bryd yn ystyried pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn a byddem yn dymuno i'r materion hyn gael eu datrys cyn i reoliadau ddod i rym a bod ymgynghoriad llawn gyda'r sector, ond mae ein safbwynt yn ddibynnol, wrth gwrs, ar ymateb y Gweinidog. Diolch yn fawr iawn.