Part of the debate – Senedd Cymru am 4:54 pm ar 29 Tachwedd 2022.
Diolch yn fawr, Sioned Williams, a diolch i chi am daflu'r goleuni hwn ar y cyd-destun rhyngwladol, y cyd-destun byd-eang hwnnw o'r biliwn o bobl anabl ar draws y byd. Diolch am ganolbwyntio ar yr elfen ryngwladol honno, fel cenedl sy'n edrych tuag allan, ac yn wir, ennyn diddordeb ar draws y byd. Ac rwy'n credu bod tystiolaeth Disability Rights UK hefyd yn bwysig iawn o ran y sefyllfa yn Qatar a chwpan y byd. Oes, mae gennym gyfrifoldeb gwirioneddol nawr i'w ddatblygu. Byddaf yn trafod hyn gyda'r Gweinidog Economi ar ôl iddo ddychwelyd o ran y materion sydd wedi'u hamlygu. Mae hynny'n bwysig iawn, ac rwy'n siŵr y bydd cymaint o'r cyfrifoldeb a diddordeb ac ymgysylltiad y Cymry sydd allan yna nawr yn cael eu cyflwyno yn ôl i ni ac mi fyddwn ni'n cymryd rhan yn y ffordd yna.
Diolch, hefyd, am gydnabod ei bod yn dda bod hyn yn rhan o'n cytundeb cydweithredu, ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau bod y tasglu hawliau anabledd yn cyflawni. Rwy'n credu pan oedd pobl anabl yn teimlo eu bod wedi cael eu hynysu, nid oedd yn cael ei gydnabod yn llawn sut y cafodd COVID effaith arnyn nhw. Dyna pam y gwnaethom gomisiynu'r adroddiad hwn a dyna pam y mae'n bwysig ein bod yn cyflawni'r adroddiad hwnnw, yn debyg iawn i'r 'Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol'—bod hyn yn ymwneud â gweithredu, gweithredu argymhellion, cyd-gynhyrchu ac ymgysylltu â phobl anabl i wneud hynny yng Nghymru. Yr ymateb a gawsom yng nghyfarfod ein tasglu diwethaf gan bobl anabl oedd eu bod, oeddent, yn gweld bod newid, ein bod yn sicrhau bod ein holl swyddogion a'n holl gyrff cyhoeddus yn deall beth mae'n ei olygu i fod yn anabl oherwydd cymdeithas, a bod yn rhaid i ni gael gwared ar y rhwystrau hynny.
Wrth gwrs, nawr mae pwysau ychwanegol penodol ar bobl anabl o ganlyniad i'r argyfwng costau byw, felly rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth pan fyddwn ni—. Er enghraifft, mae cyfleoedd wedi bod i ehangu cyrhaeddiad ein cynllun cymorth tanwydd gaeaf, felly rydym yn estyn allan at bobl anabl, hefyd. Mae pobl sydd ar daliadau annibyniaeth bersonol a budd-daliadau anabledd wedi'u cynnwys yn ein cymorth tanwydd gaeaf, wedi'u cynnwys yn y cymhwysedd ehangach, ac mae hynny hefyd o ran lwfans gweini a lwfans gofalwyr, hefyd. Rydym ni'n edrych ar yr holl ddulliau eraill, ffyrdd a liferi yr ydym ni'n eu defnyddio i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed, y rhai sydd fwyaf difreintiedig. Unwaith eto, mae ein cronfa cymorth dewisol, sy'n ei gwneud yn fwy hyblyg i gael cymorth brys. Mae hynny'n cynnwys, yn amlwg, estyn allan at bobl nad ydyn nhw ar y grid. Fe fydd hyn yn cynnwys pobl anabl drwy Gymru gyfan ym mhob cymuned; mae angen i ni estyn allan atyn nhw.
Rwy'n credu, hefyd, dim ond i gydnabod mai dyma pryd, o ran yr argyfwng costau byw, yr ydym yn siarad drwy'r fforwm cydraddoldeb anabledd beth mae'n ei olygu i bobl anabl, sut allwn ni gefnogi, a beth yw'r ymatebion gorau. Rydym wedi trafod hyn hefyd yng nghyngor partneriaeth y trydydd sector. Mae cydnabyddiaeth bod angen gwres ychwanegol ar gyfer pobl anabl, o ran cadw'r tymheredd yn sefydlog, angen defnyddio mwy o danwydd. Mae plant anabl a phobl ifanc yn aml mewn addysg arbenigol, lleoliadau seibiant, gydag apwyntiadau meddygol amlach, mynediad at drafnidiaeth—mae'r holl bethau hyn yn hanfodol o ran y ffordd rydym ni'n symud hyn ymlaen.
Mae'n bwysig iawn, fel y dywedais, bod pobl anabl ac aelodau fforwm cydraddoldeb anabledd yn weithgar yn ein grŵp cynghori ar hawliau dynol yr ydym wedi'i sefydlu. Rydych chi'n gwybod ein bod wedi ymrwymo o ran confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl. Rydym wedi ymrwymo i ymgorffori confensiwn y Cenhedloedd Unedig, yn wir, nifer o gonfensiynau'r Cenhedloedd Unedig hynny, yng nghyfraith Cymru. Rydym wedi sefydlu grŵp cynghori ar hawliau dynol i ystyried hyn, gan gynnwys hawliau pobl hŷn hefyd, yn ogystal â'r Confensiwn ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod a dileu pob math o wahaniaethu ar sail hil. Ond erbyn hyn mae gennym grŵp cynghori sy'n cynnwys y bobl anabl hynny sydd—. Mae'n weithgor bach fel is-bwyllgor o'r grŵp cynghori ar hawliau dynol. Rydym ni'n bwriadu archwilio dewisiadau deddfwriaethol i gyflawni ein rhaglen, ond hefyd, rydym ni'n adolygu, sy'n bwysig yn fy marn i nawr a sut mae pobl yn byw nawr, gyda'r pwerau sydd gennym ni—. Rydym yn edrych ar adolygiad o'n dyletswydd cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus yng Nghymru o ran adolygu'r rheoliadau y gwnaethom eu cyflwyno yn 2011.