8. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 29 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Sioned Williams Sioned Williams Plaid Cymru 4:49, 29 Tachwedd 2022

Diolch am y datganiad, Weinidog. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae biliwn o bobl, neu 15 y cant o boblogaeth y byd, â rhyw fath o anabledd. Mae nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl nid yn unig yn gyfle i sicrhau ein bod yn cofio pwysigrwydd sicrhau tegwch a chyfle cyfartal i bobl anabl yma yng Nghymru, ond hefyd i'r biliwn o bobl ar draws y byd sy'n wynebu anghydraddoldebau ac anghyfiawnder o bob math o ddydd i ddydd. Dwi eisiau inni ddal ymlaen i'r elfen ryngwladol yna, a hefyd ddal ymlaen i'r ffaith bod yna fwlch, yn aml, rhwng profiadau pobl anabl a datganiadau'r rhai sydd mewn grym.

Mae'n rhaid sôn, â llygaid Cymru ar Qatar heddiw, a'n Gweinidog economi yno, am genhedloedd sydd ddim yn cydnabod anableddau yn gywir, ac felly ddim yn cefnogi pobl anabl yn ddigonol er gwaetha eu datganiadau am bolisïau blaengar—y bwlch yna eto rhwng rhethreg Llywodraethau a phrofiadau pobl anabl eu hunain. Mae Disability Rights UK, er enghraifft, wedi cwestiynu agwedd Qatar tuag at eu dinasyddion anabl, gan eu bod yn honni mai dim ond 0.5 y cant o'i phoblogaeth sydd yn anabl, sydd yn anghyson iawn â'r norm rhyngwladol o rhwng 15 i 25 y cant. A dywed Disability Rights UK mai haint a ffactorau genetig sy'n gyfrifol yn bennaf am anableddau yn ôl gwefan Llywodraeth Qatar, tra mai anafiadau sy'n achosi rhwng traean a 50 y cant o anableddau fel arfer.

Rŷn ni wedi clywed Llywodraeth Qatar heddiw yn cydnabod bod cannoedd o bobl wedi marw wrth wneud y gwaith adeiladu ar gyfer y cwpan byd hwn. Yna mae'n sicr, medd Disability Rights UK, bod yna filoedd yn fwy wedi dioddef anafiadau yn ystod y gwaith yma a fyddai wedi achosi anableddau. Mae eu tynged a'u hanghenion nhw yn gudd, tra bod yr hyn sydd yng ngolwg y byd yn sgleiniog, gyda'r cyfleusterau ar gyfer cefnogwyr anabl yn y cwpan byd hwn gyda'r gorau a fu erioed yn hanes y gystadleuaeth, sydd i'w groesawu wrth gwrs, ond clywed lleisiau pobl anabl a chydnabod eu profiad sy'n hollbwysig yn Qatar, fel yma yng Nghymru. Nid diffyg mynediad llythrennol yn unig i adeiladau ac yn blaen—er bod, wrth gwrs, angen edrych ar hynny—ond gwerthoedd cymdeithas, polisïau cymdeithasol ac economaidd sy'n cau pobl mas ac yn creu anghydraddoldeb a diffyg cyfleon i gyflawni potensial.

Mae Gweinidog yr Economi wedi datgan y bore yma bod y cysylltiadau rhwng Cymru a Qatar i gael eu datblygu. Os ydym o ddifri am yr ymrwymiad yn ein Deddf cenedlaethau'r dyfodol i fod yn genedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang a chyfrannu'n gadarnhaol at lesiant byd-eang, ydych chi'n cytuno, Weinidog, bod rhaid i ni ddwysystyried y math o wledydd rydym yn creu perthynas economaidd gyda nhw, os yw'n geiriau a'n dyheadau yn cyd-fynd gyda'n gweithredoedd? Ydych chi wedi cael sgwrs gyda'ch cyd-Weinidog am hynny, Weinidog?

Mae Plaid Cymru, fel gwnaethoch chi sôn, yn hynod falch o'r ymrwymiad yn ein cytundeb cydweithio gyda'r Llywodraeth i gryfhau hawliau pobl anabl yng Nghymru a mynd i'r afael â'r anghydraddoldebau y maent yn parhau i'w hwynebu, ac i sicrhau llwyddiant y tasglu hawliau anabledd a sefydlwyd i ymateb i'r adroddiad 'Drws ar Glo'. Roedd yr adroddiad hwnnw yn dangos yn glir bod hawliau, lles ac urddas pobl anabl, hyd yn oed mewn cenedl fel Cymru, yn llawer rhy fregus, ac ar gyfnod o argyfwng, yn aml yn cael eu hesgeuluso neu eu gadael ar ôl. Nawr, fel y sonioch chi, mae'r argyfwng costau byw a'r argyfwng economaidd yn taro pobl anabl yn galetach. Felly, hoffwn ofyn, Weinidog: sut yn benodol mae gwaith y tasglu yn sicrhau nad yw'r drws ar glo yn ystod yr argyfwng economaidd yma?

Rhywbeth arall byddwn i'n hoffi deall yw: gwnaethoch chi sôn hefyd am bwysigrwydd cyfraith a hawliau dynol rhyngwladol yn hyn o beth, felly a fyddai'n bosib cael rhyw fath o amserlen neu amserlun ar gyfer mewngorfforiaethu confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau pobl anabl, rhywbeth sydd wrth gwrs wedi cael ei addo yn y rhaglen ar gyfer Llywodraeth Cymru? Diolch yn fawr.