Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch, Weinidog. Ym mis Mawrth 2020, nododd Llywodraeth Cymru fod cyfanswm holl gronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yn £1.5 biliwn, ac roeddent wedi cynyddu 42 y cant i £2.13 biliwn erbyn mis Mawrth 2021. I roi hyn yn ei gyd-destun, yn y flwyddyn ariannol hon, roedd y grant cynnal refeniw a ddyrannwyd gennych i awdurdodau lleol yn £3.9 biliwn. Rwy’n derbyn bod angen i awdurdodau lleol gadw arian wrth gefn ac nad yw sut y gellir defnyddio’r cronfeydd wrth gefn hynny'n fater syml, ond wrth ichi drafod y sefyllfa ariannol gyffredinol gydag awdurdodau lleol dros y mis nesaf, a wnewch chi roi sicrwydd i’r Senedd na fydd symiau mawr o arian yn eistedd yng nghyfrifon banc awdurdodau lleol tra bod arweinwyr cynghorau, ar yr un pryd, yn cwyno am y diffyg arian i ddarparu gwasanaethau hanfodol? Diolch.