Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Cyfeiriaf yr Aelod at fy ateb gwreiddiol, sy’n rhoi sicrwydd i gyd-Aelodau o'r Senedd fy mod yn trafod cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol gyda hwy yn rheolaidd fel rhan o’n trafodaethau cyffredinol mewn perthynas â chyllid. Ond hoffwn ddweud yn glir iawn hefyd fod yr hyn a nodir yn y mecanwaith adrodd blynyddol yn cynrychioli un diwrnod o'r flwyddyn yn unig—diwedd y flwyddyn ariannol; nid yw'n adlewyrchu newidiadau i fyny ac i lawr o fewn y flwyddyn. Ac wrth gwrs, mater i'r aelodau etholedig lleol unigol yw lefel y cronfeydd wrth gefn, a byddant yn adlewyrchu'r cynlluniau mwy hirdymor sydd gan yr awdurdodau hynny yn ogystal â rheoli'r pwysau tymor byr, ac mae digon o'r pwysau tymor byr hynny ar hyn o bryd.
A chredaf fod angen i ni hefyd ystyried cronfeydd wrth gefn awdurdodau lleol yng nghyd-destun ehangach cyllideb gyffredinol llywodraeth leol. Ar lefel Cymru gyfan, y dehongliad ehangaf o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio yw 26 y cant o gyfanswm y gwariant blynyddol. Felly, dyna ddarpariaeth tri mis ar gyfer holl gostau llywodraeth leol. Ni fyddai cronfeydd wrth gefn cyffredinol neu gronfeydd wrth gefn heb eu dyrannu ond yn darparu ar gyfer 10 diwrnod. Felly, er bod cronfeydd wrth gefn awdurdodau yn uwch nag y maent fel arfer, credaf eu bod yn dal i gydnabod bod llawer iawn o alw am y cronfeydd wrth gefn hynny. Fel y dywedaf, mae awdurdodau eisoes yn defnyddio rhai ohonynt i reoli pwysau eithafol yr argyfwng costau byw ac effaith chwyddiant ar awdurdodau lleol, ac rwy'n disgwyl y byddent yn bwriadu gwneud hynny y flwyddyn nesaf hefyd. Felly, hoffwn roi sicrwydd i'm cyd-Aelodau fod gennyf hyder fod ein cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol yn ystyried y defnydd o gronfeydd wrth gefn mewn ffordd briodol, a chydnabod hefyd fod lefel y cronfeydd wrth gefn eleni yn cydnabod, ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol, imi ddyrannu £50 miliwn yn ychwanegol i awdurdodau lleol, gan gofio, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw a’r sefyllfa yn Wcráin, ein bod wedi cydnabod, oherwydd yr adolygiad o wariant tair blynedd, y byddai blynyddoedd 2 a 3 yn anos. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny’n rhoi awdurdodau mewn gwell sefyllfa nag y byddent ynddi fel arall i reoli’r pwysau y flwyddyn nesaf. Ond wedi dweud hynny, fe fyddwch wedi gweld bod awdurdodau lleol yn dweud wrthym eu bod eisoes yn disgwyl gweld bwlch o gannoedd o filiynau o bunnoedd yn y cyllid, sy'n amlwg yn bryder iddynt hwy ac i ninnau.