Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Weinidog, yn yr ateb parod rydych newydd ei roi, fe wnaethoch alw ar y Canghellor i fuddsoddi mewn pobl a gwasanaethau cyhoeddus. Wel, rwy'n credu y gallwn alw arnoch chi i wneud yr un peth. Rydych wedi cael £1.2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU, ar ben y setliad mwyaf erioed a oedd yn bodoli eisoes. Felly, faint y gall llywodraeth leol ei ddisgwyl? Gwyddom fod buddsoddi mewn gofal cymdeithasol yn arwain at well canlyniadau iechyd, at arbedion yn y GIG. Felly, efallai y gallwch ein goleuo heddiw ynglŷn â faint y gall llywodraeth leol ei ddisgwyl o’r arian annisgwyl gwych hwn?