Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 1:41, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn goleuo’r Aelod ar 13 Rhagfyr, Lywydd, pan fyddaf yn cyhoeddi’r gyllideb ddrafft. Nid oes llawer i aros tan hynny, ond mae llawer o waith y mae angen ei wneud yn gyflym rhwng nawr a'r adeg honno. Ond ar 13 Rhagfyr, byddwn yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ochr yn ochr â'r gyfres gyfan honno o wybodaeth rydym bob amser yn ei chyhoeddi—adroddiad y prif economegydd, ein naratif sy'n cyd-fynd â'r ddogfen, a rhywfaint o'n dadansoddiadau eraill hefyd. Rydym bob amser yn ceisio cyhoeddi cymaint o wybodaeth mewn cymaint o fanylder ag y gallwn.