Trothwyon Treth Incwm

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:21, 30 Tachwedd 2022

Diolch ichi am hynny. Wrth gwrs, mae e wedi'i ddatganoli i'r Alban, onid yw e? Mae hynny'n caniatáu iddyn nhw greu trothwyon sydd yn adlewyrchu'n well broffil talwyr treth incwm yn yr Alban. Ac os edrychwch chi ar broffil talwyr treth incwm yng Nghymru, wrth gwrs, mae'r mwyafrif llethol ohonyn nhw yn y band sylfaenol, sy'n wahanol, wrth gwrs, os ydych chi’n edrych ar y ffigurau, i weddill y Deyrnas Unedig, o safbwynt y ratio trethdalwyr, sy'n golygu wedyn, wrth gwrs, bod cael ein gorfodi i fabwysiadu trothwyon San Steffan yn golygu bod e ddim yn adlewyrchu yr angen a'r sefyllfa yng Nghymru. Mae e, felly, yn fwy regressive nag y dylai fe fod, ac felly dwi eisiau neges glir eich bod chi'n awyddus iddo fe gael ei ddatganoli fel bod modd creu trothwyon mwy progressive, mwy adlewyrchiadol o sefyllfa incymau yma yng Nghymru. A gaf i ofyn a ydych chi fel Llywodraeth wedi ystyried gwneud rhyw ymchwil neu ryw fath o fodelu i weld beth fyddai’r opsiynau posib fel rhan o greu yr achos ar gyfer datganoli'r maes yma?