Trothwyon Treth Incwm

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:22, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Roeddwn yn falch o weld yr Aelod yn ein cynhadledd drethi, a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf. Rwy'n gobeithio iddo ei mwynhau gymaint ag y gwnes i. Roedd un o'r sesiynau a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr o'r Alban a Gogledd Iwerddon yn ddiddorol iawn, lle roeddent yn ystyried gwahanol risgiau a chyfleoedd y gwahanol fframweithiau cyllidol sydd gennym.

Byddai datganoli'r trothwyon yn ein galluogi i gael mwy o hyblygrwydd o ran polisïau, a byddai'n ein galluogi i bennu ein dull ein hunain o ymdrin â chyfraddau treth incwm Cymreig mewn ffordd wahanol, gan gydnabod dosbarthiad incwm yng Nghymru a phwysigrwydd system fwy blaengar, lle mae'r rhai sy'n gallu fforddio talu mwy o dreth yn gwneud hynny. Fodd bynnag, byddai'n anodd datganoli'r trothwyon heb ddatganoli'r sylfaen dreth gyfan. Rwy'n credu y byddai hynny wedyn, o bosibl, yn ein gwneud yn llawer mwy agored i risg drwy refeniw a'r addasiad cysylltiedig i'r grant bloc. Rwy'n credu bod angen inni fod yn ofalus iawn fod gennym y capasiti a'r hyblygrwydd i reoli'r mathau hynny o risgiau. Nid oes ond rhaid inni edrych ar y profiad yn yr Alban i weld y gall bod yn agored i'r sylfaen dreth gyfan arwain at rai problemau cyllidebol mewn gwirionedd. Cofiwch am y twll du y buom yn sôn amdano ychydig flynyddoedd yn ôl pan oedd y cysoni'n digwydd mewn perthynas â'r derbyniadau treth rhagamcanol a beth a dderbyniwyd mewn gwirionedd? Felly, mae yna risgiau posibl.

Wedi dweud hynny, mae'n wir fod ein sylfaen dreth yn wahanol i un Lloegr. Mae gennym gyfran uwch o drethdalwyr y gyfradd sylfaenol. Mae cyflogau'n is yma yng Nghymru hefyd. Ar gyfer gweithwyr amser llawn, y cyflog wythnosol canolrifol ym mis Ebrill 2022 oedd 94 y cant o gyfartaledd y DU. Rwy'n credu y byddai angen inni ystyried yr holl ffactorau hynny mewn perthynas â'r awgrym i ddatganoli'r trothwyon, oherwydd byddai cryn risgiau yn dod ochr yn ochr â hynny. Hefyd, fel y dywedais yn y gynhadledd drethi, mae datganoli cyfraddau treth incwm Cymreig yn beth eithaf newydd. Nid ydym ond wedi bod yn ei chasglu ers blwyddyn neu ddwy. Rwy'n credu y byddai'n synhwyrol inni adael iddo ymwreiddio wrth inni archwilio sut fyddai pethau yn y dyfodol, ac mae edrych ar hynny yn rhan o rôl y comisiwn.