Part of the debate – Senedd Cymru am 7:02 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn rhannu sicrwydd Peter Fox. Rwy'n bryderus wrth weld yr elfen 'cyfreithiol ond niweidiol' yn cael ei dileu. Yr hyn sy'n fy mhryderu i fwyaf yw'r oedi a fu. Rwy'n credu ei bod o fudd i bawb ohonom sicrhau bod pwysau'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU i gyflawni hyn cyn gynted â phosibl.