11. Dadl Fer: Rhwyd ddiogelwch i blant: Gwarchod hawl plant i fod yn ddiogel ar-lein

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:03 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 7:03, 30 Tachwedd 2022

Mae NSPCC Cymru wedi bod yn glir y bydd 200 a mwy o blant yn dioddef cam-drin rhywiol ar-lein ym mhob mis y mae’r Bil Diogelwch Ar-lein yn cael ei ohirio. Mae pethau'n newid mor gyflym yn y maes hwn, ac mae'n amhosib i ni ddiogelu plant yn llwyr, ond dwi yn pryderu'n fawr o weld y newidiadau, gyda Twitter rŵan hefyd yn diswyddo staff sydd wedi bod yn gweithio'n benodol yn y maes hwn. Rydym ni'n gallu gweld efo unrhyw blatfform fod newidiadau'n gallu digwydd yn gyflym. Felly, wrth gwrs, mae yna elfen gref i ni o ran Llywodraeth Cymru i edrych ar oblygiadau a'r pethau rydym ni eisiau eu gweld ac yn gallu eu cefnogi yma yng Nghymru, ond mae yna ddyletswydd ar Lywodraeth Prydain i ddod â'r Mesur hwn, i ailystyried yr elfennau fyddai yn cryfhau a diogelu plant, ac mae angen gwneud hynny ar fyrder, oherwydd mae'r ystadegau'n dangos i ni'n glir fod hyn yn cael effaith ar blant a phobl ifanc. Rhaid gweithredu rŵan.