Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch. Mae'n hynod bwysig fod y cynllun ffermio cynaliadwy yn gweithio i bob ffermwr ar bob math o fferm ym mhob rhan o Gymru. Felly, rydym wedi sefydlu hanner dwsin o weithgorau i edrych ar feysydd penodol. Mae ffermwyr tenant yn un maes, ac mae ffermwyr tir comin yn un arall. Mae'r ddau fath yn rhannau pwysig iawn o'r sector amaethyddol yma yng Nghymru. Gwyddom fod tir comin yn bwysig ar gyfer manteision amgylcheddol, er enghraifft, megis bioamrywiaeth a rheoli dŵr, ac mae'n bwysig i'r nifer fawr o ffermwyr sy'n dibynnu arno ar gyfer porthiant hefyd. Fe fyddwch yn gwybod ein bod newydd ddod i ddiwedd y gwaith o gyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Byddwn yn edrych ar yr ymatebion a gawsom a'r trafodaethau a gawsom cyn inni gynnal yr ymgynghoriad terfynol. Ond yn amlwg bydd yr allbynnau o'r gweithgorau rwyf newydd eu crybwyll yn cael eu cynnwys gyda'r holl ymatebion a gawsom i'r allbwn cyd-gynllunio, ynghyd â datblygiad polisi parhaus.