Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Rwy'n cefnogi ymdrechion i sefydlu cyfres o gamau gweithredu ar gyfer holl ffermwyr Cymru yn gyfnewid am daliadau sylfaenol cyffredinol blynyddol a fydd yn hyrwyddo bioamrywiaeth ac yn rhoi hwb i'r amgylchedd yn ein gwlad. Fodd bynnag, rwy'n rhannu pryderon yr undebau amaeth y bydd ffermwyr tenant neu'r rhai sydd â hawliau tir comin, yn debyg i un yr ymwelais ag ef yn fy rhanbarth, yn ei chael hi'n anodd bodloni gofynion y cynllun. Sut y byddwch chi'n sicrhau y bydd eich egwyddorion cyffredinol ar gyfer y cynllun ffermio cynaliadwy yn cynnwys ac yn gwarchod y mathau o ffermwyr rwyf wedi cyfeirio atynt? Maent yn rhan o draddodiad hir yng nghefn gwlad Cymru ac yn y Cymoedd rwy'n eu cynrychioli, ac mae'n rhaid inni sicrhau nad yw canlyniadau anfwriadol y cynllun yn bygwth eu dyfodol.