Cynllun Lles Anifeiliaid

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 2:35, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Flwyddyn i mewn i'r broses pum mlynedd, fel y dywedwch, mae cynnydd da wedi bod, yn fwyaf arbennig yr ymgynghoriad ar deledu cylch cyfyng gorfodol mewn lladd-dai. Ond o ran blaenoriaethau, a gaf fi ofyn beth yw'r sefyllfa gyda'r defnydd o gewyll bridio ar gyfer adar hela? Rwy'n gwybod bod y cynllun yn cynnwys ymrwymiad i archwilio'r dystiolaeth ynghylch eu defnydd, ond gyda'r tymor saethu newydd wedi cychwyn, mae defnyddio cewyll bridio a sut mae hynny'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i les anifeiliaid yn cael sylw, a hynny'n briodol. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar y mater penodol hwnnw?