Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch. Fel y nodwyd gennych, mae gennym ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid yn y cynllun. Mae'n rhaglen bum mlynedd, ac rydym yn edrych yn ôl dros y flwyddyn ar yr hyn y llwyddasom i'w gyflawni yn y flwyddyn gyntaf. Nid yw'n bosibl rhoi llinell amser i chi ar gyfer yr ymgynghoriad ar unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth les, na'r cod ymarfer, mewn perthynas â lles adar hela. Ac yn sicr, fel y byddwch yn deall, yn swyddfa'r prif swyddog milfeddygol, mae nifer sylweddol o swyddogion yn gorfod ymdrin â'r achosion o ffliw adar, sy'n sicr wedi cael blaenoriaeth, fel y gallwch ddychmygu. Ond yn sicr, wrth inni ddechrau ar ail flwyddyn y cynllun, byddwn yn edrych ar beth y gallwn ei wneud, ac rwy'n gwybod bod hwn yn faes o bwys mawr—gallaf ddweud wrth edrych ar fy mag post pa mor bwysig yw hyn.