Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Rydych chi'n hollol iawn—yn sicr fe welsom gynnydd sylweddol yn nifer yr aelwydydd a gafodd anifail anwes yn ystod y pandemig COVID-19. Ac wrth inni gefnu ar y pandemig, a phobl yn dychwelyd i'r gwaith ar ôl bod yn gweithio gartref efallai, pan gawsant eu hanifeiliaid anwes, fe welsom angen i ailgartrefu llawer o anifeiliaid. Yn anffodus, rwy'n meddwl bod yr argyfwng costau byw hefyd nawr yn cynyddu nifer yr anifeiliaid anwes sydd angen eu hailgartrefu. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw ddadansoddiad arwyddocaol. Gwn fod swyddfa'r prif swyddog milfeddygol wedi gweithio gyda sefydliadau'r trydydd sector i weld beth y gallwn ei wneud i'w cynorthwyo. Rhaid imi fod yn gwbl onest—nid wyf yn meddwl y byddai fy nghyllideb yn caniatáu imi roi unrhyw gyllid pellach i'r trydydd sector, ond yn amlwg, pe bai modd ystyried hynny yn y dyfodol, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.