Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Un o'r pethau a ddeilliodd o COVID yw bod llawer o bobl yn ystod y pandemig COVID wedi cael anifail anwes, a chyfrifoldeb am anifail anwes. Mae'r goblygiadau lles, wrth inni gefnu ar COVID, wedi golygu bod llawer o anifeiliaid anwes wedi cael eu gadael, a bod pwysau mawr ar y sector elusennol sy'n tueddu i'w cymryd a gofalu amdanynt a cheisio eu hailgartrefu. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad o'r gwaith ychwanegol y mae elusennau sy'n gweithio yng Nghymru wedi gorfod ei wynebu oherwydd hyn, ac os yw'r Llywodraeth wedi gwneud dadansoddiad, a ydych chi'n ystyried gweithio gyda hwy yn ariannol ac yn gydweithredol mewn ffyrdd eraill, i gynnal y baich ychwanegol hwn sy'n eu hwynebu, fel bod modd ailgartrefu'r anifeiliaid hyn mewn ffordd synhwyrol, yn hytrach na gorfod eu rhoi i gysgu yn y pen draw, sy'n drasig?