Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 30 Tachwedd 2022.
A gaf fi ategu galwad Ken Skates am amlygu'r cyfleoedd a geir yn sgil cydweithio trawsffiniol o'r fath yng ngogledd-ddwyrain Cymru a gogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig i drafnidiaeth yno, lle gwelwn oddeutu 200,000 o bobl yn croesi'r ffin yn ddyddiol? Ond yn wir, mae yna gyfleoedd eraill y credaf fod Cynghrair Mersi a'r Dyfrdwy, fel esiampl wych, yn ceisio manteisio arnynt, sef y cyfle i weithio ar draws Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol dros y ffin, ac un o'r rheini—. Cefais y fraint o fynychu cyfarfod gyda HyNet ddydd Llun yr wythnos hon, ac fe wnaethant rannu gyda mi eto eu prosiect arfaethedig nid yn unig i wneud yn siŵr fod hydrogen ar gael yn y rhanbarth, ond hefyd i dynnu carbon o lawer o'r diwydiannau yn y rhanbarth hefyd, a buddsoddi biliynau o bunnoedd yn yr ardal. Felly, Weinidog, tybed pa asesiad a wnaethoch o'r rôl y gall y pwyllgor sefydlog ei chwarae wrth weithio gyda Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau y bydd prosiectau fel HyNet a phrosiectau ecogyfeillgar cadarnhaol eraill o'r fath yn gwneud gwahaniaeth yn y rhanbarth.