Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Fel rwy'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd ac rwy'n meddwl eich bod chi'n iawn ynghylch prosiect HyNet. Unwaith eto, cyfarfûm â Steve Rotherham ac Andy Burnham i drafod y rôl y gall HyNet a'r prosiect hydrogen ei chwarae ar draws y ffin, ac mae'r ddau'n awyddus iawn i gymryd rhan. Felly, gall y pwyllgor ddod â'r holl bartneriaid hyn at ei gilydd, ac fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Ken Skates ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cael pobl o'r tu allan i allu ein helpu gyda'n trafodaethau, yn enwedig gan fod arweinwyr yr awdurdodau lleol o bob rhan o ogledd Cymru—y gogledd-orllewin a'r gogledd-ddwyrain—yn y cyfarfod hwnnw, i glywed pa mor agos y gallwn ni weithio gyda'n gilydd, oherwydd, fel y dywedoch chi, mae nifer sylweddol o bobl yn croesi'r ffin honno bob dydd.