Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Mae'n ddeddfwriaeth bwysig iawn ar sawl lefel. Fe gyfeirioch chi at ddwy ohonynt, ond mae’r rhan o’r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, i mi, yn bwysig iawn. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’r diben o gwbl. Rwy'n edrych ar fy mhapur briffio i weld pa flwyddyn—cafodd y ddeddfwriaeth rydym yn gweithio iddi ar hyn o bryd ei llunio ym 1953. Wel, mae hynny cyn imi gael fy ngeni, felly amser maith yn ôl, ac yn amlwg, mae angen ei diweddaru i sicrhau ei bod yn addas i'r diben. Rwyf wedi cael rhai sgyrsiau gyda'r cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt ynglŷn a'r ffaith bod gwir angen inni sicrhau bod ein deddfwriaeth yn addas i'r diben, ac yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o hynny. Felly, rwy’n fwy na pharod i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Fe sonioch chi am wahardd allforio gwartheg byw, sydd, unwaith eto, o safbwynt lles anifeiliaid, yn wirioneddol bwysig yn fy marn i.